Neidio i'r prif gynnwy
Ffotograff o Siân Elen Tomos

Siân yw Prif Swyddog Gweithredol GISDA yn y Gogledd ar hyn o bryd.

Mae GISDA yn elusen sy’n cefnogi pobl ifanc ac yn darparu amryw o wasanaethau gan gynnwys llety, gwasanaethau atal digartrefedd, cefnogaeth LHDTC+, grwpiau rhieni ifanc, gwasanaeth i'r rhai sy'n gadael gofal a chymorth iechyd meddwl therapiwtig.

Cymhwysodd Siân fel Gweithiwr Cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd yn 2002 ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Bu'n gweithio i Wasanaethau Cymdeithasol Gwynedd am bron i 10 mlynedd fel gweithiwr cymdeithasol 'Amddiffyn Plant a Phlant sy’n derbyn Gofal' ac yna fel rheolwr i'r gwasanaeth plant anabl.

Mae Siân yn danbaid dros gydraddoldeb, yn arbennig i bobl ifanc sydd wedi gadael gofal, pobl ifanc o'r gymuned LHDTC+ a phobl ifanc sydd wedi profi digartrefedd. Mae Siân yn aelod o Fwrdd ‘Gwersylloedd yr Urdd’ a Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru ac mae'n eiriolwr cryf dros hawliau plant. Iaith gyntaf Siân yw'r Gymraeg.