Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Yr Academi Brydeinig a'r Gymdeithas Frenhinol

Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol i Gymru yn adeiladu'n gryf ar waith yr Academi Brydeinig a'r Gymdeithas Frenhinol ar sut i harneisio ymchwil i wella polisi ac arfer mewn addysg. Mae'n awgrymu camau pendant y gellir eu cymryd i wella cydgysylltu, meithrin gallu, ac ennyn diddordeb y proffesiwn addysgu.  Gellir disgwyl i'r camau hyn arwain at ddefnyddio ymchwil addysgol yn effeithiol i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Rwy'n falch o gefnogi'r Strategaeth ac yn annog Llywodraeth Cymru i'w mabwysiadu a'i gweithredu.

Yr Athro Charles Hulme, Athro Seicoleg ac Addysg, Prifysgol Rhydychen, Cymrawd yr Academi Brydeinig a Chadeirydd Cyd-Fwrdd Rhaglen Ymchwil Addysg yr Academi Brydeinig a Chymdeithas Frenhinol.

The Atlantic Rim Collaboratory (rhwydwaith rhyngwladol o lunwyr polisi, ysgolheigion ac addysgwyr sy'n canolbwyntio ar ddiwygio addysg y mae Llywodraeth Cymru yn perthyn iddi)

Mae'r ddogfen ragorol hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil addysgol fel rhan o'r system bolisi. Mae'n hyrwyddo deialog rhwng ymchwilwyr academaidd a systemau addysgol ac yn pwysleisio'r hyn sydd angen ei wneud i ddatblygu diwylliant cyfoethog a chadarn o arfer ymchwil ac o ddefnydd ymchwil mewn ysgolion. Mae'r adroddiad yn hyrwyddo ffordd gadarnhaol ac ymarferol ymlaen tuag at farn broffesiynol mewn addysg ar sail tystiolaeth.  Mae Ysgrifenyddiaeth a Bwrdd Cynghori Prosiect Addysg ARC yn cymeradwyo'r Strategaeth Genedlaethol yn llawn. Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei hymdrechion parhaus i drosi'r Strategaeth Genedlaethol yn strwythurau, prosesau a chyllid ac edrychwn ymlaen at ddarllen dogfennau'r dyfodol wrth iddynt nodi'r buddion i fyfyrwyr a dysgu.

Yr OECD (Dr Beatriz Pont, Uwch Ddadansoddwr Polisi, Cyfarwyddiaeth Addysg a Sgiliau OECD)

Mae OECD wedi bod yn gweithio gyda Chymru trwy ei hymdrechion diwygio ers 2014 ac wedi tynnu sylw at yr angen am agenda ymchwil gryfach. Awgrymodd ei adroddiad yn 2020, 'Achieving the New Curriculum for Wales', yr angen am agenda ymchwil strategol i gryfhau ansawdd dyluniad, addysgu a dysgu'r cwricwlwm ar draws ysgolion yng Nghymru, a allai hefyd gyfrannu at fonitro cynnydd wrth wireddu'r cwricwlwm. Dywedodd y dylai'r agenda ymchwil fod yn rhan integredig o'r fframwaith asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cyffredinol. Mae gan yr NSERE botensial i gyfrannu at gynyddu argaeledd ac ansawdd ymchwil i lywio polisi ac arfer trwy ddod â dull gweithredu cenedlaethol ynghyd, gyda sefydliadau addysg uwch a'r proffesiwn addysg.

Ann Keane (cyn Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi, Estyn)

Mae'r NSERE i'w groesawu fel gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer ymchwil ac ymholiad addysgol yng Nghymru sy'n nodi'n glir ddwy ochr gyd-ddibynnol y geiniog – defnydd a chynhyrchu. Mae'n rymus ac yn berswadiol ynglŷn â rôl ymarferwyr sy'n gallu cymryd rhan mewn ymholi ac ymchwilio.

Yr Athro John Furlong (Athro Addysg Emeritws, Prifysgol Rhydychen; cyn-lywydd Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain ac awdur Addysgu Athrawon Yfory: Opsiynau ynglŷn â dyfodol addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru)

Mae'r Strategaeth Genedlaethol hon yn cyflwyno gweledigaeth bwerus ac arloesol ar gyfer dyfodol ymchwil ac ymholiad addysgol yng Nghymru. Mae ei gydnabyddiaeth o'r gwahaniaeth rhwng ymholiad ymarferwyr ac ymchwil academaidd ffurfiol, er pa mor gyfatebol ydyw, yn arbennig o bwysig.  Unwaith y bydd wedi'i gweithredu'n llawn, bydd y Strategaeth Genedlaethol yn rhoi Cymru ar y blaen yn rhyngwladol ym maes polisi ac arfer a arweinir gan ymchwil/tystiolaeth mewn addysg.

