Neidio i'r prif gynnwy

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater a'r camau gweithredu a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Sut rydych wedi cymhwyso / y byddwch yn cymhwyso'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i'r camau a gynigir, yn y polisi a'r cylch cyflenwi drwyddo draw?

1.1.         Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cyhoeddi Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru. Mae’r Strategaeth yn disgrifio’n gweledigaeth gyffredinol ar gyfer defnyddio’r digidol ym mhob sector a ledled Cymru er mwyn newid ein diwylliant a sicrhau bod pobl yn derbyn gwasanaethau cyhoeddus modern, effeithiol a di-lol.  Amcan y strategaeth yw ysgogi arloesedd a helpu busnesau i lwyddo mewn byd modern, gan sicrhau bod gan bobl yr hyder sydd ei angen arnynt i ymwneud â’u cymunedau, ac i grynhoi’r wybodaeth a meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar bobl o bob oed i ymuno â’r gweithlu a’r economi ddigidol.

1.2.      Mae'r strategaeth wedi'i threfnu o amgylch y chwe chenhadaeth ganlynol: Gwasanaethau Digidol, Cynhwysiant Digidol, Sgiliau Digidol, yr Economi Ddigidol, Cysylltedd Digidol, a Data a Chydweithredu. Gyda'i gilydd, nod y cenadaethau yw gwella gwasanaethau cyhoeddus a busnesau, ar draws pob sector. Y cenadaethau yw'r sylfaen ar gyfer datblygu gwasanaethau cyhoeddus sydd wir yn rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf ac sy’n manteisio ar dechnolegau, data ac arloesedd newydd i ddiwallu anghenion dinasyddion, busnesau a'r sector cyhoeddus.

1.3.         Bwriad y strategaeth yw darparu'r fframwaith ar gyfer gweithgarwch yn y dyfodol ar draws holl bortffolios Llywodraeth Cymru. Nid yw'n rhestr o weithredoedd, ac ni fydd yn sicrhau newid ar ei phen ei hun. Yn hytrach, mae'n nodi ein dyheadau ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â sut yr ydym yn bwriadu gweithio i gyflawni'r nodau hynny. Bydd pob newid neu wasanaeth newydd a ddygir ar-lein yn cael ei asesu'n llawn i sicrhau bod yr effeithiau unigryw yn cael eu nodi, eu hystyried yn briodol a'u lliniaru lle bo angen.

1.4.         Rydym wedi datblygu'r strategaeth a chynllun cyflawni cysylltiedig yn unol â'r Pum Ffordd o Weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac maent yn sylfaen i'r ffordd rydym yn bwriadu sicrhau’r canlyniadau rydym am eu gweld.

Y tymor hir

1.5.      Bydd mabwysiadu’r digidol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn helpu i ddiwallu anghenion tymor byr a thymor hwy ac yn cydbwyso'r ddwy flaenoriaeth. Mae'r strategaeth yn nodi sut mae dylunio gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd iterus (h.y. drwy fynd trwy sawl cylch o brofi a gallu) ac ystwyth sy'n rhoi’r defnyddiwr yn y canol, hynny i sicrhau bod gwasanaethau'n diwallu anghenion cyfredol a hefyd yn gallu addasu a datblygu i adlewyrchu newidiadau yn yr anghenion hynny yn y tymor hwy

1.6.      Mae'r strategaeth yn cydnabod hefyd ei bod yn bwysig meithrin cymhelliant, hyder a sgiliau digidol dinasyddion yn y tymor hir er mwyn iddynt allu cymryd rhan lawn mewn byd sy'n gynyddol ddigidol. Mae hefyd yn amlinellu pwysigrwydd seilwaith digidol sy’n addas ar gyfer y dyfodol, sy'n cysylltu dinasyddion, busnesau a'r sector cyhoeddus â'r cysylltedd a'r seilwaith digidol dibynadwy a chyflym sydd eu hangen i gynnal technolegau newydd a denu arloesedd.

1.7.         Drwy gefnogi gweithio o bell, cynllunio gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol, defnyddio data'n ddoeth ac yn foesegol yn ogystal â moderneiddio'r dechnoleg a ddefnyddiwn, gallwn gefnogi ein huchelgais i leihau'r defnydd o garbon yn y tymor hwy, er y bydd angen i ni ystyried effaith net defnyddio rhagor o ddata.

