Neidio i'r prif gynnwys

Mae feirws Shamonda (SHAV) yn effeithio ar wartheg yn bennaf ond mae hefyd wedi'i weld ar ddefaid, geifr, alpacas a cheffylau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Am y feirws

Mae Feirws Shamonda (SHAV) wedi'i ddarganfod mewn sawl gwlad yn Ewrop yn 2026 gan gynnwys Ffrainc, y Swistir, yr Eidal, Sbaen, yr Almaen ac Iwerddon.

Cafodd yr achosion cyntaf o'r SHAV ym Mhrydain eu cadarnhau gan APHA ar ddwy fferm odro ym mis Hydref 2026, y naill yng Nghymru a’r llall yng Lloegr.

O ran pobl, mae un person yn Ffrainc wedi’i ddal. Roedd ei system imiwnedd yn wan a bu farw ym mis Hydref 2026 wrth ei drin am salwch difrifol arall. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw dystiolaeth fod y feirws yn gallu cael ei basio rhwng pobl, ac nid yw awdurdodau iechyd cyhoeddus Ffrainc yn credu bod perygl i'r boblogaeth yn gyffredinol.

Nid yw'r SHAV yn glefyd hysbysadwy yn y DU ac ni roddir safleoedd lle ceir y SHAV o dan gyfyngiadau. 

I gael rhagor o wybodaeth a'r diffiniad o symptomau ar gyfer anifeiliaid cnoi cil a cheffylau, ewch i Nodiadau gwybodaeth am glefydau APHA (ar gov.uk).

Amheuaeth a chadarnhad

Os ydych yn credu bod SHAV ar eich da byw, holwch eich Milfeddyg Preifat. 

Arwyddion clinigol

Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol mewn gwartheg:

  • gwres
  • dolur rhydd
  • anorecsia (yn bwyta llai) 
  • blinder
  • llai o gnoi cil
  • cynhyrchu llai o laeth
  • effeithiau ar atgenhedlu: erthyliadau, ddim yn bwrw'r brych, metritis ac endometritis

Mae'n debygol y byddai'n effeithio ar sawl anifail yn y fuches ar yr un pryd. Mae yna bryderon hefyd y gallai buwch gyflo sy'n cael ei heintio eni llo â namau arno, tebyg i'r rhai a welir gyda feirws Schmallenberg (SBV) a feirws y Tafod Glas (BTV). 

Mae'r firws wedi'i ganfod hefyd mewn defaid, geifr, alpacas a cheffylau. Mae rhai o'r ceffylau y cafwyd y SHAV arnyn nhw yn dangos arwyddion o glefyd niwrolegol. Mae'r arwyddion clinigol yn cynnwys:

  • colli cydsymudiad yn y cyhyrau
  • gwendid
  • anhwylderau eraill y system nerfol

Mae angen rhagor o waith i ddeall ai'r SHAV ei hun sy'n achosi'r arwyddion hyn. Gall rhai o'r arwyddion a welwyd mewn ceffylau fod yn debyg i'r rhai a welir mewn clefydau hysbysadwy fel feirws Nîl y Gorllewin, felly mae ymchwiliad gan filfeddyg yn bwysig.

Ei drosglwyddo

Mae feirws Shamonda yn perthyn i'r un grŵp o feirysau â feirws Schmallenberg (SBV) ac ar hyn o bryd deallir mai brathiadau gan wybed Culicoides sy'n ei ledaenu. 

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw dystiolaeth ei fod yn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol o anifail i anifail. Mae lle i gredu ei fod yn gallu cael ei drosglwyddo gan y fam i'w llo. Mae angen rhagor o dystiolaeth i ddeall yn well pob llwybr trosglwyddo. 

Ei atal

Gallwch helpu i atal feirws Shamonda rhag lledaenu drwy:

  • sicrhau'ch bod yn cael eich da byw o ffynonellau cyfrifol
  • cadw golwg am arwyddion y clefyd
  • cadw safonau hylendid a bioddiogelwch da ar eich safle
  • cadw anifeiliaid mewn adeiladau sy'n cadw gwybed sy'n brathu allan – mae hyn yn arbennig o bwysig ar doriad gwawr a machlud

Ar hyn o bryd nid oes brechlyn masnachol ar gyfer feirws Shamonda.