Neidio i'r prif gynnwy

Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 31 Rhagfyr 2021.

Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau staff ar 31 Rhagfyr 2021 yn cynnwys staff ar gontractau tymor byr neu benodol wedi dod i mewn i helpu yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yn y swydd ar 31 Rhagfyr 2020 a 31 Rhagfyr 2021 yn ôl grŵp staff (cyfwerth ag amser llawn)

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru, yn ôl grŵp staff, ar 31 Rhagfyr 2020 a 2021. Mae pob grŵp oni bai am gynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth eraill wedi cynyddu ers 31 Rhagfyr 2020.
  • Bu cynnydd o 3,602 (4.2%) yng nghyfanswm nifer staff i 89,743
  • Bu cynnydd o 332 (4.6%) yn y staff meddygol a deintyddol i 7,577
  • Bu cynnydd o 730 (2.1%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 35,817
  • Bu cynnydd o 2,540 (5.8%) yn nifer y grwpiau staff eraill i 46,349.
  • Cynyddodd cyfrif pennau staff fesul 4,036 (4.0%) i 104,036.

Nodiadau

Cyhoeddwyd data ar StatsCymru. Does dim datganiad ystadegol.

Mae rhai patrymau tymhorol yn y data hwn. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir manylion llawn yn yr adroddiad ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.