Neidio i'r prif gynnwy

Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 31 Mawrth 2022.

Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau staff ar 31 Mawrth 2022 yn cynnwys staff ar gontractau tymor byr neu benodol wedi dod i mewn i helpu yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Rhwng 31 Mawrth 2021 a 31 Mawrth 2022 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn)

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru, yn ôl grŵp staff, ar 31 Mawrth 2021 a 2022. Mae pob grŵp wedi cynyddu ers 31 Mawrth 2021.
  • Bu cynnydd o 2,685 (3.0%) yng nghyfanswm nifer staff i 90,943.
  • Bu cynnydd o 296 (4.1%) yn y staff meddygol a deintyddol i 7,590.
  • Bu cynnydd o 50 (0.1%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 36,077.
  • Bu cynnydd o 2,338 (5.2%) yn nifer y grwpiau staff eraill i 47,276.
  • Cynyddodd cyfrif pennau staff fesul 2,647 (2.6%) i 105,328.

Nodiadau

Cyhoeddwyd data ar StatsCymru. Does dim datganiad ystadegol.

Mae rhai patrymau tymhorol yn y data hwn. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir manylion llawn yn yr adroddiad ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Bethan Sherwood

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.