Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i statws buches TB mewn gwartheg o 17 Ionawr 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Statws heb TB swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW)

O 17 Ionawr 2022 ymlaen, bydd pob achos newydd o TB ledled Cymru, gyda dau eithriad yn unig, yn cael eu categoreiddio fel Statws heb TB swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW).

Yr unig ddau eithriad, a fydd yn parhau i gael eu categoreiddio fel Statws heb TB swyddogol (OFTS) yw:

  1. buchesi OFTS lle yr amheuir bod un neu fwy o achosion lladd-dy wedi cael eu datgelu ac maent dal i aros am ganlyniadau profion labordy                               
  2. buchesi wedi'u heintio â TB lle mae dim ond anifeiliaid na fagwyd ar y fferm sydd wedi cael profion positif ar gyfer gwrthgyrff gama interfferon a/neu IDEXX (h.y. dim adweithyddion croen) wedi cael eu datgelu ac nid oes clefyd wedi’i gadarnhau yn y canlyniadau archwiliad post mortem/profion labordy.

Bydd buchesi OTFS lle ddechreuodd yr achos o TB cyn 15 Tachwedd yn aros yn OTFS oni bai y caiff unrhyw adweithydd prawf croen pellach ei ddatgelu, neu y mae ffactorau risg epidemiolegol yn gymwys.

Adweithyddion Amhendant newidiadau i reolau 3 blynedd

Ar 17 Ionawr 2022, bydd pob buches OTF (statws heb TB swyddogol) yng Nghymru lle datgelir adweithyddion amhendant yn unig, yn parhau o dan gyfyngiadau nes:

  • y bydd yr adweithyddion amhendant yn cael eu hailbrofi a’r canlyniadau’n negyddol
  • a nes bod y cyfyngiadau ar symud buchesi ac unigolion yn cael eu codi, neu tan i un neu fwy o'r adweithyddion amhendant droi’n adweithyddion a/neu tan iddynt gael adwaith amhendant am yr eildro (os felly, byddan nhw hefyd yn cael eu hystyried yn adweithyddion) a bydd statws OTF y fuches yn cael ei dynnu'n ôl ( OTFW)

Dyma’r rhesymau dros y newid hwn, a’r manteision a ddisgwylir:

  • mae astudiaethau yn Iwerddon a Lloegr wedi dangos bod mwy o risg i wartheg sydd wedi cael adwaith amhendant i brawf ar ôl dehongliad safonol mewn buchesi ac ynddynt adweithyddion amhendant yn unig, droi’n adweithyddion wedyn nag anifeiliaid sydd wedi cael prawf clir
  • mae'n atal gwartheg sydd wedi cael prawf clir rhag cael eu symud allan o'r fuches ar adeg pan fo mwy o risg i'r fuches golli ei statws OTF yn y dyfodol agos
  • mae'n sicrhau na chaiff anifeiliaid risg uwch a fyddai'n adweithyddion amhendant ar ôl ail brawf oherwydd bod achosion o TB, symud o’r safle.

Sut y caiff y newidiadau eu gweithio

Mewn buches sydd â Statws Heb TB Swyddogol yng Nghymru sydd â dyddiad TT2 (dyddiad olaf y ffenestr brofi) ar neu ar ôl 17 Ionawr 2002 sy’n dangos adweithyddion amhendant yn unig (heb yr un adwaith i’r prawf), dylai milfeddygon ddweud wrth geidwad y gwartheg bod y fuches o dan gyfyngiadau symud ar unwaith ac ni chaiff y cyfyngiadau eu codi nes bod prawf TB arall yn cael ei roi ar yr adweithyddion amhendant a’u bod yn cael canlyniad negyddol.

Dyma sut bydd hi gydag unrhyw brawf rhannol sydd â dyddiad TT2 cyn 17 Ionawr sy’n dangos adweithyddion amhendant a bod rhan ola’r prawf yn cael ei gynnal ar neu ar ôl 17 Ionawr.

Sut mae cyfyngiadau yn cael eu cyflwyno os oes mwy nag un rhif daliad (CPH) ar gyfer fy muches

Bydd cyfyngiadau ar gyfer pob rhif daliad parhaol a thros dro ychwanegol sy’n perthyn i’r un busnes a bydd angen gwahanol drwyddedau a hysbysiadau cyfyngiadau TB02 (hysbysiad yn gwaharddd symud anifeiliaid buchol) oddi wrth Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) er mwyn gallu symud gwartheg rhyngddynt.

Bydd angen i unrhyw symud o’r fath ddigwydd o fewn 30 diwrnod i brawf TB yr anifail. Bydd ostyngiad o 50% i unrhyw iawndal ar gyfer unrhyw anifeiliaid a gaiff eu symud dan drwydded ac yna eu difa at ddibenion rheoli TB os bydd anifeiliaid sydd wedi cael adwaith amhendant yn methu’r ail brawf.

Canllawiau pellach

Mae canllawiau pellach hefyd ar gael: