Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Rhagair gan y gweinidog

Ar 11 Ionawr, gwnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Frechu ar gyfer Cymru. Er bod hynny lai na 2 fis yn ôl, mae llawer iawn wedi digwydd ers hynny. Rydym bellach dros hanner ffordd drwy’r gwaith o ddiogelu pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9, ac wedi brechu dros draean o bobl 16 mlwydd oed a hŷn yng Nghymru. Mae ein rhaglen frechu wedi mynd o nerth i nerth ac rwy’n cyhoeddi’r diweddariad hwn i adlewyrchu ar y cynnydd a rhoi manylion pellach am ein blaenoriaethau presennol a’n blaenoriaethau i ddod.

Mae mwy na 890,000 o bobl yng Nghymru yn awr wedi cael dos cyntaf y brechlyn – a’r rhan fwyaf o’r bobl hyn ymhlith y rhai mwyaf tebygol o ddioddef canlyniadau gwael pe byddent yn dal coronafeirws. Mae’r ail ddosau, sy’n bwysig i sicrhau diogelwch hirdymor yn erbyn y feirws, hefyd yn cael eu cyflwyno ac mae mwy na 70,000 o bobl eisoes wedi cael eu hail ddos. Drwy ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar ymestyn y bwlch rhwng y dosau, rydym wedi gallu diogelu mwy o bobl gyda dosau cyntaf a rhoi diogelwch byrdymor a hirdymor da i gymaint o bobl â phosibl, cyn gynted â phosibl. Mae hon yn ymdrech aruthrol er lles y genedl. Hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith hwn – o GIG Cymru, partneriaid sector cyhoeddus a sector preifat, a’r llu o wirfoddolwyr sydd wedi cymryd rhan.

Hoffwn ddiolch hefyd i’r cannoedd o filoedd ohonoch sydd wedi derbyn y cynnig o’r brechlyn. Rydych wedi chwarae rhan yn ein cenhadaeth genedlaethol i ddiogelu Cymru – diolch.

Mae’r sefyllfa yng Nghymru ar ddechrau’r gwanwyn 2021 yn ddifrifol iawn o hyd. Mae nifer yr achosion o’r feirws yn parhau i fod yn uchel iawn ac mae amrywiolyn newydd, mwy heintus o’r coronafeirws wedi ymddangos ledled y DU, ac mae bellach ar led ym mhob rhan o Gymru. Felly, mae’n rhaid inni i gyd aros gartref er mwyn diogelu Cymru. Ond mae’r dechrau addawol i’n rhaglen frechu wedi dod â gobaith i bob un ohonom, a’r brechlynnau’n parhau i fod yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn newydd.

Mae’r dystiolaeth yn dal i ddod i’r amlwg ond mae hyder cynyddol bod y rhaglen frechu yn ffactor hanfodol wrth inni lacio’r cyfyngiadau a edrych tuag at ddyfodol mwy disglair yn fuan. 

Yn y cyfamser, mae angen i bob un ohonom ddilyn y rheolau a'r canllawiau sydd ar waith er mwyn cadw ein hunain a'n teuluoedd yn ddiogel. Mae hyn yn golygu cyfarfod â chyn lleied o bobl â phosibl, golchi eich dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb a chadw pellter oddi wrth eraill.

Adran 2: Trosolwg a lle rydyn ni nawr

Cyhoeddwyd ein strategaeth genedlaethol ar 11 Ionawr.

Roedd yn adeiladu ar y cynlluniau a oedd eisoes ar waith o fewn ein Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ac yn darparu rhagor o fanylion am ein rhaglen. Nodwyd yn y strategaeth y byddai’n cael ei hadolygu’n rheolaidd – fel ei bod yn adlewyrchu’r dystiolaeth glinigol a gwyddonol ddiweddaraf, ac unrhyw dystiolaeth arall. Y diweddariad hwn yw’r cyntaf o’r adolygiadau hynny.