Yr Athro Graham Donaldson (Athro Addysg, Prifysgol Glasgow; gynt yn Brif Arolygydd Ysgolion, Yr Alban ac awdur Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru)

Mae hwn yn adroddiad pwysig y byddai ei argymhellion yn gwella polisi diwygio Llywodraeth Cymru ymhellach. Mae'n rhoi darlun cydlynol o sut y gall ymchwil gyfrannu at y system addysg ddysgu y mae Cymru eisiau ei chyflawni, a sut y mae’n rhaid iddo wneud hynny.

Yr Athro John Gardner (Athro Addysg a chyn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Stirling; cyn-lywydd Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain a Chadeirydd Bwrdd Recriwtio a Chadw Athrawon Llywodraeth Cymru)

Yn fy marn i, mae gan yr NSERE y nodau priodol a'r camau gweithredu sydd wedi'u cynllunio i sicrhau twf system addysg hunan-wella, ar sail ymchwil yng Nghymru. Nod y strategaeth yn gredadwy yw plethu adnoddau addysgol aml-lefel presennol Cymru yn gydweithrediad cydlynol rhwng yr holl sectorau  a chyfnodau addysg, gydag ysgogiad priodol gan Lywodraeth Cymru trwy fentrau cyllido â ffocws. O ystyried y nifer fawr o ddatblygiadau hynod bwysig yn addysg Cymru, gan gynnwys y cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru, aeddfedu partneriaethau addysg gychwynnol i athrawon a sefydlu polisi a strwythurau dysgu proffesiynol gyrfa lawn, gellir disgwyl yn hyderus i'r strategaeth hon ddechrau cynhyrchu'r gallu mewn ysgolion a phrifysgolion i greu gwybodaeth a datrys problemau newydd a fydd yn cynnal system addysg lwyddiannus ledled Cymru ymhell i'r dyfodol.

Syr Alasdair Macdonald (cyn bennaeth Ysgol Morpeth, Tower Hamlets ac Eiriolwr Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru

Hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth i'r NSERE. Mae cryfder enfawr ynghlwm â chydnabod a gweld pwysigrwydd y 3 pharth. Ni fu ymdrechion blaenorol i ddatblygu ymchwil addysgol mor llwyddiannus ag y gallent fod trwy beidio â nodi cyd-ddibyniaeth pob rhan o'r 'ecosystem'.

Fel Eiriolwr Llywodraeth Cymru dros y Grant Datblygu Disgyblion, rwyf wedi gweld dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf bwysigrwydd ymchwil a thystiolaeth wrth drawsnewid llawer o addysgeg ein hysgolion. Yn nyddiau cynnar y Grant Datblygu Disgyblion roedd y pwyslais i raddau helaeth ar ymyriadau wedi'u hanelu'n benodol at ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig. Fodd bynnag, er bod hyn yn ddi-os yn bwysig wrth godi cyrhaeddiad, bu symudiad sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf i sylweddoli bod dysgu ac addysgu o ansawdd uchel yn cael effaith wahaniaethol, gyda'n disgyblion agored i niwed yn cael y budd mwyaf.

Mae'r Gronfa Waddol Addysg wedi arwain y datblygiad hwn ac mae ein hysgolion wedi defnyddio eu Pecyn Cymorth ac adnoddau eraill ond, os ydym am wneud cynnydd o bwys i godi cyrhaeddiad ein holl ddisgyblion, mae angen i ni nawr sefydlu'r gallu i ddatblygu ein hymchwil ein hunain a chreu ein hathrawon a'n hysgolion ein hunain ar sail tystiolaeth. Mae hyn yn teimlo'n arbennig o bwysig ar hyn o bryd, ac er bod llawer yn dal i'w ennill o'r hyn sy'n digwydd mewn awdurdodaethau eraill, rydym yn cychwyn ar newidiadau mawr yn ein system addysg.

Yr Athro Mark Priestley (Athro Addysg, Prifysgol Stirling; Golygydd Arweiniol Adolygiad o’r Cwricwlwm ac Aelod o Grŵp Cwricwlwm ac Asesu Llywodraeth Cymru

Ar ôl bod yn sylwedydd craff ar ddatblygiad y cwricwlwm newydd yng Nghymru, yn ogystal â chyfranogwr trwy fy ymwneud â dysgu proffesiynol gydag EAS ac athrawon arloesi, a fy aelodaeth o’r Grŵp Cwricwlwm ac Asesu (CAG), rwy'n falch iawn o weld cynhyrchu set mor rymus a defnyddiol o gynigion yn yr NSERE. Rwy'n arbennig o falch o weld y gwahaniaeth cysyniadol rhwng ymchwil ac ymholiad, sy'n crynhoi'r gwahaniaeth rhwng ymchwilwyr proffesiynol, a'u prif rôl yw lledaenu gwybodaeth newydd, ac ymarferwyr, y mae eu cenhadaeth graidd yn ymwneud â gwella eu harfer, ac arfer eu cydweithwyr. Mae'r gwahaniaeth hwn yn helpu i sicrhau eglurder ynghylch sut rydym yn datblygu gallu ymchwil, yn cynhyrchu ymchwil newydd at wahanol ddibenion, ac yn ei ddefnyddio'n effeithiol ar draws y system.

