Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn darparu ystadegau cryno ar staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru. Mae'r datganiad yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl grwpiau staff ar lefel Cymru. Cyhoeddir data manylach fesul sefydliadau'r GIG ar StatsCymru

Caiff yr ystadegau eu llunio ar sail data o Gofnod Staff Electronig y GIG, a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae lefelau staffio yn cael eu mesur orau drwy ddefnyddio data cyfwerth ag amser llawn (FTE). Mae un FTE yn gyfwerth â pherson yn gweithio'r oriau safonol ar gyfer ei radd. Mae cyfanswm niferoedd y staff (‘cyfrif pennau’) hefyd yn cael eu darparu ac fe’u defnyddir i ddadansoddi nodweddion.

Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar y flwyddyn ddiweddaraf. Nid yw data'r gweithlu ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol fel Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol y GIG wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ac fe'u cyhoeddir ar wahân gan eu bod yn gontractwyr GIG annibynnol.

Cyhoeddir yr holl ddata yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Rhwng 31 Rhagfyr 2021 a 31 Rhagfyr 2022 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn):

  • cynyddodd nifer y staff 2,699 (3.0%) i 92,442
  • cynyddodd nifer y staff meddygol a deintyddol 324 (4.3%) i 7,901
  • cynyddodd nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd 759 (2.1%) i 36,576
  • cynyddodd nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol 802 (5.2%) i 16,207
  • cynyddodd nifer y staff gweinyddiaeth ac ystadau 983 (4.5%) i 23,006
  • gostyngodd nifer y staff ambiwlans 105 (3.7%) i 2,747
  • gostyngodd nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill 72 (1.2%) i 5,885
  • cynyddodd nifer y staff eraill (gan gynnwys staff taliadau cyffredinol a staff anfeddygol eraill) 8 (6.9%) i 120

Rhwng 31 Rhagfyr 2021 a 31 Rhagfyr 2022, cynyddodd cyfanswm nifer y staff 2,959 (2.8%) i 106,995.

Crynodeb o’r staff a gyflogir

Ffigur 1: Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn y swydd ar 31 Rhagfyr 2021 a 31 Rhagfyr 2022 yn ôl grŵp staff 

Image

Disgrifiad o ffigur 1: Siart far sy’n dangos mai’r grŵp nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd yw'r grŵp mwyaf sy'n ffurfio bron i 40% o gyfanswm y gweithlu. Mae'r holl grwpiau ac eithrio'r grwpiau ambiwlans a'r cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cefnogol eraill wedi cynyddu ers 31 Rhagfyr 2021.

Ffynhonnell: Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 

Crynodeb o staff y GIG yn ôl grŵp staff a blwyddyn ar StatsCymru

Mae rhai patrymau tymhorol yn y data hyn. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Y cynnydd blynyddol mewn staff rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Rhagfyr 2022 oedd 3.0%. Dim ond y grwpiau ambiwlans a'r cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cefnogol eraill sydd wedi gostwng mewn nifer ers 31 Rhagfyr 2021.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ffynhonnell y data yw Cofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd

Mae'r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i'r 0.1 agosaf. Mae newidiadau pwynt canran yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar y niferoedd heb eu talgrynnu.

Mae data am Absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yn cael eu cyhoeddi bob chwarter. Sylwch fod mân wahaniaethau yn y ffordd y mae grwpiau staff yn cael eu diffinio rhwng y ddau ddatganiad. Manylir ar y rhain yn yr adroddiad ansawdd.

Nid yw data'r gweithlu ar gyfer Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol y GIG yn cael eu cynnwys yn y datganiad hwn ac fe'u cyhoeddir ar wahân gan eu bod yn gontractwyr GIG annibynnol.  

Ceir manylion llawn o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf yn yr adroddiad ansawdd

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 41/2023