Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn darparu ystadegau cryno ar staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru. Mae'r datganiad yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl grwpiau staff a nodweddion staff ar lefel Cymru. Cyhoeddir data fesul cod galwedigaethol a sefydliadau'r GIG ar StatsCymru

Daw’r ystadegau o Gofnod Staff Electronig y GIG, a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae niferoedd staffio yn cael eu mesur orau drwy ddefnyddio data cyfwerth ag amser llawn (FTE) gan fod FTE yn cyfrif am weithio'n rhan-amser. Mae un FTE yn gyfwerth â pherson yn gweithio'r oriau safonol ar gyfer ei radd (fel arfer 37.5 awr yr wythnos) a ceir mwy o fanylion yn yr adroddiad ansawdd. Mae cyfanswm niferoedd y staff (‘cyfrif pennau’) hefyd yn cael eu darparu ac fe’u defnyddir i ddadansoddi nodweddion.

Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar staff a gyflogir ar ddiwrnod olaf y chwarter diweddaraf sydd ar gael ac yn darparu cyfres amser ddeng mlynedd ar gyfer rhai dadansoddiadau. Mae data ar staff a gyflogir gan y GIG ar gael o 1979 ymlaen ar StatsCymru; fodd bynnag, oherwydd newidiadau i lawlyfr galwedigaethau’r GIG dim ond cyfanswm y staff sy'n hollol gymaradwy dros y gyfres amser gyfan. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad ansawdd

Nid yw data'r gweithlu ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol fel ymarferwyr meddygol cyffredinol ac ymarferwyr deintyddol y GIG wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ac fe'u cyhoeddir ar wahân gan eu bod yn gontractwyr GIG annibynnol.

Prif bwyntiau

Rhwng 30 Medi 2022 a 30 Medi 2023, o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn:

  • cynyddodd nifer y staff 3,838 (4.2%) i 95,446
  • cynyddodd nifer y staff meddygol a deintyddol 267 (3.4%) i 8,103
  • cynyddodd nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd 1,832 (5.1%) i 37,962
  • cynyddodd nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol 642 (4.0%) i 16,627
  • cynyddodd nifer y staff gweinyddu ac ystadau 985 (4.3%) i 23,715
  • cynyddodd nifer y staff ambiwlans 96 (3.3%) i 3,018
  • cynyddodd nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill 22 (0.4%) i 5,900
  • gostyngodd nifer y staff eraill (gan gynnwys staff taliadau cyffredinol a staff anfeddygol eraill) 7 (5.2%) i 119

Cynyddodd cyfanswm nifer y staff hefyd fesul 4,242 (4.0%) i 110,421.

Lle cofnodwyd data ar nodweddion, ar 30 Medi 2023:

  • roedd 77% o'r gweithlu yn fenywaidd, a 23% yn wrywaidd
  • roedd 79% yn 55 oed neu'n iau; 19% yn 56 i 65 oed, a 2% yn 66 oed neu'n hŷn
  • nid oedd gan 94% ohonynt anabledd wedi’i gofnodi, ac roedd gan 6% anabledd wedi’i gofnodi
  • roedd gan 91% genedligrwydd y DU; 6% genedligrwydd nad oedd yn genedligrwydd yr UE, a 2% genedligrwydd yr UE neu AEE 
  • roedd 91% yn perthyn i unrhyw grŵp ethnig gwyn; 5% yn perthyn i unrhyw grŵp ethnig Asiaidd; 1% yn perthyn i unrhyw grŵp ethnig du; 1% yn perthyn i grwpiau ethnig cymysg; a 2% yn perthyn i grwpiau ethnig eraill

Crynodeb o staff a gyflogir yn uniongyrchol

Ffigur 1: Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ar 30 Medi, 2014 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod nifer y staff cyfwerth ag amser llawn wedi cynyddu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gyda chynnydd cyflymach ers 2019.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Crynodeb o staff y GIG yn ôl grŵp staff a blwyddyn ar StatsCymru

Mae cyfanswm y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG wedi cynyddu dros y tymor hir gyda bron i draean (31.7%) yn fwy o staff ym mis Medi 2023 nag oedd ym mis Medi 2014.