Atal

1.8.       Bydd cymhwyso egwyddorion dylunio sy'n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf ar gyfer datblygu gwasanaethau yn helpu i atal problemau rhag digwydd gan y bydd y gwasanaethau sydd newydd eu datblygu yn diwallu anghenion y defnyddiwr terfynol. Bydd hefyd yn atal aneffeithlonrwydd ac anghysondebau ym mhrofiadau defnyddwyr.

Integreiddio

1.9.             Rhaid wrth gydweithredu ac integreiddio i allu darparu gwasanaethau cyhoeddus cydgysylltiedig, di-fwlch. Mae'r strategaeth ddigidol wedi’i chreu ar gyfer Cymru gyfan a'i nod yw dwyn ynghyd yr ymdrechion cyfunol a’r gweithio integredig ar draws awdurdodau lleol, y byd academaidd, cynghorau cymuned, byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, darparwyr addysg, cyrff tân ac achub, cyrff hyd braich, partneriaethau trydydd sector a chymdeithasol.

1.10.       Mae'r strategaeth yn esbonio sut y byddwn, gyda'n gilydd, yn dylunio ac yn cynnal gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn datblygu'r economi ac yn lleihau anghydraddoldebau. Bydd y rhain yn ein helpu gyda'n gilydd i gyflawni ein hamcanion a'r Nodau Llesiant.

1.11. Wrth ddatblygu'r cynllun cyflawni, rydym wedi nodi nifer o elfennau cyd-ddibynnol rhwng cenadaethau a gweithredoedd mewn gwahanol sectorau. Byddwn yn sicrhau ein bod yn gweithredu ar y cyd lle bynnag y bo modd.

Cydweithredu

1.12.  Rydym wedi mynd ati mewn ffordd gydweithredol ac iterus (h.y.  drwy fynd trwy sawl cylch o brofi a gallu) i ddatblygu Strategaeth Ddigidol Cymru. Mae'r digidol a data yn gyfrifoldeb yr holl Weinidogion. Mae'r strategaeth a'r cynllun cyflawni wedi'u datblygu a'u mireinio mewn cydweithrediad â swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru.

1.13   Mae Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol, Prif Weithredwr y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, ynghyd â Bwrdd Digidol Gweinidogol Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'i Banel Digidol Arbenigol hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Strategaeth a'r Cynllun Cyflawni.

Cyfranogiad

1.14    Mae'r strategaeth wedi'i mireinio drwy ymwneud yn sylweddol â rhanddeiliaid ledled Cymru. Bydd parhau â hynny’n ein helpu i ddylunio gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr sy'n osgoi aneffeithlonrwydd a phrofiad anghyson i'r dinesydd. Mae datblygu gwasanaethau sy'n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn fwy hygyrch a chynhwysol, gan chwalu’r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael eu trin yn gyfartal. Gwyddom y bydd dylunio gwasanaethau cyhoeddus ar sail anghenion defnyddwyr yn sicrhau gwell canlyniadau i bawb.

1.15     Er mwyn cael adborth eang a syniadau gan amrywiaeth o bobl ar yr uchelgeisiau yn y strategaeth, gwnaethom gyhoeddi cyfres o flogiau, codi ymwybyddiaeth drwy rwydweithiau a chyfryngau cymdeithasol, a gwahoddwyd ymatebion. Mae swyddogion hefyd wedi mynychu nifer o fforymau mewnol ac allanol, gan gynnwys digwyddiadau gyda chyrff masnach a diwydiant cynrychioliadol, grwpiau cydraddoldeb ac amrywiaeth gan gynnwys Fforwm Hil Cymru, Fforwm Ieuenctid Plant yng Nghymru, a Chymuned Ymarfer Anabledd Dysgu.

1.16      Nododd rhanddeiliaid dri maes blaenoriaeth allweddol sy’n hanfodol i lwyddiant y strategaeth yn y dyfodol, oherwydd eu pwysigrwydd i bob un o'r chwe chenhadaeth: Cynhwysiant digidol, sgiliau digidol a chysylltedd digidol. Bydd y strategaeth yn mynd i'r afael â'r materion hyn drwy geisio magu sgiliau ac ennyn hyder pobl wrth ddefnyddio'r digidol, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl wrth i ni roi’r digidol yn gyntaf. Er bod cysylltedd digidol a thelathrebu yn faterion nad ydynt wedi’u datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod eu pwysigrwydd i bobl a busnesau ac mae'r strategaeth yn ein hymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU ac ymyrryd ag atebion wedi'u targedu lle bo angen.

