Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diolch am gymryd rhan yn y Sgwrs Genedlaethol ar y Warant i Bobl Ifanc

Y Warant i Bobl Ifanc yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi pawb dan 25 oed sy’n byw yng Nghymru i gael lle ar gwrs addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd, neu ddod yn hunangyflogedig.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau bod y cyngor, y canllawiau, y cymorth a’r rhaglenni sydd ar gael i bobl ifanc yn cynnig y cyfleoedd gorau posibl iddynt lwyddo.

Er mwyn ein helpu i ddeall beth y gellid ei wneud yn well, roeddem am glywed gan bobl ifanc o bob cwr o Gymru, er mwyn i’ch safbwyntiau gyfrannu at unrhyw newidiadau i bolisïau sy’n bodoli eisoes a helpu i lunio polisïau newydd.

Pan wnaethoch gytuno i gymryd rhan yng ngrwpiau ffocws y Sgwrs Genedlaethol, gwnaethom ddweud wrthych y byddem yn gwneud y canlynol:

Gwrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i wella’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig fel bod pob person ifanc yn cael y cyfle i lwyddo. Dim ond drwy wrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud y gallwn wneud hyn.

Ystyried eich barn

Pan fydd yr wybodaeth o’r grwpiau ffocws parhaus wedi’i chasglu, caiff adroddiad ei lunio yn nodi’r hyn rydych wedi’i ddweud wrthym. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ystyried sut y gallwn wneud newidiadau i raglenni a gwasanaethau sy’n bodoli eisoes.

Adrodd yn ôl ichi er mwyn rhoi gwybod ichi sut rydych wedi ein helpu i lywio darpariaeth newydd

Pan fyddwn wedi ystyried pa newidiadau y gallem eu gwneud, byddwn yn ymgynghori â grwpiau o bobl ifanc er mwyn iddynt allu ein helpu i wneud yn siŵr bod y newidiadau hynny’n addas at y diben.

Beth sydd wedi digwydd hyd yma?

Cynhaliwyd cylch cyntaf y grwpiau ffocws gan Beaufort Research yn ystod haf 2022. Cynhaliwyd sgyrsiau ychwanegol â chyfranogwyr rhaglenni cyflogadwyedd a grwpiau eraill o bobl ifanc. Gwnaethom hefyd holi pobl ifanc 16 i 24 oed ledled Cymru drwy arolwg ar-lein!

Defnyddiwyd yr holl wybodaeth a gasglwyd drwy’r grwpiau a’r arolygon hyn i lunio adroddiad, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi ac yn ei rannu’n eang ag adrannau’r llywodraeth ac unrhyw randdeiliaid sydd â diddordeb mewn pobl ifanc, addysg, hyfforddiant a/neu gyflogaeth.

Materion a nodwyd

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ystyried sut i fynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd, er enghraifft:

Mater a nodwyd: Nododd 41% o bobl ifanc 16 i 24 oed mai trafnidiaeth oedd y prif rwystr i bobl ifanc 16 i 24 oed ddechrau dilyn cwrs neu hyfforddiant newydd neu gael swydd newydd.

Beth rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn?

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n helaeth mewn cynllun cymhorthdal teithio i bobl ifanc. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o’r cymorth a’r drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod pob person ifanc, a’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc, yn ymwybodol o’r help sydd ar gael. Rydym yn gwneud hyn drwy sicrhau mwy o gyfathrebu drwy gyfleoedd penodol, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, y bwrdd cynghori ieuenctid, a biwroau cyflogaeth a menter mewn colegau addysg bellach.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ystyried ymestyn Fy Ngherdyn Teithio i gynnig tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc.

Gall dysgwyr sydd wedi’u cofrestru ar un o raglenni Twf Swyddi Cymru+ bellach hawlio 100% o’u costau teithio dros dro, ac mae’r lwfans hyfforddi wedi’i ddyblu i £60 yr wythnos.

Gall dysgwyr sy’n dilyn un o raglenni ReACt+ hawlio hyd at £300 o gymorth ychwanegol tuag at gostau ychwanegol wrth hyfforddi, gan gynnwys costau teithio.

Mae rhai colegau addysg bellach yn cynnig trafnidiaeth am ddim neu gymhorthdal teithio.

