Neidio i'r prif gynnwy

Mae enw da diwydiant bwyd a diod Cymru sy’n parhau i ffynnu wedi derbyn hwb pellach yn sgil y ffaith bod yr Undeb Ewropeaidd wedi rhoi statws newydd i Borc Cymreig Pedigri wedi’i Fagu’n Draddodiadol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi Statws Gwarant Arbenigedd Traddodiadol (TSG) i Borc o Foch Cymreig Pedigri sydd wedi’u magu’n draddodiadol. Mae nifer o gynhyrchion Cymreig wedi llwyddo i gyflawni statws gwarchodedig yr UE. Yn eu mysg y mae Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cig Oen a Chig Eidion Cymreig, Enw Tarddiad Gwarchodedig Halen Môn. Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Tatws Newydd Cynnar Sir Benfro, Cregyn Gleision Conwy, Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Ham Caerfyrddin a Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig ac Enw Tarddiad Gwarchodedig Gwin Cymreig.   

Yn wahanol i fwydydd ag iddynt ddynodiad daearyddol gwarchodedig, mae modd i Borc Cymreig Pedigri gael ei gynhyrchu unrhyw le yn Ewrop, cyn belled â bod yr anifeiliaid yn rhai pedigri a’u bod wedi’u cofrestru â Chymdeithas Moch Prydain neu gymdeithas debyg ar gyfer y brid. Caiff ceidwaid moch sy’n defnyddio’r dynodiad TSG eu hannog i ddod yn aelodau o’r Gymdeithas Moch Cymreig Pedigri. Bydd modd i’r Gymdeithas hon gynnig cymorth a chefnogaeth er mwyn sicrhau bod moch yn cael eu magu yn unol â’r dulliau traddodiadol, a chan gadw at safonau uchel o ran hwsmonaeth.  

Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y cyhoeddiad. Dywedodd:  

“Hoffwn longyfarch y Gymdeithas Moch Cymreig Pedigri ar fod y cyntaf yng Nghymru i ennill Statws Gwarant Arbenigedd Traddodiadol yr UE. Mae’n tystio i’r hyn yr ydym eisoes yn ei wybod - fod Cymru’n cynhyrchu bwyd a diod o’r radd flaenaf. Mae enwau mwy a mwy o’n cynhyrchion yn cael eu gwarchod - sy’n cydnabod ymroddiad ein cynhyrchwyr o safbwynt sicrhau ansawdd eu cynnyrch. Golyga’r statws fod cynhyrchion yn cael eu gwarchod o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.”

Ychwanegodd Bob Stevenson, Cadeirydd Cymdeithas Moch Cymreig Pedigri a milfeddyg moch amlwg: 

“Gall defnyddwyr deimlo’n gwbl hyderus yn awr wrth brynu porc Cymreig pedigri wedi’i fagu’n draddodiadol a gallant deimlo’n gwbl hyderus fod y cig wedi’i gynhyrchu mewn modd sy’n rhoi blaenoriaeth i lesiant yr anifail gydol ei fywyd.” 

Dywedodd Melanie Cargill, cynrychiolydd menter newydd sy’n ceisio datblygu’r diwydiant moch yng Nghymru: 

“Mae’n glod arbennig i frid moch cynhenid Cymru a bydd yn sicr yn helpu i godi proffil porc Cymreig ymhellach. Mae siopwyr bellach yn dymuno cael sicrwydd ynghylch tarddiad y bwydydd y maent yn eu prynu ac mae’r statws hwn yn rhoi sicrwydd ychwanegol iddynt. 

“Dim ond tri o gynhyrchion o fewn y DU sydd â Statws Gwarant Arbenigedd Traddodiadol. Mae hyn yn tystio i natur unigryw moch Cymreig.”

Pwysleisiodd Lesley Griffiths yn ogystal y ffaith bod Llywodraeth Cymru’n awyddus i sicrhau bod enwau bwydydd gwarchodedig yn parhau i gael eu cydnabod ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd:

“Rydym yn cydweithio’n agos â Defra, sy’n gyswllt â’r UE, er mwyn sicrhau dyfodol i enwau bwydydd gwarchodedig ar ôl i ni adael. Mae gan wledydd eraill nad ydynt yn rhan o’r Undeb enwau bwydydd gwarchodedig ac mae hynny’n gosod cynsail i’r DU ar gyfer ystyried cynllun tebyg yn y dyfodol.”