Ers cyhoeddi’r strategaeth, rydym wedi cyflawni’r garreg filltir gyntaf ac eisoes yn gwneud cynnydd da tuag at gyflawni’r ail. Mae rhywfaint mwy o sicrwydd hefyd yn dechrau dod i’r amlwg mewn perthynas â’r drydedd garreg filltir. Bydd y diweddariad hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am y blaenoriaethau presennol ac yn y dyfodol.   

Mae’n bwysig nodi’n glir beth yw’r heriau cyflenwi parhaus. Er y rhagwelir y bydd cyflenwadau i’r DU yn cynyddu ac yn sefydlogi o fis Mawrth; erys ansicrwydd ac ansefydlogrwydd ac mae hyn yn debygol o fod yn nodwedd drwy gydol y rhaglen. 

Mae ein seilwaith a’n gallu wedi parhau i dyfu ers cyhoeddi ein strategaeth fis diwethaf. Gwnaethom flaenoriaethu gosod sylfeini cadarn ar y dechrau ac mae hyn wedi talu ar ei ganfed wrth inni symud drwy’r rhaglen. Ar adegau, a phan fo cyflenwadau’n caniatáu, mae brechlynnau wedi’u rhoi o bron i 500 o leoliadau ar draws Cymru mewn cyfuniad o ganolfannau torfol, practisau meddygon teulu, ysbytai ac unedau symudol. Rydym wedi gweld rôl gofal sylfaenol yn ehangu’n sylweddol dros yr wythnosau diwethaf a disgwylir i hyn dyfu ac addasu yn y camau nesaf, gan gynnwys rhoi mwy o swyddogaeth i fferyllfeydd cymunedol.

Ers cyhoeddi ein strategaeth, mae’r swm a’r mathau o wybodaeth a gyhoeddir gennym yn rheolaidd wedi cynyddu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn nes ymlaen.

Lle rydyn ni nawr?

Ers dechrau’r rhaglen frechu ar ddechrau mis Rhagfyr:

  • Cyflawnwyd carreg filltir gyntaf ein strategaeth. Hynny yw, cynnig y brechlyn i bawb yn y 4 grŵp blaenoriaeth cyntaf:
    • Pawb dros 70
    • Pob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
    • Pawb sy’n byw neu’n gweithio mewn cartrefi gofal i bobl hŷn
    • Pawb sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.
  • O ganlyniad i gwblhau grwpiau blaenoriaeth 1–4 rydym wedi ceisio diogelu 88% o’r bobl sy’n wynebu’r risg fwyaf o farwolaeth yn sgil coronafeirws.
  • Gwelwyd niferoedd anhygoel o bobl o’r grwpiau hynny sydd wedi cael cynnig y brechlyn yn ei dderbyn. Mae mwy na 80% o’r grwpiau hyn wedi manteisio ar y brechlyn, a mwy na 90% o rai grwpiau.
  • Gwnaethpwyd cynnydd sylweddol o ran adeiladu ein seilwaith brechu ym mhob rhan o Gymru, gyda brechlynnau’n cael eu gweinyddu o bron i 500 o leoliadau yn ystod rhai wythnosau.
  • Cynyddwyd capasiti drwy ddenu gweithlu hyblyg ac amlbroffesiwn sydd wedi ein galluogi i weinyddu bron i 180,000 dos o’r brechlyn yn ystod rhai wythnosau.
  • Estynnwyd allan at ystod eang o gymunedau, partneriaid a rhanddeiliaid ac ymgysylltu â nhw i geisio sicrhau dull teg a chyfiawn, sy’n ennyn hyder a chyfrifoldeb cymunedol a phersonol, a hefyd yn sicrhau nad yw unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
  • Gweinyddwyd dos cyntaf y brechlyn i dros 850,000 o bobl yng Nghymru mewn llai na 3 mis.

Adran 3: Ein blaenoriaethau

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cefnogi’r rhestr.

Seiliwyd y 3 carreg filltir yn ein strategaeth ar y rhestr flaenoriaeth hon.