Effaith

1.17     Mae newidiadau digidol yn parhau i brysuro, ac mae mabwysiadu’r digidol yn cynnig ystod eang o arfau i ni ar gyfer datrys problemau hen a newydd. Mae’r digidol yn cynnig y potensial i wella bywydau pobl, gwella'r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi gwaith y llywodraeth, a helpu busnesau i addasu i newidiadau yn yr economi a disgwyliadau defnyddwyr.

1.18   Mae pandemig COVID-19 wedi dangos pa mor bwysig yw’r digidol a data i gynnal gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r digidol a data wedi galluogi sefydliadau ar draws pob sector i addasu eu gwasanaethau er mwyn gallu parhau i’w darparu. Yn ogystal, mae'r pandemig wedi dangos bod pobl yn barod ac yn abl i gysylltu â gwasanaethau ar-lein.

1.19     Bu buddsoddi sylweddol yn ddiweddar mewn rhaglenni Digidol ar draws meysydd portffolio, gan gynnwys ym maes iechyd, addysg, seilwaith, cymorth i fusnesau, cynhwysiant digidol, a sefydlu'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Mae'r Strategaeth newydd yn sicrhau dull mwy cydlynol o weithredu a blaenoriaethu dros y blynyddoedd nesaf.

Costau ac Arbedion

1.20  Nid oes unrhyw gostau sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i gyhoeddi'r strategaeth. Ysgwyddir y costau sy'n gysylltiedig â datblygu, cyhoeddi a monitro'r strategaeth gan gyllidebau ac adnoddau sy'n bodoli eisoes.

1.21     Mae'r strategaeth yn nodi y gall mabwysiadu ffyrdd digidol ac ystwyth o weithio fod o fudd o ran arian ac adnoddau. Bydd pob cam a amlinellir yn y strategaeth a'r cynllun cyflawni yn dilyn y broses arferol o ddatblygu polisi, gan gynnwys nodi goblygiadau ariannol a chyllidebol fel rhan o brosesau cymeradwyo arferol.

Mecanwaith

Ni chynigir deddfwriaeth. Mae'r strategaeth yn weledigaeth lefel uchel ac yn set o uchelgeisiau i Gymru. Bydd Cynllun Cyflawni deinamig yn cyd-fynd â hi sy'n nodi’r gweithredoedd a fydd yn sicrhau’r canlyniadau a nodir yn y strategaeth. Bydd y cynllun cyflawni yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu blaenoriaethau ac anghenion newidiol drwy gydol oes y strategaeth.

2. Casgliadau

Sut y mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

2.1     Datblygwyd y Strategaeth ar ôl trafod helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector, busnesau a'r cyhoedd. Rydym wedi ceisio barn drwy gyfres o negeseuon blog, a thrwy drafodaethau manylach ar gyfer fforymau a grwpiau buddiant gan gynnwys y rheini sy'n cynrychioli plant, pobl anabl, a grwpiau o amrywiaeth o gefndiroedd amrywiol.  Rydym wedi ymwneud yn sylweddol â thimau Llywodraeth Cymru a fydd ar flaenllaw  o ran cyflawni'r newidiadau y mae'r strategaeth yn eu cynnig a datblygu'r Cynllun Cyflawni sy'n cyd-fynd â'r Strategaeth.

2.2     Bydd y nodau y bydd y Strategaeth yn eu gosod yn cael eu cyflawni drwy brosiectau a gweithgareddau. Yn unol â'r Strategaeth, cânt eu datblygu gan roi’r defnyddiwr yn gyntaf, gan gynnwys ymchwil i ddefnyddwyr, i sicrhau bod anghenion y rhai a fydd yn defnyddio'r gwasanaeth yn cael eu deall a'u diwallu. Asesir effeithiau pob gweithgaredd neu brosiect yn ôl yr angen.

