Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r ddogfen hon yn trafod ymgyrch genedlaethol Llywodraeth Cymru i hybu datblygiad mewn Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, gyda ffocws parhaus ar atal yn y blynyddoedd cynnar, tra'n ymestyn gwaith 'Siarad gyda fi' i gwmpasu ystod oedran ehangach. 

Sut i ymateb

Dylid e-bostio/postio ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i’r cyfeiriad isod i gyrraedd erbyn 30 Ebrill 2026 fan hwyraf.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Mae’r dogfennau ymgynghori ar gael o wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru/ymgyngoriadau

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth:

Siarad Gyda Fi
Is-adran Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae
Cyfarwyddiaeth Gofal Sylfaenol, Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar
Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Busnes Rhydycar 
Merthyr Tydfil
CF48 1UZ

e-bost: SiaradGydaFi@llyw.cymru

Ffôn: 0300 0604400

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yn eich ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith dadansoddi ar ymatebion i ymgyngoriadau, mae'n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy'n cael eu cadw amdanoch chi, a'u gweld
  • i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i ofyn am i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd y data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd y mae'n cael ei defnyddio, neu os hoffech chi arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113

Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

Diben yr ymgynghoriad

Lansiwyd rhaglen 'Siarad gyda fi' Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2020. Fe'i datblygwyd i hybu datblygiad mewn Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, gyda ffocws ar y blynyddoedd cynnar (0-5 mlynedd).

Nod y rhaglen oedd hybu sgiliau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu babanod a phlant ifanc rhwng 0 a 5 oed yng Nghymru ar lefel gyffredinol, grŵp ac unigol. Rydym wedi gallu dangos effaith a chanlyniadau cadarnhaol ym mhob maes a gwmpaswyd yn y cynllun cyflawni cyntaf.

Ar ôl cyflwyno'r rhaglen yn llwyddiannus am bum mlynedd, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno adeiladu ar lwyddiannau 'Siarad gyda fi' drwy ymestyn y cynllun gwaith a chynnwys plant rhwng 5 ac 11 oed. Rydym am sicrhau bod ein blaenoriaethau yn cyd-fynd â blaenoriaethau ein rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys babanod, plant a'u teuluoedd; a'n partneriaid o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru.

Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir, er bod ffocws ar atal yn y blynyddoedd cynnar yn parhau i fod yn bwysig, mae plant y tu hwnt i'r ystod oedran hon hefyd angen mynediad at gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu effeithiol ar lefel gyffredinol ac wedi’i thargedu.

Trosolwg a chyd-destun

Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu: Cynllun Cyflawni 2026-2030

Nod Llywodraeth Cymru yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd lleferydd, iaith a chyfathrebu a sicrhau bod babanod a phlant rhwng 0 ac 11 oed sydd angen cymorth yn cael eu nodi'n gynnar a'u cefnogi'n effeithiol, gydag ymyriadau yn cael eu cynnig pan fo'u hangen. 

Mae 1 o bob 5 o blant a phobl ifanc yn cael anhawster gyda'u lleferydd, iaith a chyfathrebu[1] ac mae gan dros 10% ohonynt anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu hirdymor sy'n creu rhwystrau i gyfathrebu neu ddysgu mewn bywyd bob dydd[2].

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod plant sy'n byw mewn tlodi yn dioddef yn anghymesur o ran oedi wrth ddatblygu sgiliau iaith[3]. Hynny yw, y plant hynny y mae eu sgiliau iaith yn datblygu'n llawer arafach na sgiliau iaith plant eraill o'r un oed, ond nad oes ganddynt anhwylder penodol. Mae sgiliau iaith yn ffactor allweddol yn y cylchoedd rhwng y cenedlaethau a all wneud i dlodi barhau wrth i sgiliau cyfathrebu gwael gael eu trosglwyddo o'r rhiant i'r plentyn[4].

