Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn darparu ystadegau cryno ar staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ac yn canolbwyntio ar nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir ar ddiwrnod olaf y chwarter diweddaraf sydd ar gael. Mae'r datganiad yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl grwpiau staff ar lefel Cymru. Cyhoeddir data fesul cod galwedigaethol a sefydliad GIG ar StatsCymru.

Daw’r ystadegau o’r Cofnod Staff Electronig y GIG, a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae lefelau staffio yn cael eu mesur orau drwy ddefnyddio data cyfwerth ag amser llawn (FTE). Mae un FTE yn gyfwerth â pherson yn gweithio'r oriau safonol ar gyfer ei radd. Mae cyfanswm niferoedd y staff (‘cyfrif pennau’) hefyd yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru ac fe’u defnyddir ar gyfer dadansoddi nodweddion staff (StatsCymru) yn y datganid ystadegol blynyddol.

Nid yw data'r gweithlu ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol fel Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol y GIG wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ac fe'u cyhoeddir ar wahân gan eu bod yn gontractwyr GIG annibynnol.

Prif bwyntiau

Rhwng 30 Mehefin 2022 a 30 Mehefin 2023, o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn:

  • cynyddodd cyfanswm nifer y staff 3,433 (3.8%) i 94,325
  • cynyddodd nifer y staff meddygol a deintyddol 301 (4.0%) i 7,879
  • cynyddodd nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd 1,383 (3.8%) i 37,418
  • cynyddodd nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol 715 (4.6%) i 16,398
  • cynyddodd nifer y staff gweinyddiaeth ac ystadau 912 (4.0%) i 23,545
  • cynyddodd nifer y staff ambiwlans 114 (3.9%) i 3,024
  • gostyngodd nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill 1 (llai na 0.1%) i 5,943
  • cynyddodd nifer y staff eraill (gan gynnwys staff taliadau cyffredinol a staff anfeddygol eraill) 8 (7.8%) i 117

Rhwng 30 Mehefin 2022 a 30 Mehefin 2023, cynyddodd cyfanswm nifer y staff 3,740 (3.5%) i 109,204.

Crynodeb o staff a gyflogir yn uniongyrchol

Ffigur 1: Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ar 30 Mehefin, 2019 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod nifer y staff cyfwerth ag amser llawn wedi cynyddu pob blwyddyn ers 2019.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Crynodeb o staff y GIG yn ôl grŵp staff a blwyddyn ar StatsCymru

Mae cyfanswm y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG wedi cynyddu dros y tymor hir gyda 17.9% yn fwy o staff ym mis Mehefin 2023 nag oedd ym mis Mehefin 2019.

Ffigur 2: Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn y swydd ar 30 Mehefin 2022 a 30 Mehefin 2023 yn ôl grŵp staff

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far sy’n dangos mai’r grŵp nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd yw'r grŵp staff mwyaf gyda bron i 40% o gyfanswm y gweithlu. Mae nifer y staff cyfwerth ag amser llawn ar gyfer pob grŵp, ac eithrio'r grŵp cynorthwywyr gofal iechyd a staff cefnogol eraill, wedi cynyddu ers 30 Mehefin 2022.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Crynodeb o staff y GIG yn ôl grŵp staff a blwyddyn ar StatsCymru

Y cynnydd blynyddol mewn staff cyfwerth ag amser llawn rhwng mis Mehefin 2022 a mis Mehefin 2023 oedd 3.8%. Roedd y newid yn nifer y staff cyfwerth ag amser llawn yn amrywio o gynnydd o 7.8% yn nifer y staff eraill, i ostyngiad o lai na 0.1% yn nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cefnogol eraill.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ffynhonnell y data yw Cofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mae rhai patrymau tymhorol yn y data yma. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion newydd ymuno â’r gweithlu. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Mae'r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i'r 0.1 agosaf. Mae newidiadau pwynt canran yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar y niferoedd heb eu talgrynnu.

Mae data am Absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG a swyddi gwag ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn cael eu cyhoeddi bob chwarter. Sylwch fod mân wahaniaethau yn y ffordd y mae grwpiau staff yn cael eu diffinio rhwng y ddau ddatganiad. Manylir ar y rhain yn yr adroddiad ansawdd.

Ceir manylion llawn o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Mae'r rhain er mwyn sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 89/2023