Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Adrannau

Adran 22(2) (awdurdodau contractio)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn egluro pryd nad yw Gweinidogion Cymru yn
cael eu cynnwys yn ystyr "contracting authority".

Adran 24(1) i (7) (dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Rhaid i awdurdod contractio geisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol. Mae'r adran hon o'r Ddeddf yn manylu ar sut mae gwneud hyn, ac mae'n cynnwys y gofyniad i osod a chyhoeddi amcanion.

Adran 25(1) (dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau adeiladu mawr)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio gymryd yr holl gamau sy'n ofynnol gan y Ddeddf sy'n gysylltiedig â chontractau adeiladu mawr a chymalau gwaith cyhoeddus cymdeithasol (h.y. ystyried eu cynnwys mewn contractau perthnasol, cymryd pob cam rhesymol i gynnwys y cymalau, sicrhau gweithredu).

Adran 26(1) (dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau allanoli gwasanaethau)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio gymryd yr holl gamau sy'n ofynnol gan y Ddeddf sy'n gysylltiedig â chontractau allanoli gwasanaethau ac allanoli gwasanaethau cyhoeddus a chod/cymalau gweithlu (h.y. ystyried eu cynnwys mewn contractau perthnasol, cymryd pob cam rhesymol i gynnwys y cymalau, sicrhau eu gweithredu).

Adran 28 (cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio gymryd yr holl gamau sy'n ofynnol gan y Ddeddf sy'n gysylltiedig â chontractau adeiladu mawr a chymalau gwaith cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau (h.y. cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y cymalau yn cael eu gweithredu pan fydd y contractwr yn ymrwymo i isgontract).

Adran 29 (cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: hysbysu Gweinidogion Cymru)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio hysbysu Gweinidogion Cymru mewn amgylchiadau a ddiffinnir yn y Ddeddf a chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol mewn perthynas â chontract adeiladu mawr a chymalau gwaith cyhoeddus cymdeithasol.

Adran 30 (cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: ymateb Gweinidogion Cymru)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymateb i hysbysiad yn y ffordd a nodir yn y Ddeddf. Gallai hyn gynnwys cyhoeddi crynodeb o'r hysbysiad, eu rhesymau dros fod yn fodlon neu beidio, a chyhoeddi cyfarwyddyd.

Adran 31 (cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: contractau Gweinidogion Cymru)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad o dan amgylchiadau a ddiffinnir yn y Ddeddf a chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol mewn perthynas â chontract adeiladu mawr a chymalau gwaith cyhoeddus cymdeithasol.

Adran 34 (cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio gymryd yr holl gamau sy'n ofynnol gan y Ddeddf sy'n gysylltiedig â chontract gwasanaethau allanol a chymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau (h.y. cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y cymalau yn cael eu gweithredu pan fydd y contractwr yn ymrwymo i isgontract).

Adran 35 (cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: hysbysu Gweinidogion Cymru)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio hysbysu Gweinidogion Cymru mewn amgylchiadau a ddiffinnir yn y Ddeddf a chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol mewn perthynas â chontract allanoli a chymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol.

Adran 36 (cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: ymateb Gweinidogion Cymru)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymateb i hysbysiad yn y ffordd a nodir yn y Ddeddf. Gallai hyn gynnwys cyhoeddi crynodeb o'r hysbysiad, eu rhesymau dros fod yn fodlon neu beidio, a chyhoeddi cyfarwyddyd. 

Adran 37 (cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: contractau Gweinidogion Cymru)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad o dan amgylchiadau a ddiffinnir yn y Ddeddf a chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol mewn perthynas â chontract gwasanaethau allanol a chymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol.

Adran 38 (strategaeth gaffael)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio baratoi a chyhoeddi strategaeth gaffael ac
adolygiad bob blwyddyn.

Adran 39 (adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol), at yr holl ddibenion sy’n weddill

Y dyddiad dod i rym: 1 Ebrill 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio gyhoeddi ei adroddiad caffael cyfrifol cymdeithasol blynyddol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol. Bydd yr adroddiad blynyddol cyntaf yn ymdrin â 2026/27.

Adran 40 (cofrestr gontractau), at yr holl ddibenion sy’n weddill

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Rhaid i awdurdod contractio greu, cynnal a chyhoeddi cofrestr gontractau.

Adran 41 (ymchwiliadau caffael)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn caniatáu i Weinidogion Cymru ymchwilio i sut mae awdurdod contractio yn cynnal caffael cyhoeddus, ac yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio ddarparu dogfennau neu wybodaeth y gallai fod eu hangen ar Weinidogion Cymru fel rhan o'r ymchwiliad.

Adran 42 (adroddiad blynyddol Gweinidogion Cymru ar gaffael cyhoeddus)

Y dyddiad dod i rym: 1 Ebrill 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru a gosod copi gerbron y Senedd.

Atodlen 2 (amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol)

Y dyddiad dod i rym: 25 Mawrth 2026    

Disgrifiad: Yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio adolygu, diwygio a chyhoeddi eu hamcanion caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol mewn amgylchiadau a amlinellir yn Atodlen 2 y Ddeddf.