Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Simon Pirotte oedd Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont o 2013 tan 2023.

Derbyniodd OBE yn y rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd yn 2020 am ei wasanaeth i addysg bellach ac addysg uwch. Wedi graddio o Aberystwyth gydag MSc mewn Rheoli o Brifysgol De Cymru, mae Simon wedi gweithio yn y sector addysg ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae hyn yn cynnwys gweithio yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach ac ysgolion. Mae hefyd wedi gweithio fel Pennaeth Adran yn Los Angeles, yr UDA ar Ysgoloriaeth Fulbright blwyddyn o hyd.

Simon oedd enillydd gwobr Cyfarwyddwr y Flwyddyn ar gyfer y Sector Cyhoeddus 2018 gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr (DU). Coleg Penybont oedd y coleg AB uchaf yn rhestr 100 Cwmni Gorau i weithio iddynt (sefydliadau nid-er-elw) y Times yn 2017 a 2020. Yn 2019, cafodd Coleg Penybont ei enwi’n Goleg Cefnogi Addysg y Flwyddyn gan y Times.

Ynghyd â’i angerdd am addysg, mae Simon wedi ymrwymo i chwaraeon a’r celfyddydau. Mae’n ddysgwr Cymraeg.