Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Chwefror 2012.

Cyfnod ymgynghori:
11 Tachwedd 2011 i 3 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Cawsom 110 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Mae’r ymatebion hyn ar gael ar gryno ddisg ar eich cais. I wneud cais am gopi o’r ymatebion anfonwch e-bost i planning.directorate@llyw.cymru

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym eisiau eich tystiolaeth a'ch barn mewn perthynas â sut mae cynnal y system gynllunio yn y dyfodol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Bil Cynllunio a fydd yn cael ei gyflwyno yn 2013 mae grŵp cynghori annibynnol wedi'i sefydlu i adolygu ac ystyried yr opsiynau ar gyfer sut mae cynnal y system gynllunio yn y dyfodol.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar y canlynol ac yn gwneud argymhellion ynghylch:

  • Yr opsiynau ar gyfer cynnal y system gynllunio gan gynnwys y dull a ffafrir;
  • Y ddeddfwriaeth a'r canllawiau polisi sydd eu hangen i roi'r opsiynau a'r dull a ffafrir ar waith;
  • Asesiad o'r adnoddau sydd eu hangen i roi'r opsiynau a'r dull a ffafrir ar waith – bydd hyn yn cynnwys nifer y staff a'r costau;
  • Unrhyw gynlluniau y gallwn ni eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn hawdd.

Rydym yn croesawu barn ar:

  • Yr amcanion polisi allweddol y dylai'r system gynllunio eu bodloni;
  • Y ffordd fwyaf effeithlon inni gynnal y system gynllunio a sut mae ei mesur;
  • Y mecanweithiau cyflenwi a'r trefniadau sefydliadol cyfredol;
  • Unrhyw dystiolaeth neu enghreifftiau sy'n berthnasol yn eich barn chi.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 229 KB

PDF
229 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.