Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Y GIG yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru, ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi mwy na 103,000 o bobl, mewn bron i 89,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. Mae data o 1979 ar gael ar gyfer staff a gyflogir gan y GIG; fodd bynnag, yn sgil newidiadau yng nghategorïau’r staff, dim ond y niferoedd cyffredinol y gellid eu cymharu'n union dros amser.

Mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i Lawlyfr Codau Galwedigaethau'r GIG, a chanfuwyd nifer o broblemau gydag ansawdd data yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhain yn effeithio ar y cymariaethau dros amser ar gyfer rhai grwpiau staff; ceir rhagor o fanylion yn yr adroddiad ansawdd.

Mae’r cyfnod amser a gwmpesir gan y data hwn yn cynnwys y pandemig coronafeirws (COVID-19). Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau staff ar 30 Medi 2021 yn cynnwys staff ar gontractau tymor byr neu benodol. Roedd y rhain yn cynnwys dod â staff a oedd wedi ymddeol yn ddiweddar i mewn i helpu yn ystod y pandemig COVID-19.

Nid yw'r data'n cynnwys Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a rhai Ymarferwyr Deintyddol gan eu bod yn Gontractwyr annibynnol i'r GIG.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyhoeddir y data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru, yn ôl grŵp staff, ar 30 Medi 2020 a 2021. Mae pob grŵp oni bai am Gynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill wedi cynyddu ers 30 Medi 2020.

Rhwng 30 Medi 2020 a 30 Medi 2021 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn):

  • bu cynnydd o 3,493 (4.1%) yng nghyfanswm nifer y staff i 88,638
  • bu cynnydd o 294 (4.1%) yn nifer y staff meddygol a deintyddol i 7,505
  • bu cynnydd o 926 (2.7%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 35,688
  • bu cynnydd o 2,273 (5.3%) mewn grwpiau staff eraill i 45,445

Crynodeb o’r staff a gyflogir

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru pob blwyddyn rhwng 1979 a 2021, yn ôl grŵp staff. Mae’r siart yn dangos bod nifer y staff cyfwerth ag amser llawn wedi cynyddu 89.0% ers 1979 ac wedi cynyddu 4.1% yn y flwyddyn ddiweddaraf.

Mae nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG (cyfwerth ag amser llawn) wedi cynyddu o 46,909 yn 1979 i 88,638 yn 2021, cynnydd o 89.0%.

Mae’r cynnydd o 4.1% yn nifer y staff rhwng 30 Medi 2020 a 30 Medi 2021 yn is na’r flwyddyn flaenorol, ond mae hefyd yn debygol o fod yn rhannol oherwydd staff dros dro wedi’u recriwtio mewn ymateb i’r pandemig COVID-19.

Tabl 1: Nifer y staff (cyfwerth ag amser llawn) a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru ar 30 Medi 2020 a 30 Medi 2021, a’r newid canrannol ers 30 Medi 2020
Grwpiau staff Ar 30 Medi 2020 Ar 30 Medi 2021 % newid o 2020
Meddygol a deintyddol      
Meddygol yn yr ysbyty ¹ 6,798 7,096 4.4%
Deintyddol yn yr ysbyty 169 166 -2.3%
Meddygol cymunedol / iechyd cyhoeddus 49 46 -4.8%
Deintyddol cymunedol / iechyd cyhoeddus ² 195 197 1.2%
Holl staff meddygol a deintyddol 7,211 7,505 4.1%
Nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd      
Nyrsys ac ymwelwyr iechyd cofrestredig 21,898 22,591 3.2%
Bydwragedd cofrestredig 1,377 1,379 0.2%
Staff cymorth ³ 11,487 11,718 2.0%
Holl staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd 34,762 35,688 2.7%
Gwyddonol, therapiwtig a thechnegol      
Staff cymwysedig 11,164 11,443 2.5%
Staff cymorth ³ 3,347 3,620 8.2%
Holl staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol 14,512 15,063 3.8%
Gweinyddol ac ystadau      
Uwch-reolwr / rheolwr 2,538 2,662 4.9%
Clerigol a Gweinyddol 15,770 17,249 9.4%
Cynnal a Chadw a Gweithfeydd 1,415 1,672 18.1%
Holl staff gweinyddol ac ystadau 19,722 21,583 9.4%
Cynorthwywyr Gofal Iechyd a staff cymorth eraill      
Cynorthwyydd Gofal Iechyd ³ 94 107 13.6%
Gweithiwr cymorth 6,080 5,799 -4.6%
Holl Gynorthwywyr Gofal Iechyd a staff cymorth eraill 6,174 5,906 -4.3%
Ambiwlans      
Staff cofrestredig 1,151 1,107 -3.8%
Staff cymorth 1,518 1,677 10.4%
Holl staff ambiwlans 2,670 2,784 4.3%
Staff eraill      
Staff anfeddygol eraill 94 109 15.8%
Cyfanswm 85,145 88,638 4.1%