Ffeithiau allweddol

  • Mae 32% o blant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn byw mewn ardaloedd o anfantais gymdeithasol uchel[5]
  • 30% o blant yng Nghymru a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, sef y math mwyaf cyffredin o Angen Dysgu Ychwanegol yng Nghymru[6]
  • Mae plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl, ac yn llai tebygol o gael mynediad at gymorth, gan arwain at anfantais ddwbl[7]
  • Mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn arwydd allweddol o lesiant mewn plant, gan eu helpu i reoli emosiynau, cyfathrebu teimladau a sefydlu perthnasoedd[8]
  • Mae buddsoddi mewn cefnogi sgiliau iaith yn cael effaith fawr iawn ar ddeilliannau am gost isel iawn[9]
  • Mae hawl plant i fynegi eu hunain wedi'i nodi yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

[1] Speech and Language UK, 2023 Listening to unheard children report

[2] What Are Speech, Language and Communication Needs (SLCN)? | Afasic

[3] CSJ, 2023 Two Nations

[4] Sullivan et al, 2021 The intergenerational transmission of language skill - The British Journal of Sociology | Wiley Online Library

[5] Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), 2023 - Anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig

[6] Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), 2023 - Anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig

[7] Speech and Language UK, 2025

[8] EIF, 2017 Language as a child wellbeing indicator | Early Intervention Foundation

[9] EEF Pecyn Cymorth Addysgu a Dysgu

Y ffordd ymlaen yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n adeiladol gyda Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yng Nghymru, ynghyd ag ystod eang o randdeiliaid eraill, i gyflwyno 'Siarad gyda fi', y cynllun cyflawni ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu a gyhoeddwyd yn 2020. Mae'r cynllun cyflawni yn canolbwyntio ar gymorth cyffredinol a chymorth wedi'i thargedu ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu, ac nid ar ddarparu Therapi Iaith a Lleferydd arbenigol.

Rydym wedi gweithio i godi proffil lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar ac i ddatblygu llwybrau effeithiol ar gyfer nodi anghenion ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau bod plant yn cael eu cefnogi ar yr adeg iawn, yn y lle iawn a chan y person iawn.

Gallai fod angen cymorth ar unrhyw fabi neu blentyn, ni waeth beth fo'i oedran, ble mae'n byw na beth yw ei amgylchiadau teuluol, i ddatblygu ei sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Ein nod yw sicrhau y gall plant ar draws Cymru gael gafael ar gymorth o safon uchel fel y bo angen, boed yn gymorth cyffredinol neu'n gymorth wedi'i dargedu, i feithrin eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu. 

Nod y ddogfen ymgynghori hon, a ddatblygwyd mewn trafodaeth â Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd, yw defnyddio'r hyn a ddysgwyd o 'Siarad gyda fi' i ysgogi gwelliant fel bod mwy o blant yng Nghymru yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu. 

Mae Gweinidogion a swyddogion wedi cydweithio ar y cynllun drafft er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu ar draws sectorau (yn cynnwys gofal plant a chwarae, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol) mewn ffordd sy'n ymgysylltu â theuluoedd ac yn adeiladu ar y llwyddiannau presennol.

Nodau'r ymgynghoriad

Rydym yn cynnal ymgynghoriad gyda babanod, plant a'u teuluoedd i sicrhau bod eu lleisiau ar flaen y gad o ran datblygu polisi ar leferydd, iaith a chyfathrebu.

Rydym hefyd yn gwahodd pawb y mae eu gwaith a'u cyfrifoldebau yn cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar ddatblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu, i gyfrannu at y sgwrs. Rydym eisiau eich help i nodi unrhyw gamau pellach y gallai fod angen i ni eu cymryd i godi proffil lleferydd, iaith a chyfathrebu ymhellach, ac i sicrhau bod proses effeithiol ar waith ar gyfer nodi anghenion a chymorth effeithiol yn ei le i’w diwallu. Bydd angen i bob rhan o'r system (addysg, iechyd, gofal cymdeithasol ac ati) weithio gyda'u gilydd i'n helpu i lwyddo.

Ein huchelgais yw gwneud mwy i gefnogi babanod a phlant sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu neu sy'n wynebu risg o ddatblygu anghenion o'r fath, ac adeiladu ar yr hyn rydym yn gwybod ei fod yn gweithio fel bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn gallu cael mynediad at gymorth effeithiol wrth dyfu. 