Carreg filltir 1

Cyflawnwyd carreg filltir 1 ar 12 Chwefror. Mae’r grwpiau cymwys wedi’u hadnabod a’u galw i gael y brechlyn. Mae’r nifer sydd wedi manteisio ar y brechlyn wedi bod yn eithriadol o uchel gyda bron i 9 o bob 10 yng ngrwpiau 1-4 yn ei dderbyn. Nid yw fyth yn rhy hwyr i gael y brechlyn. I gydnabod y ffaith y bydd rhesymau pam nad yw rhai pobl yn y 4 grŵp cyntaf wedi cael cynnig neu wedi derbyn eu brechlyn eto, rydym wedi gweithredu dull o adael neb ar ôl. 

Er enghraifft, os yw person wedi newid ei feddwl am y brechlyn, wedi methu ei apwyntiad oherwydd salwch, heb gael apwyntiad oherwydd nad oedd wedi’i restru fel gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol rheng flaen, neu’n byw neu’n gweithio mewn cartref gofal i bobl hŷn sydd wedi cael achosion o’r feirws yn ddiweddar, nid yw wedi colli ei gyfle. Mae pob bwrdd iechyd wrthi’n annog yr unigolion yng ngrwpiau 1-4 nad ydynt wedi cael y brechlyn eto i wneud apwyntiad yn awr, ac mae pob un ohonynt wedi cyhoeddi rhifau cyswllt a chyfeiriadau e-bost er mwyn i’r bobl yn y 4 grŵp blaenoriaeth cyntaf gysylltu â nhw. Gellir gweld y manylion cyswllt hynny yma.

Mae’r dull o adael neb ar ôl yn rhywbeth a fydd yn parhau drwy gydol y rhaglen frechu. Wrth inni symud drwy’r grwpiau blaenoriaeth, bydd GIG Cymru yn parhau i wirio bod pawb sy’n gymwys ac eisiau’r brechlyn yn ei gael, a bod y rheini sydd heb benderfynu yn parhau i gael cyfleoedd.

Carreg filltir 2

Ar ôl cyflawni carreg filltir 1 rydym yn awr yn mynd ar drywydd carreg filltir 2. Y garreg filltir hon yw cynnig y brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 5-9. Mae hynny’n cynnwys:

  • Pawb rhwng 50 a 69 oed
  • Pawb dros 16 oed sydd â chyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes, ac sy’n eu rhoi mewn perygl clinigol uwch o ddioddef salwch difrifol yn sgil COVID-19 – gan gynnwys rhai pobl ag anableddau dysgu a salwch meddwl difrifol
  • Llawer o ofalwyr di-dâl amhrisiadwy sy’n gofalu am rywun sy’n agored i niwed yn glinigol yn sgil COVID-19

Nododd y strategaeth mai ein nod oedd cynnig y brechlyn i’r grwpiau hyn erbyn y gwanwyn, ac fe wnaethom gadarnhau ein bwriad i wneud hyn erbyn diwedd mis Ebrill. Rydym yn awr yn ceisio dod â’r dyddiad hwn ymlaen i ganol mis Ebrill. Daw hyn yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i ddarparu peth o ddyraniad Cymru yn gynharach er mwyn cyflawni graddfeydd amser cynharach. Rydym wedi nodi’n glir bod gennym y gallu i weithio’n gyflymach pe byddai’r cyflenwadau ar gael. Fodd bynnag, mae sicrhau dyraniad cynharach o’r cyflenwad yn her oherwydd y math o gyflenwad ydyw, a’i amseru. Felly, er bod gennym y gallu i gyflawni yn unol â’r graddfeydd amser hyn, y cyflenwad yw’r ffactor cyfyngol.

Drwy dargedu’r grwpiau blaenoriaeth yng ngherrig milltir 1 a 2, amcangyfrifir y bydd tua 99% o’r marwolaethau o ganlyniad i COVID-19 yn cael eu hatal. Mae hynny’n arwyddocaol; ac yn rhoi hyder a chyfleoedd inni dros y misoedd nesaf.