Mater a nodwyd: 73% o bobl ifanc 16 i 18 yn gwybod ble i gael y cymorth neu’r cyngor i’w helpu i ddilyn cwrs neu swydd o’u dewis, o gymharu â dim ond 47% o bobl 19 i 24 oed.

O ran y rheini nad oeddent wedi cysylltu ag unrhyw sefydliadau am help neu gymorth, pan ofynnwyd iddynt pam nad oeddent wedi gwneud hynny, dywedodd 29% o bobl ifanc 16 i 24 oed nad oeddent yn gwybod sut i ddod o hyd i’r math hwn o wasanaeth.

Beth rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn?

Rydym wedi cynyddu ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r Warant i Bobl Ifanc er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod ble i gael yr help a’r cyngor sydd eu hangen arnynt. Mae’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth yn cynnwys fideos cadarnhaol byr (yn unol ag awgrymiadau cyfranogwyr) sy’n cael eu defnyddio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys Facebook, Instagram a TikTok. Mae hefyd yn defnyddio dylanwadwyr Cymraeg i greu cynnwys i’w rannu drwy eu sianeli eu hunain, enwogion a chynghorwyr i ymgysylltu â phobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr (y Tîm Newyddion Cadarnhaol) a hysbyseb deledu.

I gael rhagor o fanylion am ymgyrch y Warant i Bobl Ifanc, ewch i Sut y gallwn ni helpu (llyw.cymru) a sgroliwch i lawr i’r Warant i Bobl Ifanc.

Mae Gyrfa Cymru wedi cyhoeddi tudalennau newydd i rieni ar ei gwefan. Mae’r tudalennau’n darparu gwybodaeth ac adnoddau er mwyn helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi dysgu eu plentyn a’i benderfyniadau o ran gyrfa.

Mae Biwroau Cyflogaeth a Menter wedi’u gwella ym mhob coleg addysg bellach, gan gynnig cyngor ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth a chynnig gwasanaethau fel helpu i ddod o hyd i brofiad gwaith neu gyfleoedd gwirfoddoli, gwaith â thâl, ysgrifennu CV a sgiliau cyflogadwyedd.

Mater a nodwyd: 3 Nododd 36% o bobl ifanc 16 i 24 oed fod diffyg profiad gwaith yn rhwystr i ddilyn cwrs neu hyfforddiant newydd neu gael swydd newydd.

Beth rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn?

Dyrannwyd dros hanner miliwn o bunnau i Gyrfa Cymru er mwyn cynnig hyd at 500 o leoliadau profiad gwaith dros y ddwy flynedd nesaf. Prif nod y lleoliadau profiad gwaith hyn fydd cefnogi dysgwyr Blwyddyn 11 sydd wedi ei chael hi’n anodd ailafael yn eu haddysg yn dilyn y tarfu a achoswyd gan y pandemig ac y mae risg y byddant yn rhoi’r gorau i addysg.

Bydd colegau addysg bellach yn datblygu ac yn treialu rhaglenni newydd i ddysgwyr sy’n astudio mewn colegau addysg bellach ond nad yw eu rhaglen ddysgu yn cynnig profiad gwaith fel rhan o’r cwrs.

Rydym am ddeall safbwyntiau pobl ifanc ar brofiad gwaith, sut beth yw profiad gwaith yn eu barn nhw, a pha fath o brofiad gwaith fyddai’n fuddiol ac yn berthnasol iddynt. Er mwyn ein helpu i ddysgu mwy am hyn, byddwn yn parhau i ofyn cwestiynau ynglŷn â hyn yn ystod ail gylch y Sgwrs Genedlaethol.

Mater a nodwyd: Er i 38% o bobl ifanc nodi bod diffyg hyder yn rhwystr, nodwyd hefyd fod rheoli iechyd meddwl yn ffactor sylweddol sy’n atal pobl ifanc rhag cael neu gadw lle ar gwrs addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Beth rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn?

Ers 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £16 miliwn mewn colegau addysg bellach, gan eu galluogi i gyflogi staff ychwanegol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant dysgwyr, meithrin gwydnwch a sicrhau llesiant digidol. Bydd cyllid ychwanegol yn 2022/23 yn galluogi colegau i ddarparu gwasanaethau brysbennu er mwyn sicrhau y caiff llesiant ac anghenion dysgwyr eu nodi a’u rheoli’n gynnar, gan helpu i wella hyder a lleihau gorbryder.