Pwrpas y ddogfen ymgynghori hon yw llywio sgyrsiau â rhanddeiliaid allweddol; sefydlu beth sy'n gweithio i gefnogi babanod a phlant sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu neu sy'n wynebu risg o ddatblygu anghenion o'r fath; a nodi pa gamau eraill y gallem ystyried eu cymryd yn y dyfodol. Mae'r camau gweithredu a nodir isod yn rhoi enghreifftiau o weithgarwch posibl o dan bob amcan. 

Sylwch fod yr ymrwymiadau presennol sydd ar y gweill o dan 'Siarad gyda fi' wedi'u cynnwys er mwyn rhoi cyd-destun (mewn ffont italig) ac nid ydynt rhan o'r ymgynghoriad hwn.

Ni fwriedir i'r rhestr fod yn un cynhwysfawr a bydd y broses ymgynghori yn llywio'r blaenoriaethau. 

Dyma'r amcanion arfaethedig:

Amcan 1: Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o leferydd, iaith a chyfathrebu

Canlyniad 1: Bydd teuluoedd babanod a phlant, yn ogystal â phlant eu hunain, yn wybodus a chymwys i ddeall pwysigrwydd lleferydd, iaith a chyfathrebu ac i allu cael mynediad at gymorth yn ôl yr angen.

Cam gweithredu allweddol: Hyrwyddo negeseuon allweddol ymhlith teuluoedd babanod a phlant i gefnogi datblygiad sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Gall gweithgarwch newydd gynnwys:

  • Ymgymryd ag adolygiad llenyddiaeth i sefydlu negeseuon am leferydd, iaith a chyfathrebu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer plant 5 i 11 oed.
  • Ymgymryd ag ymgyrch gyhoeddusrwydd genedlaethol, ddwyieithog i godi ymwybyddiaeth o batrymau datblygiad arferol a strategaethau i hyrwyddo lleferydd, iaith a chyfathrebu mewn plant 5 i 11 oed.
  • Hyrwyddo negeseuon allweddol ymhlith ymarferwyr drwy adnoddau'r Cwricwlwm i Gymru.
  • Ystyried a lledaenu gwybodaeth am effaith sgriniau a thechnoleg ar iechyd a llesiant plant, gan gynnwys sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Bydd ymrwymiadau presennol 'Siarad gyda fi' yn parhau, gan gynnwys: 

  • Parhau gydag ymgyrch gyhoeddusrwydd ar gyfer plant 0 a 5 oed gyda ffocws ar boblogaethau penodol e.e. plant â phrofiad o fod mewn gofal.
  • Gweithio gyda chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am adnoddau Pob Plentyn i sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cynnwys am leferydd, iaith a chyfathrebu.
  • Hyrwyddo negeseuon allweddol i ymarferwyr drwy'r adnoddau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar.

Amcan 2: Gwella'r ffordd y caiff anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu eu nodi mewn plant 

Canlyniad 2: Bydd ymarferwyr yn cael eu grymuso i adnabod arwyddion cynnar o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu trwy safoni'r broses o nodi anghenion mewn plant. Bydd hyn yn sicrhau y caiff plant eu cyfeirio at y person cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.

Cam gweithredu allweddol 2: Sicrhau bod sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn cael eu monitro ar yr adeg gywir, drwy ddefnyddio'r adnoddau mwyaf effeithiol.

Gall gweithgarwch newydd gynnwys:

  • Gweithio gyda chydweithwyr addysg i ystyried pa mor effeithiol yw trefniadau asesu presennol ysgolion a lleoliadau o ran adnabod plant sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.
  • Os oes angen, comisiynu adolygiad annibynnol o ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer nodi anghenion mewn plant 5 oed a hŷn yn Gymraeg a Saesneg.

Bydd ymrwymiadau presennol 'Siarad gyda fi' yn parhau, gan gynnwys:

Amcan 3: Sicrhau bod y gweithlu sy'n cefnogi babanod a phlant yn wybodus ac yn gymwys i ddarparu ymyriadau lleferydd, iaith a chyfathrebu effeithiol drwy ddarpariaeth gyffredinol ac wedi'i thargedu

Canlyniad 3: Caiff ymyriadau lleferydd, iaith a chyfathrebu priodol ar sail tystiolaeth eu cynnig pan fo'u hangen er mwyn gwella sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu a lleihau'r risg y bydd anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn effeithio ar ddatblygiad a llesiant plant. 

