Strategaeth Fwyd Genedlaethol Cymru: cylch gorchwyl
Yn egluro pwrpas y Strategaeth Fwyd Genedlaethol Cymru a sut fydd hi'n gweithio.
Ar y dudalen hon
1. Y cefndir a’r rhesymeg
Mae bregusrwydd y gadwyn gyflenwi ac effaith ansefydlogrwydd byd-eang newydd, yr argyfyngau hinsawdd a natur, a'r pwysau economaidd sy'n deillio o hynny fel chwyddiant i gyd yn heriau difrifol a chynyddol sy’n wynebu system fwyd Cymru. Rydym yn cyrraedd pwynt tyngedfennol yn gyflymach na'r disgwyl.
Drwy Strategaeth Fwyd Genedlaethol Cymru rhaid cyflwyno ffyrdd gwell o weithio a fydd yn:
- sicrhau dull mwy tryloyw, cyfannol a chydlynol o ddatblygu polisi
- ymgorffori ffocws systemig a hirdymor ar ddatblygiad cynaliadwy system fwyd Cymru
- cyfeirio adnoddau cyhoeddus at fentrau sydd wedi'u ehangu a'u targedu'n well sy'n creu newid strwythurol gwirioneddol a pharhaol
- cydnabod y diet cenedlaethol yn llawn fel mater strwythurol y system fwyd, yn hytrach na mater o ddewis unigol
Cynigir y bydd y strategaeth yn mabwysiadu dull system gyfan, gan gydnabod bod system fwyd Cymru yn cael ei diffinio gan gydgysylltiadau dwfn rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.
Bydd yn ymestyn y cysyniad o'r fferm i'r fforc a thu hwnt: o amaethyddiaeth, cynhyrchu cynradd a physgodfeydd, hyd at ganlyniadau ar ôl defnyddio. Bydd yn gyfannol, gan gydnabod y cyfleoedd ar draws meysydd polisi gan gynnwys lleihau tlodi, iechyd, addysg, yr economi gylchol, masnach a buddsoddiad rhyngwladol, datblygu gwledig, diwylliant a'r iaith Gymraeg.
Bydd y strategaeth yn ymarferol ac yn un a fydd cael ei harwain gan dystiolaeth: bydd yn nodi'r ymyriadau hynny sy'n gweithio'n dda (a'r rhai sydd ddim yn gweithio cystal) a lle mae bylchau, cynnig awgrymiadau i'w llenwi, gyda'r nod o gysoni'r holl bolisïau sy'n gysylltiedig â bwyd ar draws sawl maes i gyflawni canlyniadau cydgysylltiedig drwy ddull cydlynol Systemau Bwyd.
Mae'r fenter hon yn broses ddeinamig, dreigl, sy'n blaenoriaethu nodi camau gweithredu trawsnewidiol ar unwaith. Drwy ddefnyddio pwerau datganoledig Cymru yn llawn a defnyddio arbenigedd, talent ac egni cymdeithas sifil, bydd y Strategaeth hon yn sefydlu ymdeimlad unedig o bwrpas cenedlaethol. Mae pob dinesydd yng Nghymru yn rhanddeiliad gweithredol yn y ffordd yr ydym yn bwydo ein hunain.
2. Pedwar piler
Prif bwrpas y strategaeth yw darparu'r fframwaith ar gyfer system fwyd wydn, integredig a chynaliadwy i Gymru.