Ffynhonnell: Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Nodyn: ceir rhagor o fanylion am grwpiau staff yn yr adroddiad ansawdd.

1 Gweler Meddygon Teulu dan hyfforddiant
2 Gweler Deintyddion (staff deintyddol nad ydynt yn yr ysbyty)
3 Gweler Cynorthwywyr Gofal Iechyd (H1) a Chynorthwywyr Nyrsio / Nyrsys Cynorthwyol (N9)
4 Gweler Personél Ambiwlans
5 Staff ar daliadau cyffredinol, a staff anfeddygol eraill. Gweler hefyd Staff eraill.

Bu cynnydd yn nifer y staff ar gyfer pob grŵp staff oni bai am Gynorthwywyr Gofal Iechyd a staff cymorth eraill o 30 Medi 2020 i 30 Medi 2021. Mae’n debygol bod rhai staff a gyflogwyd dros dro yn ystod y pandemig COVID-19 yn parhau ar y system ESR.

Image
Siart cylch yn dangos cyfran y staff yn ôl grŵp staff ar 30 Medi 2021. Y grŵp mwyaf yw’r grŵp staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, sy’n cyfateb i 40% o’r cyfanswm.

Crynodeb staff y GIG ar StatsCymru

Ar 30 Medi 2021, roedd bron hanner y staff oedd yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru naill ai'n staff meddygol a deintyddol, neu'n perthyn i'r grŵp nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd. Y grŵp nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd oedd y grŵp staff mwyaf, yn cyfrif am 40% o'r holl staff.

Staff meddygol a deintyddol

Image
Siart llinell yn dangos niferoedd cyfwerth ag amser llawn o staff meddygol yn yr ysbyty o 2009 i 2021, pob gradd ac ymgynghorwyr. Mae cyfanswm staff meddygol yn yr ysbyty wedi cynyddu 1,805 (34.1%) ers 30 Medi 2009, a 298 (4.4%) ers 30 Medi 2020 i gyfanswm o 7,096 ar 30 Medi 2021. Mae ymgynghorwyr meddygol yn yr ysbyty wedi cynyddu 747 (38.3%) ers 30 Medi 2009, a 87 (3.3%) ers 30 Medi 2020, i gyfanswm o 2,699 ar 30 Medi 2021.

Yn gyffredinol, mae cyfanswm staff meddygol yn yr ysbyty (cyfwerth ag amser llawn) wedi cynyddu’n raddol o 2009, ond bu cynnydd mwy amlwg ers 30 Medi 2019. Mae hyn hefyd yn wir am ymgynghorwyr meddygol.

Bu cynnydd o 1,805 (34.1%) yn nifer y staff meddygol yn yr ysbyty (cyfwerth ag amser llawn) ers 2009, a chynnydd o 298 (4.4%) ers 30 Medi 2020, i gyfanswm o 7,096 ar 30 Medi 2021.

Bu cynnydd o 747 (38.3%) yn nifer yr ymgynghorwyr meddygol yn yr ysbyty (cyfwerth ag amser llawn) ers 2009, a chynnydd o 87 (3.3%) ers 30 Medi 2020, i gyfanswm o 2,699 ar 30 Medi 2021.

