Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am glywed sylwadau, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan bobl a sefydliadau yng Nghymru, am ddyfodol gofal canser.

Sut i ymateb

Galwad am dystiolaeth yn cau:
31 Hydref 2026
Lansiwyd yr alwad am dystiolaeth ar:

Disgrifiad o'r alwad am dystiolaeth

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu Strategaeth Ganser Genedlaethol newydd ar gyfer Cymru. Nod y strategaeth yw gwella'r canlyniadau i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yng Nghymru, a'u profiadau.

Wrth sôn am ganlyniadau o ran canser, yr hyn a olygir yw am ba mor hir y bydd pobl yn goroesi ar ôl diagnosis o ganser, a nifer y bobl sy'n marw o ganser bob blwyddyn.

Rydym am glywed sylwadau, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan bobl a sefydliadau yng Nghymru, am ddyfodol gofal canser. 

Byddwn yn defnyddio'r ymatebion i'r alwad am dystiolaeth fel sail i'r strategaeth. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion ochr yn ochr â'r strategaeth derfynol.

Gall ymatebion dynnu ar brofiad personol, arbenigedd proffesiynol, tystiolaeth ymchwil, neu safbwyntiau sefydliadau. 

Rhowch dystiolaeth, enghreifftiau ac argymhellion lle bo'n bosibl. Os gallwch, cyfeiriwch at dystiolaeth sy'n cefnogi eich barn, neu darparwch hyperddolen. Ymhlith yr enghreifftiau o dystiolaeth a fyddai'n ddefnyddiol mae ymchwil a gyhoeddwyd, data cymharol rhyngwladol, gwerthusiadau o wasanaethau, archwiliadau clinigol, tystiolaeth o gynllunio'r gweithlu, a mesurau profiad a adroddwyd gan gleifion. Fodd bynnag, nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr.

Os nad oes gennych dystiolaeth, bydd eich barn yn dal i gael ei hystyried.

Dogfennau'r alwad am dystiolaeth

Ffurflen ymateb , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 168 KB

DOCX
168 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Help a chymorth

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 31 Hydref 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Ffurflen ar-lein

Post

Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.

Cwblhewch a dychwelyd i:

Cyflyrau Iechyd Difrifol
Yr Is-adran Ansawdd Gofal Iechyd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