Bydd yr holl waith a wneir i hyrwyddo'r nod hwn yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r pedwar piler canlynol sy’n gysylltiedig â’i gilydd:
- Iechyd a llesiant
- atal a gwrthdroi tueddiadau cynyddol mewn salwch sy'n gysylltiedig â diet, gan gynnwys gordewdra a diabetes math 2
- cynyddu mynediad ffisegol ac economaidd at fwyd maethlon, ffres a chynaliadwy ar draws holl gymunedau Cymru
- gwella llythrennedd bwyd ac addysg bwyd ar draws cymunedau yng Nghymru, gan gynnwys drwy ymagwedd ysgol gyfan at fwyd
- lleihau anghydraddoldebau iechyd sy'n cael eu gyrru gan dlodi bwyd ac opsiynau dietegol gwael
- Diogeledd bwyd
- cryfhau gwytnwch cenedlaethol yn erbyn cadwyni cyflenwi bwyd byd-eang cynyddol anrhagweladwy, bregus a thoredig
- gwella hunangynhaliaeth mewn grwpiau bwyd allweddol wrth ddiogelu galluoedd cynhyrchu domestig sefydlog
- sicrhau systemau dosbarthu bwyd teg sy'n parhau i fod yn weithredol yn ystod siociau economaidd neu amgylcheddol sydyn
- Yr economi a datblygu gwledig
- adfywio economïau gwledig a sylfaenol, drwy ysgogi arloesedd a datblygu busnes ym maes bwyd a ffermio, pysgodfeydd a dyframaethu, a sicrhau mwy o brosesu bwyd gwerth ychwanegol yng Nghymru
- cadw gwerth economaidd yng Nghymru, drwy wneud y mwyaf o werth brandio 'Gwnaed yng Nghymru', cryfhau seilwaith y gadwyn gyflenwi leol, a thrwy ddatblygu llwybrau i'r farchnad – gan gynnwys i gaffael cyhoeddus
- creu a chadw swyddi diogel o ansawdd uchel ar draws y sectorau amaethyddol, gweithgynhyrchu bwyd, a manwerthu annibynnol, lletygarwch a thwristiaeth
- Yr amgylchedd
- lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac addasu i'r hinsawdd ar draws cylch bywyd cyfan cynhyrchu a dosbarthu bwyd Cymru
- atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth drwy drosglwyddo tuag at ddulliau cynhyrchu bwyd arloesol a natur-bositif
- diogelu ac adfer asedau naturiol gan gynnwys iechyd pridd Cymru, defnydd dŵr ac ansawdd dŵr, ecosystemau lleol a gwastraff bwyd i hyrwyddo adferiad natur
3. Gweithgor arbenigol
Bydd y gwaith i ddatblygu'r strategaeth fwyd yn cael ei arwain gan Weithgor Arbenigol, a fydd yn llywio ei datblygiad cyffredinol, yn dwyn ynghyd ganfyddiadau annibynnol, ac yn gyrru momentwm.
Bydd y grŵp yn cynnwys uchafswm o 12 aelod, wedi'u dewis gyda'r bwriad o sicrhau amrywiaeth, ehangder, dyfnder, ac arbenigedd a phrofiad perthnasol.
Bydd aelodau'r grŵp yn cael eu dewis a'u cytuno ar y cyd gan y Cadeirydd a'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig. Bydd y Cadeirydd yn adrodd i'r Gweinidog.
O dan arweinyddiaeth y Cadeirydd, bydd y grŵp yn gyfrifol am gyflawni allbynnau allweddol yn erbyn amserlen y cytunwyd arni. Bydd yn:
- gweithio i nodi tueddiadau cyffredinol, gwendidau a rennir, a chyfleoedd systemig sy'n rhychwantu gwahanol sectorau ar draws system fwyd Cymru
- cydnabod a chynyddu arferion da presennol
- nodi lle mae gwahanol flaenoriaethau polisi yn gorgyffwrdd neu'n gwrthdaro ac argymell ffyrdd o ddatrys neu gyflafareddu'r gwrthdaro hyn
- cyflymu ceisiadau ar ymyriadau gweithredol trawsnewidiol uniongyrchol, i Lywodraeth Cymru cyn cyhoeddi'r strategaeth derfynol
- dylunio, mireinio a goruchwylio mecanweithiau sy'n cynnwys, ysgogi a chyd-greu atebion gyda dinasyddion Cymru, gan sicrhau perchnogaeth gyhoeddus o'r strategaeth
- nodi ffyrdd arloesol o wneud y defnydd mwyaf o'r pwerau a'r cymwyseddau presennol yng Nghymru
Bydd cyngor y grŵp yn cael ei ddarparu i'r Gweinidog. Bydd penderfyniadau terfynol ar bolisi'r Llywodraeth, buddsoddi, deddfwriaeth a gweithredu yn parhau i fod yn gyfrifoldeb Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Bydd yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer y gweithgor arbenigol yn cael ei darparu gan swyddogion Llywodraeth Cymru.