Mae’r nifer sydd wedi manteisio ar y brechlyn wedi bod yn eithriadol o uchel yng ngrwpiau 1-4. Wrth i’r rhaglen frechu symud i’r grwpiau ieuengach ac iachach, byddwn yn dal i weithio i ddiogelu cymaint o bobl â phosibl, fodd bynnag mae’n bosibl y bydd y lefelau sy’n manteisio ar y brechlyn yn gostwng rhywfaint. Mae’r brechlynnau’n ddiogel iawn, gyda thystiolaeth o dros 17 miliwn o ddosau a roddwyd yn y DU ac adroddiadau wythnosol sy’n cael eu cyhoeddi gan y Rheoleiddiwr Meddyginiaethau yn dangos hynny. Byddwn yn dal i geisio sicrhau bod lefelau uchel iawn yn manteisio ar y brechlyn ac yn defnyddio pob dull sydd ar gael inni i wneud hynny – gan gynnwys ein ffynonellau cyfathrebu a chyfleoedd drwy ein trefniadau seilwaith. Ein nod ar gyfer grwpiau 5-9 yw sicrhau bod o leiaf 75% yn manteisio ar y brechlyn.

Gyda’r cynnydd cryf rydym wedi’i weld o ran seilwaith a chapasiti, os yw cyflenwadau’n caniatáu, rydym yn disgwyl cyflawni’r canlynol yn ystod carreg filltir 2:

  • gweinyddu 1 miliwn o ddosau o’r brechlyn erbyn 7 Mawrth
  • gweinyddu 1 miliwn o ddosau cyntaf erbyn 14 Mawrth
  • gweinyddu dros o 1.5 miliwn o ddosau yn ystod carreg filltir 2

Ers wythnos 15 Chwefror, mae GIG Cymru yn y bôn wedi dechrau gweithredu dwy set o drefniadau ochr yn ochr – system ddos gyntaf a system ail ddos.

Mae hyn yn cyflwyno heriau gweithredol, er enghraifft o ran trefnu amserlenni ac apwyntiadau. Mae hefyd yn cyflwyno heriau o ran rheoli stoc brechlynnau ac o ran capasiti. 

Fe hoffai pob un ohonom weld yr un cyflymder a welwyd dros yr wythnosau diwethaf gyda’r dosau cyntaf. Ond mae ail ddosau yn hanfodol i sicrhau diogelwch hirdymor ac, o ganlyniad, mae angen cydbwysedd rhwng cynnig y ddau ddos. Mae cwblhau’r 4 grŵp blaenoriaeth cyntaf yn golygu bod gan y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau lefel uchel o ddiogelwch yn erbyn y feirws. Mae hyn yn rhoi’r hyder a’r sicrwydd inni ddechrau cynnig ail ddosau. 

Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf byddwn yn parhau i weld GIG Cymru’n gweinyddu miloedd o frechlynnau bob wythnos, ond bydd y rhain yn gymysgedd o ddosau cyntaf ac ail ddosau, felly efallai na fydd nifer y bobl newydd sy’n cael eu galw i apwyntiadau mor uchel ag yn yr wythnosau diwethaf.

Wedi dweud hynny, nid ydym yn credu bod GIG Cymru wedi cyrraedd uchafbwynt eto o ran ei allu. Hyd yma, y nifer uchaf o frechlynnau a roddwyd yn wythnosol yw tua 180,000 o frechlynnau. Yn dibynnu ar y cyflenwad sydd ar gael, rydym yn hyderus bod gennym y gallu i ragori ar 200,000 dos mewn wythnos.

Bydd rhai wythnosau lle bydd llai o gyflenwadau ar gael yn y DU. Rydym wedi cynllunio ar gyfer y gostyngiadau hyn mewn cyflenwadau ac yn eu disgwyl ac o ganlyniad byddwn yn addasu ein seilwaith a’n gallu yn unol â hynny. Mae gennym yr hyblygrwydd yn ein model i agor a chau lleoliadau brechu yn ôl yr angen. Golyga hyn y bydd angen i GIG Cymru flaenoriaethu’r rhaglen frechu ochr yn ochr â’i waith hanfodol arall.

