Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn dangos y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r trydydd sector wedi ei wneud yn erbyn amcanion y cynllun cyflawni. 

Mae'r ddogfen drosolwg hon yn tynnu sylw at brif gyflawniadau Llywodraeth Cymru o'r flwyddyn galendr hon gan gynnwys:

  • Y Gronfa Seibiannau Byr 
  • Y Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl gwerth £500
  • Y Gronfa Gymorth i Ofalwyr
  • Y swm o £1m i Gefnogi Gofalwyr Di-dâl wrth Ryddhau Cleifion o’r Ysbyty
  • Y Prosiect Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc
  • Y Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl

Ers mis Ionawr 2022, mae gwariant gwerth £42m wedi ei gyhoeddi i gefnogi gofalwyr di-dâl. Mae'r ffigur hwn yn cynnwys £29m a ddyrannwyd i roi taliad o £500 i ofalwyr di-dâl sy'n cael Lwfans Gofalwyr yn ystod 2022. Cyhoeddwyd swm o £4.5 miliwn dros y tair blynedd nesaf i barhau â'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr tan 2025. Cyhoeddwyd swm o £9m hefyd i sefydlu'r Gronfa Seibiannau Byr dros y tair blynedd nesaf, gyda gwaith yn dechrau o fis Ebrill 2022.

Y Gronfa Seibiannau Byr

Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddwyd bod swm o £9m yn cael ei fuddsoddi dros dair blynedd i sefydlu cynllun seibiannau byr arloesol i ofalwyr di-dâl ar incwm isel sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â’u cyfrifoldebau gofalu. Drwy’r cynllun hwn, bydd mwy o gyfleoedd ar gael i ofalwyr di-dâl gymryd hoe o'u rôl fel gofalwyr a byw ei bywydau eu hunain ochr yn ochr â gofalu.

Penodwyd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru fel y corff cydgysylltu cenedlaethol i sefydlu a goruchwylio'r cynllun, ac mae'n cydweithio â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, awdurdodau lleol a'r trydydd sector ledled Cymru i hybu dyfeisgarwch a hyrwyddo arferion da.

Lansiwyd cynllun grant i'r trydydd sector, Amser, ym mis Ionawr 2023, sy'n canolbwyntio ar ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd am seibiannau byr i ofalwyr di-dâl o bob cymuned ledled Cymru.

Y Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl gwerth £500

Cyhoeddwyd swm o £29m ym mis Mawrth 2022, i ddarparu taliad cymorth gwerth £500 i ofalwyr di-dâl a oedd yn cael Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022. Roedd modd i ofalwyr cymwys gofrestru â'u hawdurdod lleol yn ystod dau gyfnod cofrestru a gynhaliwyd rhwng mis Mawrth a mis Medi. Cafodd y cynllun taliad ei hyrwyddo drwy ymgyrch gyhoeddusrwydd helaeth hefyd.

Y Gronfa Gymorth i Ofalwyr

Dechreuodd ein Grant Cymorth i Ofalwyr yn ystod 2020. Roedd y cynllun hwn yn torri tir newydd, ac wedi cael cyllid o £2.75m hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022, gyda £4.5m yn rhagor dros dair blynedd yn dechrau o fis Ebrill 2022.

Gall gofalwyr di-dâl fanteisio ar grantiau bach a chael gafael ar gymorth parhaus. Caiff y gronfa ei weinyddu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Ers iddi gael ei lansio yn 2020, mae'r gronfa hon wedi helpu dros 10,000 o ofalwyr ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol sylfaenol. Mae hefyd wedi helpu i nodi nifer sylweddol o ofalwyr nad oeddent yn hysbys cynt i wasanaethau. Mewn rhai ardaloedd, roedd 70% o'r ymgeiswyr yn ofalwyr nad oeddent yn hysbys cynt.

Cefnogi Gofalwyr Di-dâl wrth Ryddhau Cleifion o’r Ysbyty

Cafodd y meini prawf ar gyfer y swm o £1m a ddyrannwyd ymhlith y 7 bwrdd iechyd eu newid yn ystod 2022 er mwyn canolbwyntio'n bennaf ar gefnogi gofalwyr di-dâl pan fydd y person y maent yn gofalu amdano yn cael ei dderbyn i’r ysbyty neu ei ryddhau ohono. Roedd y cyllid hwn yn adeiladu ar gymorth y blynyddoedd blaenorol ar gyfer y blaenoriaethau cenedlaethol i ofalwyr. Yn ystod y pandemig, roedd y byrddau iechyd wedi manteisio ar hyblygrwydd yn y meini prawf cyllido i gefnogi amrywiaeth o brosiectau i ofalwyr di-dâl o bob oedran, gan gynnwys gofalwyr ifanc. Mae swyddogion wrthi’n adolygu'r adroddiadau canol blwyddyn ac mae rhai enghreifftiau eisoes yn codi o'r ffordd y mae gofalwyr di-dâl yn cael eu cefnogi yn ystod yr adegau pwysig hyn. Mae'r un swm yn cael ei ddarparu yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24.

Y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc

Lansiwyd y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc cenedlaethol ym mhob un o'r 22 o ardaloedd awdurdod lleol ym mis Ebrill 2022 yn sgil cyllid gwerth bron £600,000 dros dair blynedd gan Lywodraeth Cymru. Cafodd yr adnodd newydd ac arloesol hwn ei sefydlu'n llwyddiannus gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, er mwyn sicrhau y byddai gofalwyr ifanc yn cael cydnabyddiaeth a chymorth gan athrawon, gweithwyr gofal, meddygon teulu a fferyllwyr. Erbyn diwedd 2022, roedd ychydig mwy na 1780 o ofalwyr ifanc wedi cael cerdyn a fydd yn eu helpu i sicrhau eu hawliau, gan gynnwys yr hawl i gael asesiad o anghenion gofalwr.

Y Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl

Cafodd y Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2022, ei llunio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol. Mae'n nodi hawliau gofalwyr di-dâl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gan ddefnyddio arbenigedd gweithwyr proffesiynol a gofalwyr di-dâl, lluniwyd canllaw syml ac ymarferol i helpu gofalwyr i ddeall eu hawliau ac i fanteisio arnynt. Nod y siarter yw helpu gweithwyr proffesiynol i ddod i ddeall yn well yr hyn a ddisgwylir ganddynt o dan Ddeddf 2014. Yn ystod 2023, rydym yn bwriadu sefydlu'r ddogfen ymhellach mewn gwasanaethau gofalwyr di-dâl yng Nghymru.