Neidio i'r prif gynnwy

Mae seren 17 oed CBeebies wedi diolch i drawsblaniad cornbilen am ganiatáu iddi weld y goleuni unwaith eto.

Siaradwch am roi organau: Angharad Rhodes

Cafodd Angharad ddiagnosis o gyflwr prin o'r enw syndrom Oculofaciocardiodental (OFCD) sy'n effeithio ar ei llygaid, nodweddion yr wyneb, ei chalon a'i dannedd. 

Dywedodd Lynda Rhodes, mam Angharad:

“Er mwyn i Angharad allu cadw ei chanfyddiad o olau, penderfynodd meddygon y byddai angen iddyn nhw fewnosod falf mecanyddol yn ei llygad i leihau'r pwysedd. Byddai'r llawdriniaeth yn golygu bod angen rhodd o gornbilen arni.

“Ar ôl cryn drafod, deallodd Angharad fod rhoi organau yn golygu bod rhywun yn marw er mwyn ei helpu a phenderfynodd fwrw ymlaen â'r llawdriniaeth.” 

Ym mis Ebrill 2016, clywodd Angharad a Lynda fod rhoddwr ar gael ac y byddai'r llawdriniaeth yn digwydd ymhen pythefnos.

Gweithrediad llwyddiannus

Wedi'r llawdriniaeth, roedd llygaid Angharad wedi chwyddo ac yn dal ar gau, felly doedd dim sicrwydd a oedd y llawdriniaeth wedi llwyddo. 

Meddai Lynda:

“Buom yn dal ein gwynt yr wythnos wedi llawdriniaeth Angharad. Roedd rhyw deimlad o'r anhysbys, a bu'n rhaid i ni aros i weld a oedd y rhodd wedi gweithio. 

“Ar ôl ychydig ddyddiau, fe wnaeth Angharad gymryd prawf sensitifrwydd ysgafn a darganfod fod y llawdriniaeth wedi bod yn llwyddiant. Roedden ni ar ben ein digon." 

Bywyd ar ôl y llawdriniaeth

Bellach, mae Angharad yn gobeithio ysbrydoli eraill a all golli'i golwg.

Meddai Lynda:

“Fel teulu rydyn ni mor ddiolchgar bod rhywun wedi dewis rhoi ei gornbilen. Heb hynny, fe fyddai Angharad wedi byw mewn tywyllwch parhaus.

“Mae stigma o'r fath ynghylch llygaid yn gyffredinol. Mae llawer o bobl yn gwingo wrth drafod llygaid. Felly, mae pwnc rhoi gornbilen yn achosi i bobl deimlo'n anghyfforddus - ond mae angen inni drechu hynny. Mae'n gymaint o drueni bod hyn yn atal pobl rhag rhoi organau.

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.