Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Ym mis Mai 2022, gwnaethom gyhoeddi Sicrhau Cyfiawnder i Gymru. Roedd hwn yn gyfle inni adlewyrchu a dathlu'r holl ffyrdd rydym yn helpu pobl yng Nghymru i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o'r system gyfiawnder dros bobl Cymru, yn ogystal ag ystyried yr heriau sylweddol sy'n bodoli o hyd. Roedd hefyd yn fan cychwyn pwysig o ran cyfleu gweledigaeth unigryw a phwerus ar gyfer dyfodol cyfiawnder yng Nghymru.

Drwy'r gweithgarwch a nodwyd yn rhaglen waith Sicrhau Cyfiawnder i Gymru gwnaethom ddangos y cymorth wedi'i dargedu rydym wedi ei roi ar waith er mwyn sicrhau effaith wirioneddol ar y system gyfiawnder yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys parhau i weithio gyda phartneriaid mewn meysydd a gedwir yn ôl er mwyn cryfhau'r ffordd y mae'r system bresennol yng Nghymru yn gweithio a sut y mae datganoli pellach yn hanfodol er mwyn sicrhau cyfiawnder yn well.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r adroddiad hwn i gydnabod y gwaith caled sydd wedi’i gyflawni ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i barhau i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl a'n helpu i ddeall materion ymhellach er budd dyfodol cyfiawnder yng Nghymru.

Erys ein huchelgais i greu system gyfiawnder gref a blaengar i Gymru yn ddigyfnewid. Ond ni fu unrhyw leddfu ar yr heriau digynsail a ddisgrifiwyd gennym yn flaenorol, er gwaethaf ymdrechion diflino y rhai sy’n gweithio yn y system gyfiawnder. Yn wir, yn sgil datganiadau diweddar am y lleoedd sydd ar gael mewn carchardai ac ôl-groniad o achosion yn y llysoedd, mae'r system mor agos at dorri ag y bu erioed.. Mae’r ffaith bod llysoedd wedi cau yn ogystal â sefyllfa ystad y llysoedd yn adlewyrchu effaith degawdau o ddull cosbol a dirywiol o ran ymdrin â materion troseddu a chyfiawnder. Mae’r dicter cenedlaethol yn sgil sgandal Horizon Swyddfa’r Post wedi amlygu materion o ran mynediad at gyfiawnder sydd wedi’u cydnabod a’u codi ar sawl achlysur dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n fwyfwy amlwg bod angen gweithredu mewn ffordd wahanol.

Bu'r flwyddyn ddiwethaf yn un arbennig o heriol i Lywodraeth Cymru hefyd, yn sgil argyfwng costau byw sy'n dwysáu a'r rhyfel sy’n parhau yn Wcráin. Er ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ers cyhoeddi Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, rhaid inni gydnabod y problemau rydym yn parhau i'w hwynebu. Rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ymdopi â'r pwysau ariannol ar wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i gamreoli'r economi gan Lywodraeth y DU, rydym wedi ymateb i'r heriau gyda gwydnwch, gan weithio gyda'n partneriaid i hyrwyddo ein blaenoriaethau â ffocws newydd.

Yn sgil canfyddiadau y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a ragflaenwyd gan Gomisiwn Gordon Brown ar ran Plaid Lafur y DU, credwn fod yr achos dros ddatganoli wedi’i wneud ac mae dyletswydd arnom i baratoi ar ei gyfer. Ers ein cyhoeddiad cyntaf, felly,, rydym wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr ar y system gyfiawnder, yn benodol ym maes plismona, cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf i ddeall sut y gallai a sut y dylai datganoli ddigwydd yn ymarferol. Mae hyn wedi cynnwys ystyried sut y gallem sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf yn sgil datganoli gwasanaethau cyfiawnder i Gymru, a gwneud gwahaniaeth i fywydau, ac yn enwedig i'r rhai sydd wedi cael y gwasanaeth gwaethaf ac sydd wedi wynebu'r anfantais fwyaf o dan y system gyfiawnder, a gydnabyddir, er enghraifft, yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a'n Strategaeth VAWDASV.

Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, nodwyd yn glir gennym, er mwyn mynd i'r afael â throseddu ac achosion eraill neu bwysau eraill ar y system gyfiawnder, fod angen i bolisi a gwariant ar anghenion cyfiawnder gyd-fynd â pholisi a gwariant ar gyfiawnder cymdeithasol, iechyd, tai ac addysg.

Mae datganoli cyfiawnder yn rhan hollbwysig o’r diwygiadau angenrheidiol sydd angen eu gweithredu os ydym am sicrhau system gyfreithiol a chyfiawnder fodern, blaengar ac effeithiol, ar gyfer pobl Cymru ac yn atebol i bobl Cymru.

Image
Mick Antoniw AS Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Image
Jane Hutt AS Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd Sicrhau Cyfiawnder i Gymru ym mis Mai 2022 i dynnu sylw at waith Llywodraeth Cymru sy'n mynd rhagddo i wella'r system gyfiawnder i bobl Cymru a'r ffordd roeddem yn gweithredu ar ein hymrwymiad i ddadlau o blaid datganoli plismona a chyfiawnder.

Ein prif ffocws oedd gwella canlyniadau o dan y setliad cyfansoddiadol presennol, fel y'i dangoswyd yn rhaglen waith Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, ac erys felly.

Fodd bynnag, rydym wedi gweld datblygiadau arwyddocaol ers cyhoeddi Sicrhau Cyfiawnder i Gymru sydd wedi arwain at newid ein ffocws yn y rhaglen waith ar gyfiawnder yng Nghymru i ryw raddau. Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r datblygiadau hyn ac mae wedi'i strwythuro ar sail ein hamcanion â ffocws newydd i wneud y canlynol:

  1. parhau i wella canlyniadau cyfiawnder yng Nghymru o dan y setliad cyfansoddiadol presennol
  2. paratoi ar gyfer datganoli rhai swyddogaethau cyfiawnder i Gymru