Mae cyfanswm staff deintyddol yr ysbyty (cyfwerth ag amser llawn) wedi aros tua 160 ers 2009. Mae ymgynghorwyr deintyddol (cyfwerth ag amser llawn) hefyd wedi aros yn weddol gyson o ran nifer ond maent wedi cynyddu 4 (9.3%) ers 30 Medi 2020, i gyfanswm o 49 ar 30 Medi 2021.

Staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd

Image
Siart llinell yn dangos niferoedd cyfwerth ag amser llawn o staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, ar 30 Medi 2009 a phob blwyddyn hyd at 2021. Mae staff nyrsio cofrestredig wedi cynyddu 2,223 (10.2%) ers 30 Medi 2009, a 695 (3.0%) ers 30 Medi 2020.

Yn gyffredinol, mae staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig, a staff cymorth nyrsio, wedi cynyddu ers 2009. Er i nifer y staff hyn ostwng ychydig ym mis Medi 2018, bu cynnydd amlwg ym mis Medi 2020 gyda'r niferoedd yn cynyddu ymhellach erbyn mis Medi 2021.

Bu cynnydd o 2,223 (10.2%) yn nifer y staff nyrsio cofrestredig (cyfwerth ag amser llawn) ers 2009 a chynnydd o 695 (3.0%) ers 30 Medi 2020, i gyfanswm o 23,969 ar 30 Medi 2021.

Bu cynnydd o 2,305 (24.5%) yn nifer y staff cymorth nyrsio (cyfwerth ag amser llawn) ers 2009 a chynnydd o 231 (2.0%) ers 30 Medi 2020, i gyfanswm o 11,718 ar 30 Medi 2021.

Grwpiau staff eraill

Image
Siart llinell yn dangos niferoedd cyfwerth ag amser llawn o staff arall, ar 30 Medi 2009 a phob blwyddyn hyd at 2021. Oni bai am y grŵp staff Cynorthwywyr Gofal Iechyd a staff cymorth eraill, mae pob grŵp staff wedi cynyddu ers 2009.

Staff y GIG ar StatsCymru

Bu cynnydd o 3,799 (33.7%) yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol (cyfwerth ag amser llawn) ers 2009, a chynnydd o 552 (3.8%) ers 30 Medi 2020, i gyfanswm o 15,063 ar 30 Medi 2021. Bu cynnydd cyson yn y niferoedd ers 2014.

Bu cynnydd o 5,515 (34.3%) yn nifer y staff gweinyddol ac ystadau (cyfwerth ag amser llawn) ers 2009, a chynnydd o 1,861 (9.4%) ers 30 Medi 2020, i gyfanswm o 21,583 ar 30 Medi 2021. Yn dilyn gostyngiadau bach o 2009, mae'r niferoedd wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2012. Y cynnydd blynyddol diweddaraf yw'r cynnydd canrannol uchaf a welwyd.

Bu cynnydd o 929 (50.1%) yn nifer y staff ambiwlans (cyfwerth ag amser llawn) ers 2009, a chynnydd o 114 (4.3%) ers 30 Medi 2020, i gyfanswm o 2,784 ar 30 Medi 2021. Bu cynnydd amlwg o 16.0% rhwng 2018 a 2019 (yn bennaf oherwydd newidiadau sylweddol i adran ambiwlans llawlyfr codau galwedigaethau’r GIG, gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth) a chynnydd pellach o 9.8% rhwng 2019 a 2020.

Bu gostyngiad o 594 (9.1%) yn nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill (cyfwerth ag amser llawn) ers 2009, a gostyngiad o 268 (4.3%) ers 30 Medi 2020, i gyfanswm o 5,906 ar 30 Medi 2021; effeithir yn rhannol ar hyn gan ail-godio rhai cynorthwywyr gofal iechyd i gynorthwywyr nyrsio / nawdd, gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth.

Mae dadansoddiadau manylach o fewn y grwpiau staff, yn cynnwys niferoedd staff ar gyfer sefydliadau GIG unigol, ar gael ar StatsCymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 6735
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 49/2022