Mae grŵp blaenoriaeth 6 yn grŵp mawr a chymhleth sy’n haeddu esboniad.

Mae grŵp blaenoriaeth 6 y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn cynnwys ‘pob unigolyn 16 i 65 oed sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes sy’n golygu eu bod mewn mwy o berygl o ddioddef salwch difrifol a marwolaeth’. Mae hefyd yn cynnwys rhai gofalwyr di-dâl.

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar wahân ar flaenoriaethu brechlynnau ar gyfer gofalwyr di-dâl ac unigolion ag anableddau dysgu a salwch meddwl difrifol.

Mae grŵp blaenoriaeth 6 wedi’i ddiffinio ymhellach ym Mhennod 14a y Llyfr Gwyrdd fel ‘Oedolion 16 i 65 oed mewn grŵp risg’. Gellir rhannu’r rhestr o gyflyrau risg ymhellach i dri is-grŵp:

  • Oedolion 16 i 65 oed mewn grŵp risg sy’n cynnwys:
    • Clefyd anadlol cronig
    • Clefyd cronig y galon a chlefyd fasgwlaidd
    • Clefyd cronig yn yr arennau
    • Clefyd cronig yr afu
    • Clefyd niwrolegol cronig, gan gynnwys anabledd dysgu difrifol neu ddwys (bydd y canllawiau y byddwn yn eu cyhoeddi ar wahân yn esbonio)
    • Diabetes mellitus
    • Gwrthimiwnedd
    • Asplenia a chamweithrediad y ddueg
    • Gordewdra afiachus
    • Salwch meddwl difrifol (mae esboniad yn y canllawiau yr ydym wedi’u cyhoeddi)

Bydd unigolion mewn grŵp risg sy’n cael eu trin gan eu meddyg teulu yn hysbys i’r GIG a chysylltir â nhw yn awtomatig i roi apwyntiad iddynt gael y brechlyn.

  • Oedolion ifanc mewn gofal preswyl a gofal nyrsio arhosiad hir
  • Oedolion sy’n ofalwyr - mae esboniad yn y canllawiau yr ydym wedi’u cyhoeddi

Mae grŵp blaenoriaeth 6 yn debyg i’r grwpiau risg ar gyfer y ffliw, ond gyda rhai gwahaniaethau pwysig. Yn benodol, ar gyfer COVID-19 o’i gymharu â’r ffliw:

  • Mae’r ystod oedran yn gyfyngedig i oedolion ac eithrio rhai plant â niwroanableddau difrifol
  • Mae unigolion gydag asthma difrifol mewn mwy o berygl ac wedi’u cynnwys. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn diffinio asthma difrifol fel asthma lle bydd angen defnydd rheolaidd o corticosteroidau drwy’r geg neu lle bu angen derbyn yr unigolyn i’r ysbyty yn flaenorol. Nid yw unigolion ag asthma ysgafn neu gymedrol mewn mwy o berygl ac nid yw’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell bod angen eu brechu fel blaenoriaeth
  • Mae unigolion ag anableddau dysgu ‘difrifol a dwys’ wedi’u cynnwys ac mae esboniad pellach am hyn mewn canllawiau ar wahân, yn ogystal â chynnwys elfen o ddisgresiwn clinigol yn ein dull gweithredu er mwyn adlewyrchu’r ffaith na ddefnyddir y termau hyn yng Nghymru

Carreg filltir 3

Carreg filltir 3 yn y bôn yw ail gam ein rhaglen frechu. Yn ein strategaeth, rydym yn nodi mai ein nod yw cynnig y brechlyn i weddill y boblogaeth oedolion erbyn yr hydref. Mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu y gellid cyflwyno cyflenwad o’r brechlyn i alluogi cyflawni’r garreg filltir hon erbyn diwedd mis Gorffennaf. Fel gyda symud y dyddiad targed ar gyfer carreg filltir 2, mae gan GIG Cymru’r gallu i gyflawni’r gwaith brechu erbyn y dyddiad cynharach hwn, ond mae angen y cyflenwadau cywir o’r brechlyn ac mae angen eu danfon yn brydlon er mwyn gwneud cynlluniau effeithiol ar gyfer eu darparu. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni hyn.

