Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG: ar 30 Medi 2020
Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 30 Medi 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y GIG yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru, ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi mwy na 99,000 o bobl, mewn mwy na 85,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. Mae data o 1979 ar gael ar gyfer staff a gyflogir gan y GIG; fodd bynnag, yn sgil newidiadau yng nghategorïau’r staff, dim ond y niferoedd cyffredinol y gellid eu cymharu'n union dros amser.
Mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i Lawlyfr Codau Galwedigaethau'r GIG, a chanfuwyd nifer o broblemau gydag ansawdd data yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhain yn effeithio ar y cymariaethau dros amser ar gyfer rhai grwpiau staff; ceir rhagor o fanylion yn yr Adroddiad ansawdd.
Mae’r cyfnod amser a gwmpesir gan y data hwn yn cynnwys y pandemig coronafeirws (COVID-19). Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau staff ar 30 Medi 2020 yn cynnwys staff ar gontractau tymor byr neu benodol - roedd y rhain yn cynnwys dod â staff a oedd wedi ymddeol yn ddiweddar i mewn i helpu yn ystod y pandemig COVID-19.
Nid yw'r data'n cynnwys Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a rhai Ymarferwyr Deintyddol gan eu bod yn Gontractwyr annibynnol i'r GIG.
Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Cyhoeddir y data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.
1. Prif bwyntiau
Rhwng 30 Medi 2019 a 30 Medi 2020 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn)
- Bu cynnydd o 4,101 (5.1%) yng nghyfanswm nifer y staff i 85,145.
- Bu cynnydd o 518 (7.7%) yn nifer y staff meddygol a deintyddol i 7,211.
- Bu cynnydd o 1,462 (4.4%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 34,762.
- Bu cynnydd o 2,121 (5.2%) mewn grwpiau staff eraill i 43,172.
2. Crynodeb o’r staff a gyflogir
Mae nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG (cyfwerth ag amser llawn) wedi cynyddu o 46,909 yn 1979 i 85,145 yn 2020, cynnydd o 81.5%. Y cynnydd o 5.1% yn nifer y staff rhwng 30 Medi 2019 a 30 Medi 2020 yw’r mwyaf a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gall hyn fod yn rhannol oherwydd staff dros dro mewn ymateb i bandemig COVID-19.
Grwpiau staff | Ar 30 Medi 2019 | Ar 30 Medi 2020 | % newid o 2019 |
---|---|---|---|
Meddygol a deintyddol | |||
Meddygol yn yr ysbyty (a) | 6,346 | 6,798 | 7.1% |
Deintyddol yn yr ysbyty | 170 | 169 | -0.6% |
Meddygol cymunedol / iechyd cyhoeddus | 45 | 49 | 9.1% |
Deintyddol cymunedol / iechyd cyhoeddus (b) | 132 | 195 | 47.8% |
Holl staff meddygol a deintyddol | 6,693 | 7,211 | 7.7% |
Nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd | |||
Nyrsys ac ymwelwyr iechyd cofrestredig | 21,359 | 21,898 | 2.5% |
Bydwragedd cofrestredig | 1,389 | 1,377 | -0.9% |
Staff cymorth (c)(d) | 10,552 | 11,487 | 8.9% |
Holl staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd | 33,301 | 34,762 | 4.4% |
Gwyddonol, therapiwtig a thechnegol | |||
Staff cymwysedig | 10,559 | 11,164 | 5.7% |
Staff cymorth (c)(d) | 3,218 | 3,347 | 4.0% |
Holl staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol | 13,777 | 14,512 | 5.3% |
Gweinyddol ac ystadau | |||
Uwch-reolwr / rheolwr | 2,621 | 2,538 | -3.2% |
Clerigol a Gweinyddol | 14,969 | 15,770 | 5.3% |
Cynnal a Chadw a Gweithfeydd | 1,097 | 1,415 | 29.0% |
Holl staff gweinyddol ac ystadau | 18,687 | 19,722 | 5.5% |
Cynorthwywyr Gofal Iechyd a staff cymorth eraill | |||
Cynorthwyydd Gofal Iechyd (c) | 85 | 94 | 10.4% |
Gweithiwr cymorth | 5,985 | 6,080 | 1.6% |
Holl Gynorthwywyr Gofal Iechyd a staff cymorth eraill | 6,071 | 6,174 | 1.7% |
Ambiwlans | |||
Staff cofrestredig | 1,100 | 1,151 | 4.6% |
Staff cymorth (d) | 1,331 | 1,518 | 14.1% |
Holl staff ambiwlans | 2,431 | 2,670 | 9.8% |
Staff eraill | |||
Staff anfeddygol eraill (e) | 86 | 94 | 9.5% |
Cyfanswm | 81,044 | 85,145 | 5.1% |
Ffynhonnell: Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
(a) Gweler Meddygon Teulu dan hyfforddiant.