Dyrannwyd £2.5 miliwn i awdurdodau lleol drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid er mwyn cefnogi iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl ifanc drwy ddulliau gwaith ieuenctid. Mae gan weithwyr ieuenctid y sgiliau i weithio gyda phobl ifanc, ac yn aml, nhw sydd yn y sefyllfa orau i nodi a all fod angen cymorth ychwanegol ar berson ifanc a phryd y gall fod angen i’r cymorth hwnnw gael ei ddarparu gan wasanaethau mwy arbenigol.

Mae Pecyn Cymorth Iechyd meddwl wedi’i ddatblygu ac ar gael drwy Hwb Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl), sy’n cysylltu pobl ifanc 11 i 25 oed â gwefannau, apiau, llinellau cymorth, a mwy, a meithrin gwydnwch ar draws chwe chategori:

  • gorbryder
  • hwyliau isel
  • cadw’n iach
  • profedigaeth
    gwybodaeth am y coronafeirws
  • argyfwng

Mae Byrddau Iechyd Lleol wedi darparu cyngor a gwybodaeth glir ar sut i gael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl, os oes angen. Gellir dod o hyd i’r wybodaeth hon ar wefannau byrddau iechyd.

Rydym wedi cynnig mwy o gymorth i ddysgwyr ar raglenni TSC+, gan gynnwys gweithgareddau cyfoethogi i’r rhai y mae angen cymorth arnynt gyda’u llesiant a/ neu gymorth i’w helpu i barhau â’u rhaglen lle y gall fod risg y byddant yn rhoi’r gorau iddi.

Gall dysgwyr mewn Cymunedau am Waith a Mwy droi at fentoriaid am gymorth un i un pwrpasol wedi’i deilwra i’r unigolyn ac mae cyrsiau meithrin hyder ar gael i gyfranogwyr

Rydym yn parhau i ddysgu mwy am faterion penodol yn ymwneud ag iechyd meddwl a hyder yn ystod ail gylch y Sgwrs Genedlaethol. Rydym am dreiddio’n ddyfnach i brofiadau pobl ifanc o gymorth iechyd meddwl yn eu hamgylchedd gwaith, addysg neu hyfforddiant.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae angen inni wneud mwy o waith i fynd i’r afael â’r materion a amlinellwyd ac, wrth gwrs, mae llawer o faterion eraill wedi’u nodi yn yr adroddiad y mae angen inni fynd i’r afael â nhw o hyd, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill):

  • materion a wynebir gan ofalwyr ifanc
  • yr effaith y gallai dilyn cwrs addysg neu hyfforddiant neu ddechrau gweithio ei chael ar fudd-daliadau
  • materion a wynebir gan bobl ifanc â phroblem iechyd neu anabledd
  • pontio o’r ysgol i’r camau nesaf

Bydd yn cymryd amser i fynd i’r afael â’r holl faterion hyn, ond rydym am roi sicrwydd ichi ein bod yn adolygu ac yn ystyried yr holl sylwadau y mae pob un ohonoch wedi’u gwneud yn ystod eich adborth.

Rydym eisoes wedi dechrau gwaith ar gylch nesaf y Sgwrs Genedlaethol. Bydd yr ail gylch hwn yn treiddio’n ddyfnach i rai o’r materion a nodwyd gan bobl ifanc er mwyn ein helpu i feithrin dealltwriaeth well ac ystyried pa newidiadau y gallem eu gwneud i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Pan fyddwn wedi ystyried pa newidiadau y gallem eu gwneud, byddwn yn parhau i gynnwys pobl ifanc mewn argymhellion, newidiadau a phenderfyniadau. Byddwn yn gwneud hyn drwy sefydlu Bwrdd Cynghori Ieuenctid, a fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf yn ystod gwanwyn 2023.

Fel yn achos cylch cyntaf y Sgwrs Genedlaethol, ni fyddwn yn casglu eich manylion personol felly ni fyddwn yn gallu cysylltu â chi yn uniongyrchol, ond byddwn yn adrodd yn ôl i hwylusydd eich grŵp, a all roi gwybod ichi sut mae eich safbwyntiau wedi helpu i ddylanwadu ar newidiadau yma yn Llywodraeth Cymru.