Mae ein strategaeth hefyd yn nodi bod cyflawni carreg filltir 3 yn amodol ar gyngor pellach gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar flaenoriaethu.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu heddiw wedi cyhoeddi cyngor dros dro ar flaenoriaethu cam 2. Mae wedi argymell parhau â’r dull blaenoriaethu sy’n seiliedig ar oedran. Gwneir hyn gyda’r nod o barhau i ganolbwyntio ar gyfraddau marwolaeth, morbidrwydd a niferoedd sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn ogystal â pharhau i gyflwyno’r brechlynnau yn gyflym – trefnu’r rhaglen yn ôl oedran yw’r dull symlaf ac mae’n galluogi cyflwyno’r brechlyn i bawb cyn gynted â phosibl. Mewn system fwy cymhleth, byddai angen sefydlu systemau a threfniadau newydd a fyddai’n cymryd amser ac yn arafu’r broses. Mae ffactorau pwysig eraill – ethnigrwydd a statws economaidd-gymdeithasol yn benodol – hefyd yn nodwedd. Byddwn yn cynnwys yr ystyriaethau hyn, yn ogystal ag ystyriaethau ehangach yn ymwneud â chydraddoldeb, yn ein trefniadau cyfathrebu a dosbarthu ehangach, gan alluogi ar gyfer hyblygrwydd o ran gweithredu yn lleol os yw’n briodol.

Mae Prif Swyddogion Meddygol pedair gwlad y DU wedi cytuno â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ac mae pedair gwlad y DU wedi cytuno a gweithredu ar y cyngor. Dyna oedd ein dull clir ar gyfer ymdrin â cherrig milltir 1 a 2 a bydd hyn yn parhau yn y cam nesaf.

Yr hyn sy’n amlwg o ran cam 2 yw y bydd angen inni adolygu ein seilwaith a’n gallu yn ofalus. Bydd angen gweinyddu tua 2 filiwn o ddosau o’r brechlyn dros yr haf ac ar ddechrau’r hydref. Mae angen inni sicrhau bod gennym y seilwaith cywir ar gyfer hyn – gan gynnwys rhoi mwy o ran i fferyllfeydd cymunedol ac estyn allan i gymunedau – i sicrhau mynediad cyfartal ar draws pob rhan o Gymru a sicrhau bod y lefelau uchel presennol sy’n manteisio ar y brechlyn yn parhau. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn yn fuan.

Adran 4: Edrych i’r dyfodol

Wrth inni fwrw ymlaen â’r rhaglen frechu rydym yn dysgu mwy am ba mor effeithiol yw brechlynnau a chafwyd newyddion cadarnhaol am hyn yn ddiweddar:

