Neidio i'r prif gynnwy

Mae Silverlining Furniture yn Wrecsam yn gwmni blaenllaw fydd yn fuan yn cyflawni ei weledigaeth o fod y brand dodrefn mwyaf ysbrydoledig yn yr 21ain ganrif, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pan symudodd Silverlining i Wrecsam o Swydd Gaer yn 2013, roedd 13 aelod staff yn cael eu cyflogi, ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Bellach yn cyflogi 76 aelod staff, mae'r busnes wedi gweld cynnydd o 50 y cant mewn lefelau staffio yn y cyfnod rhwng Rhagfyr 2016 - 18.

Meddai'r sylfaenydd, Mark Boddington:

"Roedd symud i Gymru yn syniad gwych i Silverlining ac roedd yn cyd-daro â'n ffocws ar fuddsoddi mewn creadigrwydd a chrefft drwy dechnoleg a gwyddoniaeth i greu cynnyrch fyddai'n arwain y farchnad."

"Rydym wedi datblygu dros 25% bob blwyddyn ers symud i Gymru – drwy fuddsoddi mewn technoleg gostus, gwyddor ymchwil, hyfforddiant sgiliau a rheoli a marchnadoedd allforio. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o fentrau rhagorol yr ydym wedi elwa ohonynt megis grant cyfrannu ar gyfer technoleg uwch, teithiau i archwilio'r farchnad allforio gyda chymhorthdal, a hyfforddiant neu gyngor – yr hyn sy'n wych yw bod gennych reolwr achos penodol sy'n deall y busnes ac sy'n randdeiliad gwirioneddol bwysig."

Mae'r cwmni yn cynhyrchu dodrefn moethus ar gyfer clientiaid ledled y byd, ac mae'n allforio llawer, gyda 98 y cant o'i nwyddau yn mynd dramor. Yn ystod y 12 mis diwethaf, cafodd Silverlining eu rhestru yn 61ain yn y DU ac yn ail yng Nghymru yn y rhestr o 100 o'r cwmnïau bach a chanolig sy'n allforio fwyaf, yn y Sunday Times, gan ennill Gwobr y Frenhines am Fenter – Masnach Ryngwladol.

Mae ganddo gynlluniau hirdymor i ehangu ymhellach i 130 o bobl gan gynnwys sefydlu Academi i hyfforddi staff y dyfodol ledled y byd, ac mae'n aros am ddiwedd yr ansicrwydd presennol ynghylch sut y bydd y DU yn ymadael â'r UE cyn datblygu ymhellach.

Meddai Ken Skates:

“Yn amlwg, mae Silverlining yn gwmni rhagorol sydd ar frig y diwydiant dodrefn moethus. Maent wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn datblygu staff, ac mae ganddynt weithlu crefftus iawn sy'n gallu cystadlu gyda hyder yn y farchnad fyd-eang.

"Mae'r cwmni yn codi proffil Cymru fel gwlad sy'n creu cynnyrch o'r safon uchaf.

"Fel gyda pob busnes yng Nghymru, dwi'n gwybod fod yr ansicrwydd presennol dros Brexit yn peri pryder i'r cwmni, oherwydd yr effaith bosibl ar allforio a recriwtio staff. Mae'n hollol annerbyniol bod busnesau fel Silverlining yn gorfod parhau i wynebu'r dyfodol gyda'r ansicrwydd hwn.

"Dwi wedi ymrwymo'n llawn i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi busnesau wrth iddynt baratoi i ymadael â'r UE. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd camau cyfrifol proactif tuag at gynllunio a pharatoi gan gynnwys creu cynlluniau wrth gefn rhag ofn y bydd yn rhaid inni adael heb gytundeb.

"Dwi hefyd yn bryderus, fel Silverlining a busnesau eraill o Gymru. Rydym wedi rhybuddio'n gyson bod Brexit heb gytundeb yn golygu risgiau sylweddol i economi Cymru, ac mae'n bygwth y datblygiadau rydyn ni wedi eu gwneud i greu swyddi dros y blynyddoedd diwethaf.

“Er gwaetha'r ansicrwydd, aethon ni ati'n syth ar ôl y refferendwm i grynhoi'n hadnoddau ac i ddatblygu gallu y llywodraeth gyfan i ymateb i Brexit.

"Mae Cymru yn falch o'n cwmnïau arloesol megis Silverlining a gallwn barhau i gydweithio â hwy fel y gallant barhau i ddatblygu a ffynnu yma.