Y cynnydd blynyddol mewn staff rhwng mis Medi 2022 a mis Medi 2023 oedd 4.2%. Mae hyn yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol a blynyddoedd cyn y pandemig COVID-19, ond ychydig yn is na'r cynnydd rhwng 2019 a 2020 pan gafodd nifer uchel o staff dros dro eu recriwtio mewn ymateb i'r pandemig. 

Mae data gweithlu’r GIG hanesyddol rhwng 1979 a 2008 hefyd wedi’i gyhoeddi ar StatsCymru.

Dangosir nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gofnodwyd ym mhob grŵp staff yn Ffigur 2.

Ffigur 2: Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ar 30 Medi, yn ôl grŵp staff, 2014 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siartiau llinell yn dangos tuedd tymor hir tuag i fyny yn nifer y staff cyfwerth ag amser llawn ar gyfer grwpiau staff meddygol a deintyddol; nyrsio; gwyddonol, technegol a therapiwtig; gweinyddiaeth ac ystadau; ac ambiwlans. Mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd wedi aros ar lefel debyg ar y cyfan. 

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Crynodeb o staff y GIG yn ôl grŵp staff a blwyddyn ar StatsCymru

[Nodyn 1] Yn cynnwys staff bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd

[Nodyn 2] Cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill

Roedd 8.5% o'r holl staff cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2023 yn staff meddygol a deintyddol. Mae nifer y staff yn y grŵp hwn wedi cynyddu bob blwyddyn dros y deng mlynedd diwethaf ac wedi cynyddu ychydig dros draean (34.4%) ers 30 Medi 2014.

Mae'r duedd tuag i fyny wedi bod yn fwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd ychydig dros bumed (21.1%) o staff meddygol a deintyddol ychwanegol ar 30 Medi 2023 nag yr oedd ar 30 Medi 2019. Mae’r cynnydd canrannol blynyddol yn nifer cyfwerth ag amser llawn wedi bod yn fwy ym mhob blwyddyn ers y pandemig nag yn y blynyddoedd cyn y pandemig.

Roedd 39.8% o'r holl staff cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2023 yn staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, sef y grŵp staff mwyaf. Mae tuedd gyson tuag i fyny wedi bod yn y tymor hir, gyda nifer y staff wedi cynyddu ychydig dros bumed (21.0%) ers 30 Medi 2014. Y cynnydd blynyddol diweddaraf oedd 5.1%, yr uchaf ers casglwyd data cymharol o 2009.

Roedd 17.4% o'r holl staff cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2023 yn staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol. Mae nifer y staff yn y grŵp hwn wedi cynyddu bob blwyddyn dros y deng mlynedd diwethaf ac roedd 42.5% yn uwch ar 30 Medi 2023 nag ar 30 Medi 2014.

Roedd 24.8% o'r holl staff cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2023 yn y grŵp gweinyddu ac ystadau. Mae nifer y staff yn y grŵp hwn wedi cynyddu bob blwyddyn dros y deng mlynedd diwethaf ac roedd 56.3% yn uwch ar 30 Medi 2023 nag ar 30 Medi 2014. 

Roedd 3.2% o'r holl staff cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2023 yn staff ambiwlans. Mae newidiadau sylweddol i adran ambiwlans Llawlyfr Codau Galwedigaethau’r GIG rhwng 2018 a 2019 yn cyfyngu cymariaethau tymor hir, ond roedd bron i chwarter (24.1%) yn fwy o staff ambiwlans ar 30 Medi 2023 nag ar 30 Medi 2019. 

Roedd 6.2% o'r holl staff cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2023 yn gynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill. Mae nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill wedi aros yn weddol sefydlog dros y deng mlynedd diwethaf gyda rhai amrywiadau bach o flwyddyn i flwyddyn. Mae nifer y staff yn y grŵp hwn wedi gostwng 4.2% o gymharu â 2014, ond wedi cynyddu 0.4% o gymharu â 30 Medi 2022. Mae nifer y staff yn y grŵp hwn wedi amrywio ers 2014 ac effeithiwyd yn rhannol ar y nifer gan ailbennu codau rhai cynorthwywyr gofal iechyd yn gynorthwywyr nyrsio/nyrsys cynorthwyol. Gweler yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Roedd 119 o staff cyfwerth ag amser llawn anfeddygol eraill ar 30 Medi 2023. Mae nifer yr aelodau o staff yn y grŵp hwn wedi aros yn weddol sefydlog ers 2014. 

