Neidio i'r prif gynnwy

Egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

  • llais a rheolaeth
  • atal ac ymyrryd yn fuan 
  • lles
  • cydgynhyrchu

Hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

  • yr hawl i les
  • yr hawl i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth
  • yr hawl i gael asesiad
  • yr hawl i leisio eich barn a bod â rheolaeth dros benderfyniadau am eich cymorth
  • yr hawl i eiriolaeth

'Cynnig Rhagweithiol' mewn perthynas â’r Gymraeg

Dylai pob gofalwr gael 'cynnig rhagweithiol' i ddefnyddio’r Gymraeg. Cyfrifoldeb y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yw cynnig gwasanaethau yn Gymraeg yn hytrach na dibynnu ar y gofalwr, neu’r person y maent yn gofalu amdano, i orfod gofyn amdanynt.

Cydgynhyrchu

Dylai gofalwyr di-dâl fod yn bartneriaid cyfartal wrth greu polisi a gwasanaethau. Mae hyn yn golygu bod â llais wrth ddatblygu, cynllunio a darparu polisi a gwasanaethau, ond hefyd wrth ddatblygu ymchwil a hyfforddiant.

Cymorth ataliol yn y gymuned 

Gall atal ac ymyrryd yn fuan helpu gofalwyr di-dâl, a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt, i barhau â'u rôl ofalu ac osgoi cyrraedd pwynt argyfwng cyn cael mynediad at wasanaethau cymorth hanfodol. Dylai atal fod yn ffocws cyson gan awdurdodau lleol wrth ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl ac anghenion cymorth i ofalwyr.

Mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth 

Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael gwybodaeth a chyngor am y gofal a’r cymorth sydd ar gael a sut i gael gafael ar y cymorth hwnnw. Rhaid darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth mewn ffordd y gall pawb ei deall, a dylai ystyried anghenion iaith.

Asesiad o anghenion gofalwyr 

Mae gan ofalwyr di-dâl yr hawl i gael asesiad o anghenion gofalwyr a, lle nodir anghenion cymwys, i gael yr anghenion hynny wedi'u diwallu i'w helpu i gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnynt. Mae asesiad o'r fath ar wahân i unrhyw asesiad o anghenion y person y maent yn gofalu amdano.

Taliadau uniongyrchol

Bwriad taliadau uniongyrchol yw gwella dewis, rheolaeth ac annibyniaeth pobl. Gall unigolion weithio gyda'r awdurdod lleol i benderfynu sut y bydd eu hanghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu os ydynt yn dewis defnyddio taliadau uniongyrchol. Gall yr unigolyn neu'r gofalwr di-dâl benderfynu pwy sy'n darparu'r cymorth hwnnw a rheoli sut, ble a phryd y caiff ei ddarparu.

Rhyddhau o'r ysbyty 

Dylid nodi gofalwyr di-dâl ac ymgynghori'n ystyrlon â nhw o ddechrau'r broses o ryddhau claf o'r ysbyty. Dylid trin gofalwr di-dâl fel rhywun sydd â gwybodaeth berthnasol a phwysig am y person y mae'n gofalu amdano, a dylid ei atgoffa hefyd ar y pwynt hwn fod ganddo ddewis ynghylch a ddylai ddechrau neu barhau i ofalu.

Gofalwyr di-dâl mewn addysg a chyflogaeth 

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae gofyniad amlwg i addysg a chyflogaeth gael eu hystyried fel rhan o asesiad o anghenion gofalwyr.  A yw'r gofalwr yn cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu unrhyw weithgarwch hamdden, neu'n dymuno gwneud hynny, ac, yn achos gofalwr sy'n blentyn, ei anghenion datblygiadol ac a yw'n briodol i'r plentyn ddarparu'r gofal (neu unrhyw ofal) yng ngoleuni'r anghenion hynny.

Lwfans gofalwr

Mae Lwfans Gofalwr yn fudd-dal gan Lywodraeth y DU i ofalwyr di-dâl. Gallech gael £69.70 yr wythnos os ydych yn gofalu am rywun o leiaf 35 awr yr wythnos a'u bod yn cael budd-daliadau penodol. Nid oes rhaid i chi fod yn perthyn i’r person rydych yn gofalu amdano, nac yn byw gydag ef. Ni chewch fwy o daliadau os ydych yn gofalu am fwy nag un person. Os yw rhywun arall hefyd yn gofalu am yr un person â chi, dim ond un ohonoch all hawlio Lwfans Gofalwr.

GIG Cymru - Gweithio i Wella 

Os oes gennych bryderon am eich gofal neu eich triniaeth, argymhellir y dylech siarad â’r staff sy’n rhan o’ch gofal chi, neu ofal rhywun rydych yn gofalu amdano, cyn gynted â phosib. Byddant yn ceisio datrys eich pryderon ar unwaith.  Os nad yw hyn o gymorth, neu os nad ydych chi eisiau siarad â’r staff, gallwch gysylltu â thîm cwynion y bwrdd neu'r ymddiriedolaeth.

Proses gwyno awdurdodau lleol

Disgwylir i awdurdodau lleol yng Nghymru fod â phrosesau ffurfiol ar waith pan fo anfodlonrwydd neu bryder ynghylch safon y gwasanaeth a ddarperir. Bydd Swyddog Cwynion yr awdurdod lleol yn rhoi cyngor a chymorth a bydd yn helpu i benderfynu os a phryd y dylai'r gŵyn symud o ddatrysiad lleol i ymchwiliad ffurfiol.

Cynrychiolaeth ac eiriolaeth

Os na allwch chi’n bersonol, fel gofalwr, gymryd rhan lawn mewn trafodaethau, mae eiriolwr yn rhywun a all helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed pan wneir penderfyniadau am eich cymorth. Rhaid trefnu eiriolwr annibynnol os nad ydych yn gallu siarad drosoch chi'ch hun neu os nad oes gennych rywun i'ch cefnogi i fynegi eich barn, eich dymuniadau a'ch teimladau.  

Os hoffech wybod mwy am hawliau gofalwyr di-dâl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, darllenwch ein Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl sy’n ddogfen mwy cynhwysfawr.