(b) Gweler Deintyddion (staff deintyddol nad ydynt yn yr ysbyty).
(c) Gweler Cynorthwywyr Gofal Iechyd (H1) a Chynorthwywyr Nyrsio / Nyrsys Cynorthwyol (N9).
(d) Gweler Personél Ambiwlans.
(e) Staff ar daliadau cyffredinol, a staff anfeddygol eraill. Gweler hefyd Staff eraill.
Ceir rhagor o fanylion yn yr adran Ansawdd data a newid codau yn yr Adroddiad Ansawdd.
Bu cynnydd yn nifer y staff ar gyfer pob grŵp staff o 30 Medi 2019 i 30 Medi 2020. Mae’n debygol bod rhai staff a gyflogwyd dros dro yn ystod y pandemig COVID-19 yn parhau ar y system ESR.
- Bu cynnydd o 452 (7.1%) yn nifer y staff meddygol yn yr ysbyty i 6,798. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd o 99 (4.0%) yn nifer yr ymgynghorwyr meddygol yn yr ysbyty i gyfanswm o 2,612 ar 30 Medi 2020.
- Bu cynnydd o 539 (2.5%) yn nifer y staff nyrsio ac ymwelwyr iechyd cofrestredig i 21,898; a bu cynnydd o 936 (8.9%) yn nifer y staff cymorth nyrsio i 11,487. Bu lleihad o 13 (0.9%) yn nifer y staff bydwreigiaeth cofrestredig i 1,377.
- Bu cynnydd o 734 (5.3%) yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol i 14,512. Ar 30 Medi 2020, roedd 77% o staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol yn gymwysedig a 23% yn gweithio mewn graddfeydd cymorth.
- Bu cynnydd o 1,036 (5.5%) yn nifer y staff gweinyddol ac ystadau i 19,722. Ar 30 Medi 2020, roedd 80% o staff gweinyddol ac ystadau yn staff clerigol a gweinyddol.
- Bu cynnydd o 104 (1.7%) yn nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill i 6,174. Ar 30 Medi 2020, roedd 98% o’r staff yn y grŵp hwn yn weithwyr cymorth eraill.
- Bu cynnydd o 239 (9.8%) yn nifer y staff ambiwlans i 2,670. Ar 30 Medi 2020, roedd 43% o’r cyfanswm staff ambiwlans yn staff cofrestredig.
- Bu cynnydd o 8 (9.5%) yng nghyfanswm nifer y staff anfeddygol eraill i 94.
Mae dadansoddiadau manylach o fewn y grwpiau staff, yn cynnwys niferoedd staff ar gyfer sefydliadau GIG unigol, ar gael ar StatsCymru.
Ar 30 Medi 2020, roedd bron hanner y staff oedd yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru naill ai'n staff meddygol a deintyddol, neu'n perthyn i'r grŵp nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd. Y grŵp nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd oedd y grŵp staff mwyaf, yn cyfrif am 41% o'r holl staff.
Mae data crynodeb staff ar gael ar StatsCymru.
3. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn yr Adroddiad ansawdd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
12 Mai 2021
4. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Bethan Sherwood
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 6735
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 41/2021