Mae myfyrwyr proffesiynau iechyd a staff a oedd wedi ymddeol yn ddiweddar a gafodd eu recriwtio i helpu yn ystod pandemig COVID-19 wedi'u cynnwys yn nifer y staff o 2020. Ar 30 Medi 2023, roedd tua 70 staff cyfwerth ag amser llawn wedi’u codio i’r mathau hyn o rôl staff.

Staff meddygol a deintyddol

Ffigur 3: Nifer y staff meddygol ysbytai cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi, 2014 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos bod nifer y staff meddygol ysbytai cyfwerth ag amser llawn o bob gradd wedi cynyddu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gyda chynnydd amlwg ers 2019. Mae nifer yr ymgynghorwyr cyfwerth ag amser llawn hefyd wedi cynyddu ers 2014.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Staff meddygol a deintyddol y GIG yn ôl gradd a blwyddyn ar StatsCymru

Mae'r mwyafrif helaeth o staff meddygol a deintyddol yn cael eu categoreiddio fel staff meddygol ysbytai. Ar 30 Medi 2023, roedd 7,683 o staff meddygol ysbytai cyfwerth ag amser llawn, 3.1% yn uwch nag ar yr un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol a 35.9% yn uwch nag ar yr un dyddiad ddeng mlynedd yn ôl.

Meddygon ymgynghorol yw'r radd uchaf o feddygon ysbytai ac maent yn arbenigwyr mewn maes meddygaeth penodol. Ar 30 Medi 2023, roedd 2,826 o ymgynghorwyr meddygol ysbytai cyfwerth ag amser llawn, 2.4% yn uwch nag ar yr un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol a 27.2% yn uwch nag ar yr un dyddiad ddeng mlynedd yn ôl.

Mae cyfanswm staff deintyddol ysbytai cyfwerth ag amser llawn wedi aros yn agos i 160 ers 2014. Roedd 54 o ymgynghorwyr deintyddol ysbytai cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi 2023 sydd hefyd wedi aros yn gyson ar y cyfan dros y degawd.

Staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd

Ffigur 4: Nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn ar 30 Medi, 2014 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell yn dangos cynnydd yn nifer yr holl staff nyrsio cyfwerth ag amser llawn, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gyda chynnydd amlwg ers 2019. Mae nifer y nyrsys cofrestredig wedi parhau i fod tua dwbl nifer y staff cymorth, gyda'r ddau grŵp yn cynyddu ar duedd hirdymor debyg. 

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, yn ôl gradd a maes gwaith ar StatsCymru

Mae nyrsys a bydwragedd cofrestredig yn staff cymwysedig sydd wedi'u cofrestru i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) ac sy'n cael eu llywodraethu gan God yr NMC. Ar 30 Medi 2023 roedd 25,518 o staff nyrsio a bydwreigiaeth cofrestredig cyfwerth ag amser llawn, 5.0% yn uwch nag ar yr un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol a 15.7% yn uwch nag ar yr un dyddiad ddeng mlynedd yn ôl.

Staff cymorth nyrsio yw'r rhai sy'n gweithio gyda nyrsys cofrestredig i ddarparu gofal i gleifion ond nad ydynt wedi'u cofrestru i'r NMC. Ar 30 Medi 2023 roedd 12,445 o staff cymorth nyrsio cyfwerth ag amser llawn 5.1% yn uwch nag ar yr un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol a 33.4% yn uwch nag ar yr un dyddiad ddeng mlynedd yn ôl.

Nodweddion staff

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys dadansoddiadau o nodweddion staff GIG Cymru. Defnyddir niferoedd rhifau cyfrif pennau ar gyfer y dadansoddiad hwn. Caiff ystadegau ar gyfer yr holl staff, ac yn ôl grwpiau staff dethol, eu cyflwyno ar rywedd, band oedran, anabledd, cenedligrwydd ac ethnigrwydd. Mae data ychwanegol ar gyfer sefydliadau unigol ar gael ar yn StatsCymru.