Cam gweithredu allweddol 3: Sicrhau bod y gweithlu sy'n cefnogi babanod a phlant yn wybodus ac yn gymwys i ddarparu ymyriadau lleferydd, iaith a chyfathrebu effeithiol drwy ddarpariaeth gyffredinol ac wedi'i thargedu.

Gall gweithgarwch newydd gynnwys:

  • Cynnal adolygiad o ymyriadau lleferydd, iaith a chyfathrebu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer plant 5 oed a hŷn yn Gymraeg a Saesneg.
  • Pennu hyd a lled y ddarpariaeth o gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer plant oedran ysgol yng Nghymru.

Bydd ymrwymiadau presennol 'Siarad gyda fi" yn parhau, gan gynnwys:

  • Parhau i ddatblygu ymyriadau o fewn Prosiect Pengwin.
  • Cyflwyno a gwerthuso ymyriadau Prosiect Pengwin.
  • Gweithio gyda chydweithwyr addysg i sicrhau bod ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg i blant o dan 5 oed yn unol â'r argymhellion gan Gwifrog.

Amcan 4: Uwchsgilio'r gweithlu gofal plant a chwarae, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn diwallu anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu

Canlyniad 4: Bydd y gweithlu gofal plant a chwarae, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn hyfforddedig ac yn meddu ar y sgiliau i gefnogi ymyriadau ar gyfer plant a theuluoedd pan fydd anghenion yn cael eu nodi o ran datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu. Bydd hyn yn sicrhau caiff plant y cymorth priodol gan y bobl agosaf atynt. 

Cam gweithredu allweddol: Sicrhau bod y gweithlu gofal plant a chwarae, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn hyfforddedig fel bod cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael ei roi i blant ar yr adeg gywir a bod ymyriadau'n cael eu monitro er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddatblygiad y plentyn.

Gall gweithgarwch newydd gynnwys:

  • Archwilio cyfleoedd i ymgorffori lleferydd, iaith a chyfathrebu mewn hyfforddiant cyn-gofrestru gan gynnwys Ymwelwyr Iechyd, Addysg Gychwynnol Athrawon a Gweithwyr Cymdeithasol.
  • Nodi bylchau yn yr adnoddau hyfforddi ar gyfer sectorau gwahanol.
  • Datblygu cwrs byr ar-lein am ddim ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant rhwng 5 ac 11 oed (yn debyg i Cyflwyniad i Leferydd, Iaith a Chyfathrebu).
  • Gweithio gydag Estyn a'r Arolygiaeth Gofal i ddatblygu adnoddau hyfforddi pellach i gefnogi Arolygwyr i ystyried lleferydd, iaith a chyfathrebu.
  • Rhannu arferion effeithiol o ran darpariaeth gyffredinol ac wedi'i thargedu ar gyfer therapyddion iaith a lleferydd ac arbenigwyr eraill sy'n gweithio gyda phlant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu a nodwyd.
  • Gweithio gyda chydweithwyr sy'n cefnogi dulliau o atal problemau lleferydd, iaith a chyfathrebu i rannu'r hyn a ddysgwyd yng ngwledydd y DU, Gweriniaeth Iwerddon ac yn rhyngwladol.

Bydd ymrwymiadau presennol 'Siarad gyda fi' yn parhau, gan gynnwys:

Amcan 5: Gwreiddio cymorth ataliol ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu ar draws Cymru

Canlyniad 5: Bydd pob baban a phlentyn yng Nghymru yn gallu cael mynediad at gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu effeithiol drwy ddarpariaeth gyffredinol ac wedi'i thargedu waeth lle maent yn byw.

Cam gweithredu allweddol 5: Sicrhau bod cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu effeithiol ar gael ar draws Cymru drwy ddarpariaeth gyffredinol ac wedi'i thargedu.

Gall gweithgarwch newydd gynnwys:

  • Cryfhau cysylltiadau â chydweithwyr sy'n gweithio ym maes iechyd meddwl a llesiant i sicrhau bod y berthynas â lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael ei chydnabod.
  • Cynnal cysylltiadau cryf â chydweithwyr sy'n gweithio ym maes llythrennedd i sicrhau bod y berthynas â lleferydd, iaith a chyfathrebu yn glir.
  • Cynnal cysylltiadau cryf â chydweithwyr sy'n gweithio ym maes Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) er mwyn ystyried anghenion hyfforddi ar gyfer Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) ac arbenigwyr ADY eraill.
  • Cryfhau cysylltiadau â chydweithwyr sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyfiawnder i sicrhau bod y berthynas rhwng lleferydd, iaith a chyfathrebu ac atal troseddu/dargyfeirio i ffwrdd o'r system cyfiawnder troseddol yn cael ei wneud yn glir.