4. ‘Archwiliadau dwfn’ i bolisïau
Gall y gweithgor arbenigol o bryd i'w gilydd, a lle bo hynny'n briodol, gynnull is-grŵp a/neu alw ar arbenigedd allanol i gefnogi 'archwiliadau dwfn' a ffocws ar gwestiynau neu heriau polisi penodol.
Bydd yr archwiliadau dwfn hyn yn cyfrannu'n sylweddol at gyflawni allbynnau a chanlyniadau y cytunwyd arnynt, gan gynnwys drwy:
- ddadansoddi ble a sut mae cwestiwn neu her bolisi penodol yn rhyngweithio, yn effeithio ar y pedwar piler iechyd a lles, diogelwch bwyd, yr economi a datblygu gwledig a'r amgylchedd a/neu sut y mae'r pileri yn effeithio arno
- gwerthuso cyfaddawdau a nodi gwrthdaro systemig yn benodol, yn ogystal â ffyrdd o lywio neu oresgyn tensiynau rhwng gwahanol nodau polisi
- nodi newidiadau polisi neu weithredol cynnar neu rai y gellir eu gweithredu ar unwaith a rhai cost isel. Rhaid i'r rhain sicrhau buddugoliaethau cyflym i Gymru wrth osod y sylfaen ar gyfer y strategaeth hirdymor
Mae'r meysydd arfaethedig ar gyfer archwiliadau dwfn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i fwyd ysgolion cynradd, diogeledd cadwyn gyflenwi cig Cymru, ac ehangu garddwriaeth fwytadwy yng Nghymru. Mae'r rhain yn flaenoriaethau dangosol yn hytrach na blaenoriaethau a bennwyd ymlaen llaw.
Bydd y Cadeirydd a'r Gweinidog yn cytuno ar y rhaglen derfynol o archwiliadau dwfn, gan ystyried asesiad y grŵp o flaenoriaethau, y tystiolaeth sydd ar gael a'r cyfraniad arfaethedig at amcanion cyffredinol y strategaeth.
5. Allbynnau
The key proposed deliverables from the work to develop the NFSfW are:
Y prif bethau y bwriedir eu cyflawni o’r gwaith i ddatblygu'r strategaeth yw:
- adroddiad interim, sy'n amlinellu'n benodol cwmpas llawn yr heriau polisi sydd i'w hystyried gan y gweithgor arbenigol, y rhesymeg ac unrhyw flaenoriaethau neu gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gweithredu cynnar
- argymhellion ar gyfer Strategaeth Fwyd Genedlaethol gynhwysfawr, sy'n darparu fframwaith polisi integredig ar gyfer ymyrraeth a gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar draws y pedwar piler
- adroddiad terfynol i ategu a chefnogi'r strategaeth gynhwysfawr a darparu crynodeb llawn o waith y gweithgor arbenigol
- pan fydd y gweithgor arbenigol yn nodi newidiadau polisi neu weithredol cynnar neu rai y gellir eu gweithredu ar unwaith, dylid eu hargymell i'r Gweinidog, gydag esboniad llawn o sut maent yn adlewyrchu'r nod cyffredinol o greu system fwyd wydn, integredig a chynaliadwy i Gymru
6. Aelodaeth
Bydd cyfansoddiad y grŵp yn sicrhau ystod amrywiol o brofiadau bywyd a phroffesiynol perthnasol.
Drwy'r broses benodi, bydd gofyn i ymgeiswyr ddatgan unrhyw fuddiannau preifat y gellid dehongli eu bod yn gwrthdaro â rôl a chyfrifoldebau'r grŵp, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes neu swyddi o awdurdod y tu allan i’r rôl hon. Ni waherddir unrhyw aelodau sy'n eistedd ar grwpiau cynghori eraill ar yr un pryd.
Ni ddisgwylir i'r aelodaeth gyffredinol fod yn fwy na 12 aelod, gan gynnwys y Cadeirydd. Bydd cyfansoddiad terfynol y grŵp yn cael ei gytuno gan y Gweinidog.