Mae ystadegau nodweddion staff yn seiliedig ar gofnodion lle cofnodwyd statws hysbys, ac felly maent yn arwydd o sut nodweddion sydd gan staff y GIG yng Nghymru. Mae canran y cofnodion lle nad oedd nodweddion wedi’u datgan a chofnodion coll wedi'u cynnwys gyda phob adran, gan ddangos lefel yr ansicrwydd gyda'r ystadegau hyn. Os oes gan y staff sydd â data coll broffil nodweddion systemig gwahanol i'r rhai â statws hysbys, byddai'r ystadegau hyn yn newid.

Mae’r ystadegau a ddangosir yn Ffigurau 5 i 12 wedi’u talgrynnu i'r ganran agosaf.

Ffigur 5: Canran y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn ôl grŵp staff a rhywedd, 30 Medi 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far bentyrrog yn dangos bod y mwyafrif o staff yn fenywaidd yn y rhan fwyaf o grwpiau staff, gan gynnwys: nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd; gwyddonol, therapiwtig a thechnegol; gweinyddu ac ystadau; a staff eraill. Roedd canran uwch o staff ambiwlans a staff meddygol a deintyddol yn staff gwrywaidd. 

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a rhywedd ar StatsCymru

[Nodyn 1] Doedd dim cofnodion â data rhywedd coll.

[Nodyn 2] Yn cynnwys rhai cynorthwywyr gofal iechyd, staff cymorth eraill a staff anfeddygol eraill.

Ar 30 Medi 2023, roedd 77% o holl staff y GIG yng Nghymru yn fenywaidd, a 23% yn wrywaidd. Nid yw hyn wedi newid ers y flwyddyn flaenorol ac mae i raddau helaeth oherwydd bod naw o bob deg o’r grŵp staff mwyaf (nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd) yn fenywaidd. 

Roedd agos at dri chwarter o'r staff yn y grwpiau staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol (77% benywaidd), a gweinyddu ac ystadau (74% benywaidd) yn fenywaidd.

Roedd dau grŵp staff lle’r oedd mwy o staff gwrywaidd na staff benywaidd, sef staff ambiwlans (59% gwrywaidd) a staff meddygol a deintyddol (54% gwrywaidd).

Ffigur 6: Canran y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn ôl band oedran, 30 Medi 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far yn dangos bod canran y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn weddol gyfartal rhwng oedran 26 a 60. Roedd llai o staff yn y bandiau oedran ieuengaf a hynaf.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a band oedran ar StatsCymru

[Nodyn 1] Doedd dim cofnodion â data bandiau oedran coll.

Ar 30 Medi 2023, roedd 7% o’r staff yn 25 oed neu iau ac roedd 9% yn 61 oed neu’n hyn, y ddau heb newid ers y flwyddyn flaenorol. 

Roedd mwyafrif helaeth y staff (84%) rhwng 26 a 60 oed, wedi'u dosbarthu'n fras yn yr un modd dros bob band oedran pum mlynedd o fewn yr ystod oedran hon. Roedd 47% o'r holl staff rhwng 26 a 45 oed, un pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol; tra bod 37% o'r holl staff rhwng 46 a 60 oed, un pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 7: Canran y staff meddygol a deintyddol yn ôl band oedran, 30 Medi 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far yn dangos bod cyfran uchel o staff meddygol a deintyddol mewn grwpiau oedran iau, gan gyrraedd uchafbwynt yn y band oedran 31 i 35. Roedd gostyngiad bras yng nghanran y staff ym mhob band oedran wedi’r pwynt hyn.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a band oedran ar StatsCymru

[Nodyn 1] Doedd dim cofnodion â data bandiau oedran coll.

Roedd cyfran uwch o staff meddygol a deintyddol yn y bandiau oedran iau o gymharu â holl staff y GIG ar 30 Medi 2023. Roedd hanner (50%) y staff meddygol a deintyddol rhwng 26 a 40 oed; tra bod un o bob ugain (5%) aelod o staff yn 61 oed neu’n hŷn, y ddau heb newid ers y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 8: Canran y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd yn ôl band oedran, 30 Medi 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart far yn dangos dosbarthiad cymharol debyg o ganran y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd ar draws pob band oedran pum mlynedd rhwng 26 a 60 oed. Roedd llai o staff yn y bandiau oedran ieuengaf a hynaf.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a band oedran ar StatsCymru

[Nodyn 1] Doedd dim cofnodion â data bandiau oedran coll.

