Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â Dr Ruth Hussey ar Trydar rhwng 6:30yh – 7:30yh ar ddydd Mawrth y 7ed o Dachwedd i ddweud eich dweud am ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru wedi bod yn casglu tystiolaeth gan randdeiliaid a'r cyhoedd ynghylch sut y dylai gwasanaethau Cymru edrych yn y dyfodol. Cyhoeddwyd adroddiad interim ym mis Gorffennaf.

Wrth i'r Adolygiad ddechrau ffurfio casgliadau terfynol, mae am glywed eich sylwadau ynghylch rhai o'r meysydd allai fod dan sylw yn yr argymhellion, fel modelau gofal; datblygiadau digidol a thechnolegol; y weledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal a'r meysydd yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw yn yr adroddiad terfynol.

Rydym wedi llunio 6 o gwestiynau i arwain y drafodaeth:

  1. Cyhoeddwyd ein hadroddiad interim ym mis Gorffennaf gan amlinellu’r achos dros newid. Y weledigaeth sy'n cael ei chynnig yw darparu gwasanaethau 'iechyd a gofal cymdeithasol di-dor, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sydd o bwys i’r unigolyn' - ydych chi'n cytuno â'r weledigaeth hon?
  2. Gallai'r nod pedair elfen (gwella iechyd a llesiant poblogaethau, gwella profiad a chanlyniadau i’r claf, cyfyngu ar gostau a gwella bywyd gwaith y staff) gynnig pwrpas clir i gyflawni'r weledigaeth honno - a fyddai hyn yn ddefnyddiol i egluro'r hyn sydd angen ei wneud?
  3. Pa nodweddion sy’n angenrheidiol i allu darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol 'di-dor' ac ataliol yn llwyddiannus?
  4. Beth sydd angen ei newid yn y gwasanaethau presennol er mwyn eu hadeiladu o amgylch anghenion unigolyn / y teulu, yn hytrach na sefydliadau?
  5. Pa ddatblygiadau digidol a thechnolegol hanfodol fyddai’n helpu i ryddhau amser proffesiynol ar gyfer gofal wyneb wrth wyneb?
  6. Beth yw'r 3 prif beth yr hoffech eu gweld yn cael sylw yn ein hadroddiad terfynol?

Hanfodion sgwrs ar Twitter:

Beth yw sgwrs ar Twitter?

Sgwrs ar Twitter yw pan fo grŵp o ddefnyddwyr yn cwrdd ar adeg benodol i drafod testun penodol, gan ddefnyddio hashnod (yn yr achos hwn, #dyfodoliechydagofal) ar bob neges.

Bydd Dr Ruth Hussey (@husseyruth) yn gosod cwestiynau (wedi'u labelu â'r rhif priodol) i ddenu ymateb gan y cyfranogwyr a'u hannog i drafod â'i gilydd.

Bydd y sgwrs yn para am awr.

Sut i gymryd rhan

  • Ymunwch â Twitter (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes)
  • Edrychwch am y sgwrs drwy chwilio am yr hashnod #dyfodoliechydagofal
  • Ymunwch â'r sgwrs pan fyddwch yn barod i wneud hynny - mae croeso i chi gyflwyno'ch hun
  • Cofiwch ddefnyddio'r hashnod bob tro y byddwch yn trydar
  • Bydd Ruth yn gosod y cwestiynau gan eu labelu - C1, C2, C3 ac ati. Felly wrth ymateb nodwch A1 i ateb cwestiwn 1, A2 i ateb cwestiwn 2 ac yn y blaen, er mwyn i ni wybod pa gwestiwn sydd dan sylw.