Nid yw penodi i'r grŵp yn dod o fewn cylch gorchwyl y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Gall penodiadau i'r grŵp gael eu terfynu gan y naill barti neu'r llall ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig heb rybudd. Caiff Llywodraeth Cymru roi mis o rybudd o ddiddymu’r grŵp ar unrhyw adeg. Bydd y grŵp yn cael ei ddiddymu'n awtomatig ar ôl 31 Rhagfyr 2027 oni nodir fel arall gan y Gweinidog.
Bydd aelodau'r grŵp yn dangos safonau uchel o ymddygiad corfforaethol a phersonol, a byddant yn cadw at y cyfrifoldebau canlynol:
- cymryd rhan weithredol yng nghyfarfodydd y grŵp, gan ddod â phrofiad a gwybodaeth i faterion o fewn pwrpas y grŵp
- bod yn agored i syniadau a gwneud pob ymdrech i ddod i gonsensws ar benderfyniadau
- darparu tystiolaeth addas a gwybodaeth gymharol, lle bynnag y bo'n bosibl, i gefnogi cyngor ac argymhellion
- cynnal presenoldeb rheolaidd mewn cyfarfodydd a chefnogaeth gyson drwy gydol oes y grŵp
- sicrhau cyfrinachedd trafodaethau a deunyddiau
- sicrhau bod gwrthdaro buddiannau ac anghydfodau yn cael eu cofnodi a'u rhannu â Llywodraeth Cymru cyn gynted ag y byddant yn codi
Bydd y grŵp yn cael ei gadeirio gan randdeiliad allanol y bydd ei benodiad yn cael ei wneud yn uniongyrchol gan y Gweinidog. Bydd y Cadeirydd yn gyfrifol am y canlynol:
- trefn effeithiol busnes y grŵp drwy'r gyfres o gyfarfodydd wedi'u trefnu tuag at gyflawni pwrpas y grŵp
- hwyluso dadleuon adeiladol sy'n cynnig cyfle teg a rhesymol i gyfrannu i holl aelodau'r grŵp
- setlo penderfyniadau terfynol lle nad yw'r grŵp wedi gallu dod i gonsensws
- dwyn sylw'r ysgrifenyddiaeth i unrhyw faterion brys neu ddadleuol y mae'r grŵp yn ymwybodol ohonynt neu y mae disgwyl iddo eu trafod
- briffiau rheolaidd i'r Gweinidog ar waith y grŵp
7. Ysgrifenyddiaeth
Llywodraeth Cymru fydd yn darparu cymorth ysgrifenyddol i'r grŵp, fel a ganlyn:
- rheoli'r holl drefniadau ar gyfer cyfarfodydd y grŵp, gan gynnwys paratoi a dosbarthu agendâu a deunyddiau cyfarfodydd, cofnodi a dosbarthu cofnodion a chamau gweithredu, logisteg a lleoliadau, teithio a chynhaliaeth
- rheoli'r holl ryngweithiadau rhwng y grŵp a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys drafftio ac unrhyw sesiynau briffio interim a chytuno arnynt
- drafftio adroddiad terfynol y grŵp a chytuno arno
8. Cyfarfodydd
Bydd gwaith y grŵp yn cael ei gynnal drwy gyfres o gyfarfodydd, yn ôl cynllun gwaith y grŵp, gyda'r opsiwn i drefnu cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen.
Fel arfer, bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu am 90 munud.
Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal naill ai'n rhithwir neu wyneb yn wyneb. Lle bo'n bosibl, darperir dolen i fynychu'n rhithwir.
Ni chaiff unrhyw ddirprwyon eu derbyn yn lle aelodau.
Yn ogystal ag aelodau'r grŵp, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd.
Bydd y cyfarfodydd fel arfer ar gau i'r cyhoedd.
9. Cworwm
Rhaid cyrraedd cworwm i fwrw ymlaen â’r cyfarfod. Cyrhaeddir cworwm pan fydd o leiaf 50% o'r aelodau, gan gynnwys y Cadeirydd, yn bresennol.