Roedd dosbarthiad oedran staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd yn weddol debyg i'r dosbarthiad ar gyfer holl staff y GIG ar 30 Medi 2023. Roedd 7% o’r staff yn 25 oed neu’n iau ac roedd 8% o’r staff yn 61 oed neu’n hŷn, y ddau heb newid ers y flwyddyn flaenorol.

Roedd mwyafrif helaeth y staff yn y grŵp hwn (85%) rhwng 26 a 60 oed, wedi'u dosbarthu’n fras yn yr un modd dros bob band oedran pum mlynedd o fewn yr ystod oedran hon. Roedd 48% o'r holl staff yn y grŵp hwn rhwng 26 a 45 oed, un pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol; tra bod 37% o'r holl staff rhwng 46 a 60 oed, dau bwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol.

Mae dosbarthiadau oedran ar gyfer grwpiau staff eraill gael ar StatsCymru.

Ffigur 9: Canran y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn ôl statws anabledd, 30 Medi 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart far bentyrrog yn dangos bod canran y staff ag anabledd wedi’i gofnodi yn debyg ar gyfer pob grŵp staff. 

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff ac anabledd ar StatsCymru

[Nodyn 1] Roedd gan 21% o gofnodion ar 30 Medi 2023 statws anabledd coll neu statws anabledd heb ei ddatgelu; mae hyn yn cymharu â 25% yn y flwyddyn flaenorol.

[Nodyn 2] Yn cynnwys rhai cynorthwywyr gofal iechyd, staff cymorth eraill a staff anfeddygol eraill.

O'r holl staff â statws anabledd hysbys ar 30 Medi 2023, nid oedd 94% wedi cofnodi anabledd, un pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol; tra oedd gan 6% anabledd wedi’i gofnodi, un pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol. Ychydig o amrywiad oedd yna ar draws y rhan fwyaf o grwpiau staff gyda chanran y staff ag anabledd wedi’i gofnodi yn amrywio o 3% yn y grŵp meddygol a deintyddol i 8% ar gyfer y grŵp staff ambiwlans.

Ffigur 10: Canran y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn ôl cenedligrwydd, 30 Medi 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart gylch yn dangos bod mwyafrif helaeth y staff wedi cofnodi'r DU fel eu cenedligrwydd. O'r staff nad oeddent wedi’u cofnodi fel gwladolion y DU, roedd mwy o staff o genedligrwydd arall heblaw am yr UE na staff o’r UE. 

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a chenedligrwydd ar StatsCymru

[Nodyn 1] Roedd gan 13% o gofnodion ar 30 Medi 2023 ddata cenedligrwydd coll neu genedligrwydd heb ei ddatgelu; mae hyn yn cymharu â 15% yn y flwyddyn flaenorol.

O'r holl staff â chenedligrwydd hysbys ar 30 Medi 2023, roedd gan 91% genedligrwydd y DU, un pwynt canran yn is nag ar yr un dyddiad y flwyddyn ddiwethaf; 6% genedligrwydd nad oedd yn genedligrwydd yr UE, un pwynt canran yn uwch nag ar yr un dyddiad y flwyddyn ddiwethaf; a 2% genedligrwydd yr UE neu'r AEE, heb newid ers yr un dyddiad y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae data yn ôl grŵp staff ar gael yn StatsCymru ac maent yn dangos bod gan y grŵp staff meddygol a deintyddol fwy o amrywiad na'r grwpiau staff eraill. Roedd gan ddau o bob tri (66%) staff meddygol a deintyddol â chenedligrwydd hysbys genedligrwydd y DU, ychydig dros chwarter (28%) genedligrwydd nad oedd yn genedligrwydd yr UE, a 6% genedligrwydd yr UE neu'r AEE. 

O'r grwpiau staff eraill, roedd 99% o staff ambiwlans wedi’u cofnodi fel gwladolion y DU (yr uchaf o unrhyw grŵp), tra roedd 91% o staff nyrsio yn wladolion y DU (yr isaf o'r grwpiau staff anfeddygol a deintyddol).

