Neidio i'r prif gynnwy
Sioned Williams AS

Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Cyfrifoldebau

  • Dirprwyo ar ran y Prif Weinidog
  • Hawliau, hawlogaethau ac eiriolaeth o ran plant a phobl ifanc
  • Polisi y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, gan gynnwys y Cynnig Gofal Plant a'r gweithlu
  • Y Taliad Cynnal
  • Polisi a rhaglenni Cymorth i Deuluoedd
  • Rhianta
  • Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
  • Cydgysylltu mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant a mynd i'r afael â thlodi
  • Cydgysylltu mesurau i liniaru Tlodi Plant
  • Cydlynu â'r Adran Gwaith a Phensiynau ac ymgysylltu â pholisi Lles Llywodraeth y DU
  • System Fudd-daliadau Cymru
  • Tlodi tanwydd a bwyd
  • Cynhwysiant ariannol, gan gynnwys undebau credyd
  • Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau
  • Cydgysylltu materion yn ymwneud â Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ceiswyr lloches, ffoaduriaid, mudo a chydlyniant cymunedol
  • Gwrthgaethwasiaeth, cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol
  • Y sector gwirfoddol a gwirfoddoli
  • Partneriaeth Gymdeithasol
  • Y berthynas â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
  • Arwain ar bolisi mewn perthynas â'r Lluoedd Arfog, Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a Chadetiaid yng Nghymru
  • Cymru ac Affrica
  • Arwain ar bolisi mewn perthynas â materion polisi cyfiawnder
  • Glasbrintiau Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddwyr Benywaidd
  • Cydlyniant cymunedol
  • Diogelwch Cymunedol, gan gynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu
  • Y berthynas â'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, yr Heddlu ac asiantaethau Cyfiawnder Troseddol eraill
  • Y berthynas â Llywodraeth y DU o ran Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf
  • Gwasanaethau Cynghori ac Eiriolaeth
  • Prif gyfrifoldeb am fonitro materion sy'n ymwneud â Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru
  • Goruchwylio'r gwaith o ddosbarthu cyllid y Loteri yng Nghymru

Bywgraffiad

Hanes personol

Magwyd Sioned Williams yng Nghwmbrân ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae hi'n briod gyda dau o blant ac yn byw yn yr Alltwen, yng Nghwm Tawe. Ar ôl graddio yn y Gymraeg a’r Saesneg o Brifysgol Aberystwyth, dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth T. Glynne Davies S4C i astudio ar gyfer diploma ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Bu’n uwch-newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd i weithio i Brifysgol Abertawe fel Swyddog Polisi Iaith ac yna fel Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi. Fel rhan o’i gwaith yn y Brifysgol, bu’n helpu i sefydlu a chyd-reoli Tŷ’r Gwrhyd, canolfan iaith Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Mae hi hefyd wedi gweithio i Blaid Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu Strategol. Bu’n gweithio hefyd fel adolygydd a sylwebydd ar ddarlledu a'r celfyddydau ac mae wedi beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae hi’n gyn-aelod o Fwrdd Llenyddiaeth Cymru ac yn gyn-gadeirydd ei Banel Bwrsariaethau.

Hanes gwleidyddol

Bu’n Gynghorydd Cymuned dros yr Alltwen ac yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll cyn cael ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru yn Etholiad 2021. Yn ystod y Chweched Senedd, hi oedd llefarydd Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb Plaid Cymru ac roedd yn aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Roedd hefyd yn Gadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol, Anableddau Dysgu a Thrais yn erbyn Menywod a Phlant.

Ar 13 Mai 2026 penodwyd Sioned Williams yn Ddirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb.

Ysgrifennu at Sioned Williams