  • Yr wythnos hon, mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus yr Alban yn awgrymu bod y rhaglen frechu yn cael effaith arwyddocaol ar atal salwch difrifol. Dangosodd ymchwil fod derbyniadau i’r ysbyty wedi lleihau 85% a 94% bedair wythnos ar ôl dos cyntaf y brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn y drefn honno. Hefyd, ymhlith unigolion dros 80 oed, gwelwyd lleihad cyffredinol o 81% yn y niferoedd a gafodd eu derbyn i’r ysbyty;
  • Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr hefyd wedi cyhoeddi ymchwil yr wythnos hon yn dangos bod y diogelwch yn erbyn haint ar ôl dos sengl o’r brechlyn Pfizer yn 72%, sy’n cyd-fynd â data tebyg o Israel a oedd yn awgrymu diogelwch o 75%;
  • Yn ddiweddar, rhyddhaodd yr Awdurdod Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd annibynnol ymchwil yn dangos bod y brechlynnau yn ddiogel iawn, bod y mwyafrif helaeth o sgil effeithiau yn ysgafn ac yn para am gyfnod byr sy’n dangos ymateb arferol a disgwyliedig, gan gynnwys symptomau tebyg i’r ffliw am ddiwrnod neu ddau mewn rhai unigolion, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt orffwys;
  • Mae astudiaeth ar y brechlyn Rhydychen Astra-Zeneca yn awgrymu y gallai arwain at ostyngiad sylweddol yn nhrosglwyddiad y feirws (hyd at 67%), a bod yr amddiffyniad hwnnw yn aros ar 76% yn ystod y tri mis cyntaf ar ôl y dos cyntaf, gan godi i 82% ar ôl yr ail ddos;
  • Mae adran imiwneiddio Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud, hyd yn oed pe bai effeithiolrwydd yn erbyn datblygu symptomau newydd gydag amrywiolion newydd y feirws yn gostwng i lefel isel, y bydd y brechlyn yn dal i atal salwch difrifol a marwolaeth.

Mae hyn yn gadarnhaol dros ben. Fodd bynnag mae gennym fwy i’w ddysgu am effaith y brechlynnau ac mae risg yn sgil amrywiolion a mwtaniadau – y rhai y gwyddom amdanynt a’r rhai a allai ddod i’r amlwg. Dyna pam y mae’n bwysig, hyd yn oed ar ôl cael y brechlyn, fod pobl yn dal ati i ddilyn y rheolau i’w diogelu eu hunain a’u hanwyliaid.

Er mwyn mynd i'r afael â'r risg bosibl hon, efallai y bydd angen inni adeiladu ar y cynllun brechu presennol gyda rhaglen atgyfnerthu yn yr hydref. Dylai’r angen am hyn ddod yn gliriach dros y misoedd nesaf a chaiff ei gynnwys mewn gwaith cynllunio i’r dyfodol os oes angen.

Mae llawer i fod yn obeithiol yn ei gylch oherwydd llwyddiant y rhaglen frechu. Ond mae pryderon a risgiau i’n systemau iechyd a gofal yn parhau. Archwilir rôl y rhaglen frechu ymhellach o ran llacio cyfyngiadau yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws: Diweddariad. Rydym ar y trywydd cywir ar gyfer adferiad, ond bydd yn cymryd amser.

Adran 5: Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu

Ers cyhoeddi ein strategaeth genedlaethol ar ddechrau mis Ionawr, rydym wedi ehangu’r ffyrdd yr ydym yn cyfathrebu gwybodaeth am y rhaglen frechu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cyhoeddi data gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol, sy’n rhoi gwybodaeth am faint o frechlynnau sydd wedi’u rhoi, gan gynnwys dadansoddiadau dyddiol yn ôl grŵp blaenoriaeth, a dadansoddiadau wythnosol yn ôl bwrdd iechyd.

O’r mis hwn ymlaen, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi adroddiadau gwyliadwriaeth misol ar gydraddoldeb cyfraddau brechu rhwng grwpiau ethnig a lefelau amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Dros amser, bydd hyn yn cael ei ymestyn i edrych ar gyfraddau ar lefel ddaearyddol hefyd.

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhai o’r ystadegau mwy gweithredol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen bob wythnos.

Rydym hefyd yn cyhoeddi diweddariad wythnosol i roi gwybod am gynnydd yn erbyn ein strategaeth.

Yn fwy cyffredinol, mae cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu cenedlaethol â rhanddeiliaid ar waith, sy’n cynnwys blaenoriaethu cyfathrebu â grwpiau ar y cyrion neu grwpiau anodd eu cyrraedd. Yn ystod mis Chwefror, er enghraifft, cynhaliodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddigwyddiad bord gron gydag arweinwyr cymunedol o gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig; a chynhaliwyd gweminar yn ymwneud â blaenoriaethu gofalwyr di-dâl. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyhoeddi adnoddau gwybodaeth hygyrch.