Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw gan y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn sicrhau diogelwch i fusnesau, cymunedau a bywyd gwyllt sy'n dibynnu ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid yn cefnogi cytundeb cyflenwi dŵr hanfodol rhwng Glandŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, a Dŵr Cymru.   

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu yswiriant am hyd at £400,000 bob blwyddyn, am y pum mlynedd nesaf.  

Bydd yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd hefyd yn cyfrannu hyd at £100,000 bob blwyddyn, tra bydd trafodaethau'n parhau gyda phartneriaid eraill i sicrhau cyfraniadau pellach dros y tymor hir.  

Mae'r symudiad yn dilyn cytundeb tymor byr a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025, a oedd i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2026.  

Mae'r ddyfrffordd hanesyddol yn cyfrannu dros £30m i economi Cymru ac yn cefnogi mwy na 1,000 o swyddi. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi dod â phartneriaid at ei gilydd i ddod o hyd i ateb cynaliadwy.  

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: 

Mae Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn rhan werthfawr o dreftadaeth Cymru ac yn ased economaidd hanfodol i'n cymunedau, ond mae newid yn yr hinsawdd a phatrymau tywydd mwy amrywiol wedi dwysáu'r anhawster o gynnal cyflenwadau dŵr digonol.  

Byddwn bob amser yn ceisio gwarchod treftadaeth ddiwylliannol Cymru wrth gefnogi swyddi a thwristiaeth ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r holl bartneriaid i ddod o hyd i atebion cynaliadwy.  

Mae'r cytundeb hwn yn adeiladu ar y £5m yr ydym eisoes wedi ymrwymo iddo i adnewyddu gorsaf bwmpio Manorafon ac mae'n creu'r gofod i ddatblygu gwytnwch hirdymor ar gyfer y ddyfrffordd werthfawr hon wrth i ni barhau â'n trafodaethau pwysig gyda'n rhanddeiliaid.  

Ychwanegodd Ben Cottam, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru a'r De-orllewin yng Nglandŵr Cymru:

225 mlynedd wedi i'r llwyth cyntaf o lo wneud ei ffordd i fyny'r gamlas hon i Aberhonddu, mae Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn parhau i fod mor hanfodol ag erioed i bobl yn Ne Cymru.  

Fel yr elusen sy'n cynnal y ddyfrffordd hanesyddol hon, rydym yn gyfarwydd iawn ag effaith y newid yn yr hinsawdd a'r anhawster y mae ansicrwydd diweddar wedi'i olygu i bawb sy'n caru'r gamlas hon. Rydym yn ddiolchgar felly i Lywodraeth Cymru a'r Dirprwy Brif Weinidog am helpu i ddod â llawer mwy o wydnwch i'r gamlas a sefydlu rhwydwaith o bartneriaid i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn bwysig i fywyd yng Nghymru.