Neidio i'r prif gynnwy

Roedd arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol yn y cyfarfod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cytunodd y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol y byddai eu llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd i asesu diogelwch tomennydd ar frys a sicrhau eu bod yn cael eu harolygu a'u monitro'n briodol. Cytunwyd ar y camau canlynol:

  • bydd yr holl asiantaethau perthnasol yn gweithio gyda'i gilydd i rannu adnoddau ac arbenigedd technegol o ran y gwaith o arolygu a monitro a byddant yn llunio set gyffredin o safonau ar gyfer asesu risg,
  • bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i bobl sy'n byw yng nghymoedd de Cymru am ddiogelwch tomennydd lleol, wedi'i chydgysylltu drwy un pwynt cyswllt.

Bydd Llywodraethau Cymru a'r DU yn cydlynu'r gwaith hollbwysig hwn a bydd y cyfarfod yn ailymgynnull yr wythnos nesaf.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

Cefais gyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol heddiw i drafod sut y gall ein Llywodraethau weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod tomennydd glo ledled Cymru yn cael eu rheoli'n gyfrifol. Rwyf eisiau sicrhau pobl sy'n byw'n agos at domennydd glo ledled Cymru ein bod yn cymryd y sefyllfa hon o ddifrif ac y byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yn dilyn y tywydd a'r llifogydd nad oedd modd eu rhagweld yn sgil y stormydd diweddar, mae gwaith brys yn cael ei wneud i asesu unrhyw risg i bobl neu eiddo ac i gadarnhau bod pawb sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol o ran y tomennydd yn cyflawni eu rhwymedigaethau diogelwch. Mae'r awdurdodau a'r asiantaethau perthnasol yn gweithio gyda'i gilydd ac mae cynnydd da yn cael ei wneud o ran y gwaith hollbwysig hwn.