Ffigur 11: Canran y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn ôl ethnigrwydd, 30 Medi 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart far yn dangos bod mwyafrif helaeth y staff wedi’u cofnodi mewn grwpiau ethnig gwyn. Y grŵp ethnig uchaf nesaf oedd Asiaidd/Asiaidd Prydeinig, tra oedd llai o staff yn y grwpiau ethnig eraill i gyd.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff ac ethnigrwydd ar StatsCymru

[Nodyn 1] Roedd gan 12% o gofnodion ar 30 Medi 2023 ddata ethnigrwydd coll neu ethnigrwydd heb ei ddatgelu, yr un gyfran ag yn y flwyddyn flaenorol.

O'r holl staff â grŵp ethnig hysbys ar 30 Medi 2023, roedd ychydig dros naw o bob deg (91%) mewn grwpiau ethnig gwyn. Roedd un o bob ugain (5%) mewn unrhyw grŵp ethnig Asiaidd, tra roedd 1% mewn unrhyw grŵp ethnig du, 1% mewn grwpiau ethnig cymysg, a 2% mewn grwpiau ethnig eraill. Roedd dosbarthiad staff rhwng grwpiau ethnig yn weddol debyg i’r un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 12: Canran y staff meddygol a deintyddol yn ôl ethnigrwydd, 30 Medi 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart far yn dangos bod dosbarthiad grwpiau ethnig ar gyfer staff meddygol a deintyddol yng Nghymru yn wahanol i’r ddosbarthiad ar gyfer holl staff y GIG. Er bod mwyafrif helaeth y staff wedi’u cofnodi mewn grwpiau ethnig gwyn, mae canran uwch o staff ym mhob grŵp ethnig arall. 

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Canran staff y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff ac ethnigrwydd ar StatsCymru

[Nodyn 1] Roedd gan 38% o staff meddygol a deintyddol ddata ethnigrwydd coll ar 30 Medi 2023, o gymharu â 35% yn y flwyddyn flaenorol.

Roedd mwy o amrywiaeth yn nosbarthiad grwpiau ethnig mewn staff meddygol a deintyddol nag ym mhob grŵp staff arall ar 30 Medi 2023. Roedd bron i chwech o bob deg (57%) aelod o staff mewn unrhyw grŵp ethnig gwyn, tra roedd bron i dri o bob deg (28%) aelod o staff mewn unrhyw grŵp ethnig Asiaidd. 

Roedd cyfran unrhyw grŵp ethnig du, grŵp ethnig cymysg a grwpiau ethnig eraill i gyd yn uwch nag mewn unrhyw grŵp staff arall. 

Mae canran y staff sydd wedi’u cofnodi ym mhob grŵp ethnig ar gyfer yr holl grwpiau staff eraill yn debyg i'w gilydd ar y cyfan ac ar gael yn StatsCymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ffynhonnell y data yw Cofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd

Mae gan nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG rai patrymau tymhorol, sy’n gysylltiedig ag amseroedd penodol yn y flwyddyn pan fydd modd recriwtio staff newydd gymhwyso i rolau parhaol. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Pan yn seiliedig ar ffigurau cyfwerth ag amser llawn, mae'r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i'r 0.1 agosaf. Pan yn seiliedig ar ffigurau cyfrif pennau, mae'r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i'r canran agosaf. Mae newidiadau pwynt canran yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar y niferoedd heb eu talgrynnu.

Mae data am Absenoldeb oherwydd salwch yn y GIGswyddi gwag yng Ngig Cymru yn cael eu cyhoeddi bob chwarter. Sylwch fod mân wahaniaethau yn y ffordd y mae grwpiau staff yn cael eu diffinio rhwng datganiadau. Manylir ar y rhain yn yr adroddiad ansawdd.

Ceir manylion llawn o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf yn yr adroddiad ansawdd

Nid yw data'r gweithlu ar gyfer ymarferwyr meddygol cyffredinol ac ymarferwyr deintyddol y GIG yn cael eu cynnwys yn y datganiad hwn ac fe'u cyhoeddir ar wahân gan eu bod yn gontractwyr GIG annibynnol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Mae'r rhain er mwyn sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 6/2024