Neidio i'r prif gynnwy

Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 30 Medi 2019.

Siart yn dangos y nifer o staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG  yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 1979 a 2019, yn ôl grŵp staff. Mae’r siart yn dangos bod nifer y staff sy’n gyfwerth ag amser llawn wedi cynyddu 73% ers 1979 a 2.5% yn y flwyddyn ddiweddaraf.

Rhwng 30 Medi 2018 a 30 Medi 2019 (o ran niferoedd cyfwerth llawn amser)

  • Bu cynnydd o 1,990 (2.5%) yn nifer staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol i 81,044.
  • Bu cynnydd o 153 (2.3%) yn y staff meddygol a deintyddol i 6,693.
  • Bu cynydd(r) o 373 (1.1%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 33,301.
  • Bu cynnydd o 571 (4.3%) yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol i 13,777.
  • Bu cynnydd o 792 (4.4%) yn nifer y staff gweinyddol ac ystadau i 18,687.

Diwygiedig ar 02 Mawrth 2020

Nodiadau

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn nata'r datganiad hwn. Mae hyn yn bennaf yn effeithio rhai o’r dadansoddiadau manylach o staff. Ceir manylion llawn yn y adroddiad ystadegol.

Ynghyd â'r datganiad blynyddol hwn, rydym yn cyhoeddi am y tro cyntaf data chwarterol am staff o Ragfyr 2018. Bydd y data hwn yn cael ei gyhoeddi bob chwarter yn y dyfodol i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn well gyda data mwy amserol.

Adroddiadau

Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, 30 Medi 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 692 KB

PDF
Saesneg yn unig
692 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.