Beth fydd yr effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

2.3     Er nad yw'r Strategaeth yn debygol o gael effaith uniongyrchol sylweddol ar ei phen ei hun, bydd y cydgysylltu a'r cyfeiriad strategol gwell ar gyfer datblygu gwasanaethau digidol, y defnydd cynyddol o ddylunio sy'n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf, a gwelliannau i hygyrchedd gwasanaethau digidol yn cael effaith sylweddol ar bobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus. Bydd yn sicrhau bod prosiectau neu gynigion newydd yn gydgysylltiedig a bod gweithgareddau'n cael eu cynllunio a bod eu rhyngddibyniaethau'n cael eu nodi a'u cyfrif. Ar hyn o bryd, mae’r digidol yn aml yn cael ei ystyried yn beth 'braf i'w gael' yn hytrach nag yn beth hanfodol, ac mae prosiectau'n aml yn cael eu datblygu ar wahân heb wir ystyried eu dibyniaeth ar brosiectau eraill. Nod y Strategaeth yw newid hynny. 

2.4       Bydd sicrhau bod gwasanaethau newydd yn seiliedig ar egwyddorion dylunio sy'n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf, a'u bod yn cael eu datblygu i fod yn ddwyieithog ac yn gwbl hygyrch yn helpu i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg, yn diwallu anghenion y rhai sy'n defnyddio offer neu feddalwedd addasol, ac yn darparu'r gwasanaethau sy’n seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar ddinasyddion. Bydd hyrwyddo a datblygu sgiliau digidol i bawb yn sicrhau bod plant ac oedolion yn gallu defnyddio gwasanaethau digidol a'r economi ddigidol yn ddiogel ac yn effeithiol

2.5       Mae'r Strategaeth yn golygu cyfrifoldebau ychwanegol i'r sector cyhoeddus er mwyn sicrhau ei fod yn mabwysiadu ei ffyrdd o weithio i gyflawni'r canlyniadau y mae am eu sicrhau.   

Yn dilyn yr effeithiau a nodwyd, sut fydd y cynnig yn:  

  • sicrhau’r cyfraniad mwyaf i’n hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu
  • yn osgoi, yn lleihau neu’n lleddfu unrhyw effeithiau negyddol?

2.6       Mae'r Strategaeth yn cyfrannu at gyflawni’r holl nodau llesiant cenedlaethol. Gall arloesi digidol arwain at fwy o gyfleoedd economaidd a chymdeithas fwy ffyniannus a chydnerth. Bydd rhoi'r sgiliau digidol sydd eu hangen ar bobl, a dylunio gwasanaethau o amgylch y defnyddiwr yn gwella cydlyniant cymdeithasol, yn creu cymdeithas fwy iach a chyfartal, yn cysylltu cymunedau ac yn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg.

2.7       Bydd cynyddu cyfleoedd i weithio o bell, cynnig gwasanaethau cyhoeddus effeithiol, gwneud y gorau o ddata a moderneiddio'r dechnoleg a ddefnyddiwn yn ein helpu i ddefnyddio llai o garbon, gan gyfrannu at yr ymdrechion i leihau'r newid yn yr hinsawdd.

2.8       Bydd sicrhau gweddnewidiadau digidol go iawn i wasanaethau cyhoeddus yn gyfle i gefnogi’r ffyrdd o weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Darperir gwasanaethau cyhoeddus digidol cydgysylltiedig trwy gydweithredu ac integreiddio. Bydd cyd-ymwneud llwyddiannus yn ein helpu i ddylunio gwasanaethau i bobl fydd yn atal aneffeithlonrwydd a phrofiad anghyson i'r dinesydd. Bydd dylunio gwasanaethau mewn ffordd iterus ac ystwyth sy’n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf yn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu dylunio ar gyfer y tymor hir.  

2.9       Ni wnaiff y Strategaeth ddarparu’r buddiannau hyn ar ei phen ei hun – daw’r buddiannau trwy’r prosiectau a’r rhaglenni a ddaw trwyddi.   Asesir effeithiau pob gweithgaredd neu brosiect yn ôl yr angen.

Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a’i werthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan gaiff ei gwblhau?

2.10    Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff y Strategaeth ei chyflawni. Bydd hyn yn cynnwys monitro cynnydd yn barhaus yn erbyn y Cynllun Cyflawni a'r diweddariadau iddo.

2.11    Bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol hefyd yn helpu i fonitro cynnydd yn erbyn y Strategaeth, yn enwedig ar gyfer camau gweithredu sy'n ymwneud â'r sector cyhoeddus.