Bydd ymrwymiadau presennol 'Siarad gyda fi' yn parhau, gan gynnwys:

  • Mynd ati mewn modd sy'n canolbwyntio ar hawliau plant, gan dynnu sylw at adrannau perthnasol o’r CCUHP yn ein holl waith.
  • Symud tuag at 'System Gytbwys' yn seiliedig ar argymhellion o gam 'dealltwriaeth' y prosiect 'Gwell Cyfathrebu' yng Nghymru.
  • Monitro a diweddaru canllawiau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Dechrau'n Deg a’r deilliannau.
  • Cyfrannu at ganllawiau eraill gan gynnwys y grant plant a chymunedau i sicrhau cysondeb ar draws dulliau.
  • Cynllunio gwerthusiad o weithgareddau 'Siarad gyda fi'.
  • Cefnogi gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu arbenigol i ystyried a gweithredu cymorth cyffredinol ac wedi'i thargedu y tu hwnt i Dechrau'n Deg.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Bydd yr ymatebion i'r cwestiynau ymgynghori canlynol yn cael eu defnyddio i fwrw ymlaen â'r camau nesaf yng ngwaith cynllunio 'Siarad gyda fi' ac yn llywio cynnwys y cynllun cyflawni.

Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno â'r datganiad - mae'r enw 'Siarad gyda fi - Cam 2’ yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i gwmpasu ymestyn y gwaith hwn i blant rhwng 5 ac 11 oed. Os na, allwch chi awgrymu rhywbeth arall?

Cwestiwn 2: Ydych chi'n cytuno y bydd y dull a awgrymwyd o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd lleferydd, iaith a chyfathrebu (amcan 1) yn helpu i hwyluso gwell canlyniadau i fabanod a phlant?

Cwestiwn 3: Ydych chi'n cytuno y bydd y dull a awgrymwyd o wella’r broses o nodi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu (amcan 2) yn helpu i hwyluso gwell canlyniadau i fabanod a phlant?

Cwestiwn 4: Ydych chi'n cytuno y bydd y dull a awgrymwyd o wella’r cymorth i'r rhai sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu (amcan 3) yn helpu i hwyluso gwell canlyniadau i fabanod a phlant?

Cwestiwn 5: Ydych chi'n cytuno y bydd y camau gweithredu arfaethedig i uwchsgilio'r gweithlu i ddiwallu anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu (amcan 4) yn arwain adnabod anghenion yn well a chymorth gwell? 

Cwestiwn 6: Ydych chi'n cytuno y bydd y dull a awgrymir o ymgorffori cymorth ataliol ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu ar draws Cymru (amcan 5) yn helpu i hwyluso gwell canlyniadau i fabanod a phlant?

Cwestiwn 7: Ar wahân i'r 5 amcan a awgrymir ar hyn o bryd yn y ddogfen ymgynghori, a oes unrhyw amcanion eraill y dylem eu cynnwys?

Cwestiwn 8: Ar wahân i'r camau gweithredu arfaethedig a gynhwysir yn y ddogfen ymgynghori, a oes unrhyw gamau eraill y dylem eu cynnwys?

Cwestiwn 9: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol yr amcanion arfaethedig yn y ddogfen ymgynghori (i hyrwyddo a chefnogi datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu ymhellach ledled Cymru) ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 10: Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu yr amcanion arfaethedig yn y ddogfen ymgynghori, sef hyrwyddo a chefnogi datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu ymhellach ledled Cymru, er mwyn:

  • sicrhau ei fod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg; neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Cwestiwn 11: Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid yr amcanion arfaethedig yn y ddogfen ymgynghori er mwyn hyrwyddo effeithiau cadarnhaol, neu leihau unrhyw effeithiau negyddol, ar hawliau plant?

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ateb y cwestiynau uchod.