Neidio i'r prif gynnwy

Nifer y staff yn y sector addysg uwch ar gyfer Medi 2021 i Awst 2022.

Prif bwyntiau

  • Yn gyffredinol, gwelwyd cynnydd bach yn nifer y staff ym mhrifysgolion Cymru o 20,385 yn 2020/21 i 20,625 yn 2021/22 (i fyny 1%).
  • Roedd nifer y staff yn uwch yn 2021/22 nag yr oeddent yn 2020/21 ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (10% yn uwch), Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (8% yn uwch), Prifysgol De Cymru (2% yn uwch), Prifysgol Abertawe (1% yn uwch) a Phrifysgol Glyndŵr (1% yn uwch).
  • Fe wnaeth nifer y staff aros yn weddol debyg ar gyfer Prifysgol Caerdydd.
  • Roedd nifer y staff yn is yn 2021/22 nag yr oeddent yn 2020/21 ar gyfer Prifysgol Bangor (6% yn is) a Phrifysgol Aberystwyth (2% yn is).
  • Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi’r nifer mwyaf o staff (6,935), a’r cyflogwr mwyaf nesaf oedd Prifysgol Abertawe (3,700).
  • Prifysgol Glyndŵr oedd y brifysgol leiaf o ran nifer y staff. Roedd yn cyflogi 500 yn 2021/22.
  • Roedd ychydig llai na hanner yr holl staff (49%) ar gontractau academaidd.
  • Roedd 64% o gontractau academaidd yn rhai amser llawn ac roedd 72% o gontractau nad ydynt yn rhai academaidd yn rhai amser llawn.
  • O’r rheini nad oedd ar gontractau academaidd, roedd 4,580 (44%) mewn galwedigaethau proffesiynol neu dechnegol, 3,545 (34%) mewn galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol, 960 (9%) yn rheolwyr, yn gyfarwyddwyr neu’n uwch-swyddogion, ac roedd 700 (7%) mewn ‘galwedigaethau elfennol’.
  • Menywod oedd yn llenwi 55% o’r holl swyddi staff. Fodd bynnag, 48% ohonynt oedd â chontractau academaidd.  Roedd ychydig dros ddau o bob tri o’r aelodau staff rhan-amser yn fenywod (67%).
  • Dywedodd 10%(r) o staff academaidd eu bod yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a 49%(r) o’r rheini oedd yn gwneud hynny mewn gwirionedd.

(r) Adolygwyd ar 16 Ionawr 2024. ‌Cafodd y ffigurau a gynhyrchwyd yn y pennawd hwn eu cynhyrchu gan ddefnyddio sgript nad oedd yn cyfrif yn gynhwysfawr am ddata coll. ‌O'r herwydd, cafodd y canrannau ar gyfer y pwynt penodol hwn eu cyfrif ar sail cyfansymiau a oedd yn eithrio categori o ddata coll, sy'n golygu bod staff Cymraeg eu hiaith ac staff sy'n addysgu yn Gymraeg wedi'u gor-adrodd yn y cyfrifiadau o ganrannau.

Mae niferoedd y staff yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio’r mesur person cyfwerth â pherson llawn ar gyfer staff nad ydynt ar gontractau annodweddiadol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Sedeek Ameer

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.