Neidio i'r prif gynnwy

Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 30 Medi 2018.

Siart yn dangos y nifer o staff a gyflogir yn uniongyrchol gan Y GIG  yng Nghymru pob blwyddyn rhwng 1979 a 2018, yn ôl grŵp staff. Mae’r siart yn dangos bod nifer y staff cyfwerth ag amser llawn wedi cynyddu 68.5% ers 1979 a 1.4% yn y flwyddyn ddiweddaraf.

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn nata y datganiad hwn. Mae hyn yn bennaf yn effeithio rhai o’r dadansoddiadau manylach o staff. Ceir manylion llawn yn y datganiad ystadegol.

Rhwng 30 Medi 2017 a 30 Medi 2018 (o ran niferoedd cyfwerth llawn amser)

  • Bu cynnydd o 1,084 (1.4%) yn nifer staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol i 79,054.
  • Bu cynnydd o 156 (2.4%) yn y staff meddygol a deintyddol i 6,539.
  • Bu lleihad o 47 (0.1%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 32,927.
  • Bu cynnydd o 406 (3.2%) yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol i 13,206. 
  • Bu cynnydd o 511 (2.9%) yn nifer y staff gweinyddol ac ystadau i 17,895.
  • Bu cynnydd o 46 (0.7%) yn nifer y staff arall i 6,392.

Adroddiadau

Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, 30 Medi 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 707 KB

PDF
Saesneg yn unig
707 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.