Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad o incwm, gwariant a nifer y staff ar gyfer y sector addysg uwch ar gyfer Medi 2017 i Awst 2018.

Cyllid sefydliadau addysg uwch

  • Cyfanswm incwm sefydliadau addysg uwch Cymru oedd £1.57 biliwn, 5% (£71 miliwn) yn fwy na 2016/17.
  • Cyfanswm gwariant y sector oedd £1.57 biliwn, 3% (£53 miliwn) yn fwy na 2016/17.
  • Gwnaeth yr incwm o ffioedd dysgu barhau i gynyddu. Bellach, mae ffioedd dysgu a chontractau addysg yn cyfrif am 56% o’r incwm (£874 miliwn).
  • Gwnaeth y gostyngiad yng ngrantiau’r Cyngor Cyllido barhau am y wythfed flwyddyn yn olynol. Gwnaeth yr incwm o Grantiau Cyllido ostwng 5% (£9 miliwn).
  • Grantiau ymchwil oedd 13% o incwm prifysgolion Cymru, sef cyfran debyg i’r hyn a adroddwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  
  • Gwariodd prifysgolion Cymru £882 miliwn ar gostau staff yn 2017/18. Roedd hyn dros hanner yr holl gostau (56%).

Staff sefydliadau addysg uwch

  • Roedd gostyng o 225 yn nifer y staff ym mhrifysgolion Cymru yn 2017/18 i 20,870 (1%).
  • Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi’r nifer mwyaf o staff (7,070), mwy na dwbl nifer y staff gan y cyflogwr mwyaf nesaf, Prifysgol Abertawe (3,525).
  • Prifysgol Glyndŵr oedd y brifysgol leiaf o ran nifer y staff. Fe gyflogodd 470 yn unig yn 2017/18.
  • Roedd gan ychydig o dan hanner yr holl aelodau staff (49%) gontractau academaidd.
  • Roedd ychydig yn llai na dau o bob tri aelod o staff ar gontractau academaidd yn llawn amser, y ffigwr ar gyfer staff ar gontractau nad ydynt yn rhai academaidd yw dau o bob tri.
  • O’r rheini nad oedd â chontractau academaidd, roedd gan 3,860 alwedigaethau proffesiynol neu dechnegol. Roedd gan 3,955 alwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol ac roedd gan 995 ‘alwedigaethau elfennol’.
  • Menywod oedd yn llenwi 54% o’r holl swyddi. Fodd bynnag, dim ond 46% o’r swyddi academaidd oedd yn nwylo menywod. Roedd dau draean o’r aelodau staff rhan-amser yn fenywod.
  • Dywedodd 11% o staff ar gontract academaidd eu bod yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, 45% o’r rheiny a ddwedodd hynny oedd yn gwneud mewn gwirionedd.

Gwybodaeth bellach

Mae’n seiliedig ar ystadegau a gynhyrchwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae pob cymhariaeth ariannol â blynyddoedd blaenorol yn defnyddio ffigurau sy’n cael eu hail-nodi yn y datganiadau ariannol mwyaf diweddar sydd ar gael.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.