Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n esbonio sut rydym yn defnyddio data personol a gesglir gan yr ymchwil defnyddwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Marvell Consulting i wneud ymchwil defnyddwyr i’r defnydd o StatsCymru ar ein rhan. Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi, a Marvell Consulting fydd yn gweithredu fel ein Prosesydd. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu drwy ymchwil defnyddwyr yn cael ei defnyddio'n ddienw ac ni fydd modd ei phriodoli i chi oni bai ein bod yn gofyn am eich caniatâd.

Fel rhan o'n hymrwymiadau i ddata agored a sicrhau bod gwybodaeth ystadegol ar gael i'r cyhoedd, rydym yn cyhoeddi data ac mae'r ymchwil hon yn cael ei defnyddio i sicrhau bod StatsCymru yn diwallu anghenion y rheini sy'n ei defnyddio. Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol ac mae prosesu eich gwybodaeth yn seiliedig ar eich caniatâd.

Os ydych wedi cymryd rhan yn yr ymchwil ac yn awyddus i dynnu eich caniatâd yn ôl, gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg drwy anfon e-bost i desg.ystadegau@llyw.cymru.

Dim ond am gyfnod eu contract gyda ni, sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2025, y bydd Marvell Consulting yn cadw'r wybodaeth hon. Ar ôl cwblhau'r gwaith, byddant yn trosglwyddo'r holl wybodaeth i ni, a byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy am hyd at flwyddyn, ac ar yr adeg honno bydd yn cael ei dinistrio'n ddiogel. Bydd unrhyw wybodaeth nad yw’n adnabyddadwy yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol, megis adroddiad cryno o'r ymchwil.

Hawliau unigolion

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol mae Llywodraeth Cymru'n ei gadwamdanoch ac i gael mynediad ato
  • i'w gwneud yn ofynnol inni unioni anghywirdebau yn y data hwnnw
  • (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu eich data neu gyfyngu arhynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i’ch data gael ei 'ddileu'
  • (mewn rhai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef einrheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol)
Ffacs: 01625 524 510

Gwefan: www.ico.gov.uk