Neidio i'r prif gynnwy

Dengys arolygon stoc llety nifer y busnesau llety twristiaeth a chapasiti o ran lleoedd gwely yng Nghymru yn ôl categori llety.

Crynhoir y canlyniadau yn ganolog gan Lywodraeth Cymru. Cesglir y wybodaeth fel angen Eurostat ac fe ddarpara fraslun o un o rannau mwyaf arwyddocaol y diwydiant twristiaeth. Defnyddir y wybodaeth yma ar gyfer ystod eang o ddibenion cynllunio a buddsoddi, o fewnbwn i gynlluniau busnes i gynllunio ar gyfer digwyddiadau mawr.

Mae darlun stoc llety yn newid yn wastadol fel y mae busnesau yn agor neu yn cau, yn tyfu neu’n crebachu, yn uwchraddio neu’n amrywiaethu. Yn gyffredinol, mae’r wybodaeth yn cael ei diweddaru’n flynyddol gan yr awdurdodau lleol, gydag arolwg cyfan fel arfer bob tair blynedd.

Adroddiadau

Crynodeb o ddata stoc gwelyau Cymru: sefyllfa ar Mawrth 2013 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 73 KB

PDF
Saesneg yn unig
73 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 061 6026

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8665

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.