Rwyf hefyd yn falch o weld y ddarpariaeth ar gyfer datblygu gallu ar gyfer ymchwil annibynnol, trwy gefnogaeth i ymchwilwyr doethuriaeth ac ôl-ddoethuriaeth, a thrwy greu seilwaith ymchwil, er enghraifft rhwydweithiau i hwyluso gweithio traws-sefydliadol.

Carol Campbell (Athro Cysylltiol mewn Arweinyddiaeth a Newid Addysgol, Sefydliad Astudiaethau Addysg Ontario, Prifysgol Toronto; Aelod o Gyngor Rhyngwladol Cynghorwyr Addysg, Llywodraeth yr Alban a chyn Brif Swyddog Ymchwil, Gweinyddiaeth Addysg Ontario)

Wrth symud trwy bandemig byd-eang a thu hwnt, mae systemau addysg ledled y byd yn ceisio'r dystiolaeth orau i ddatblygu arfer proffesiynol ac i hyrwyddo dysgu, tegwch a lles myfyrwyr. Mae'r NSERE yn amserol ac yn angenrheidiol i gynhyrchu, deall a defnyddio ymchwil yn well, yn ogystal a’i wneud yn fwy hygyrch, er budd pobl Cymru. Gyda'r Strategaeth hon, mae gan Gymru gyfle i fod yn arweinydd byd-eang wrth greu system addysg gryfach ar gyfer y dyfodol i gynorthwyo myfyrwyr i fod yn llwyddiannus.

Yr Athro Ruth Lupton (Athro Addysg, Prifysgol Manceinion ac Athro Gwadd, Ysgol Gwyddorau Economaidd a Gwleidyddol Llundain, Prifysgol Llundain

Mae'r NSERE drafft yn mynd i'r afael â llawer o'r problemau cysylltiad rhwng llunio polisïau addysgol ac ymchwil ac arfer addysgol a nododd Debra Hayes a minnau yn ein llyfr diweddar 'Great Mistakes in Education Policy: and how to avoid them in the future’. Canolbwyntiodd ein dadansoddiad a'n hargymhellion ar Loegr ac Awstralia, ond mae'n amlwg bod rhywfaint o debygrwydd â sefyllfa Cymru. Mae'n ymddangos i mi fod y dull  3 elfen a gynigiwyd yn y strategaeth (seilwaith cenedlaethol, capasiti a chyfanswm ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch, a phroffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth) yn hollbwysig. Mae angen pob un o'r rhain ar y system, ac mae angen hefyd iddynt gael eu hintegreiddio, fel yr awgrymir. Rwyf hefyd yn croesawu’r pwyslais ar ymarferwyr nid yn unig yn ddefnyddwyr ymchwil ond yn gynhyrchwyr ymholiadau proffesiynol: mae hyn yn rhywbeth na chafodd ei gydnabod yn ddigonol mewn datblygiadau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cynigion sy'n gysylltiedig ag sefydliadau addysg uwch, ar gyfer y ganolfan/canolfannau ymchwil cenedlaethol (gyda'u ffocws amlddisgyblaethol) a chryfhau rhwydweithiau cydweithredol, yn cyd-fynd yn fawr â'r hyn a argymhellwyd gennym ar gyfer Lloegr ac Awstralia. Yn fy marn i gallai'r cynigion hyn wneud cyfraniad sylweddol iawn o ran adeiladu a chynnal y sylfaen wybodaeth sydd ei hangen i lywio polisi ac arfer addysgol yn y dyfodol, gan osgoi rhai o'r hepgoriadau polisi, camgymeriadau ac anwadalrwydd a all godi pan na chynhelir ymchwil o ansawdd uchel neu os na chaiff ei drefnu mewn ffyrdd sy'n ddefnyddiol i lywodraethau. Yn gyffredinol, mae'r strategaeth hon yn enghraifft wych i wledydd eraill!

Yr Athro Cyswllt Claire Sinemma, Prifysgol Auckland ac aelod o Grŵp Cwricwlwm ac Asesu Llywodraeth Cymru.

Mae mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r system addysg yng Nghymru, gan gynnwys y rhai a waethygir gan effaith addysgol y pandemig byd-eang, ac i wireddu dyheadau cwricwlwm o’r radd flaenaf, yn gofyn am strategaeth gadarn ar gyfer ymchwil ac ymholiad addysgol. Mae'r NSERE arfaethedig yn gadarn mewn amryw ffyrdd; mae'n cydnabod potensial y cyfuniad o ymchwil academaidd ac ymholi proffesiynol. Mae'n defnyddio persbectif system at nod proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n cydnabod nad gwaith athrawon ac ysgolion yn unig mo hyn, ond yn hytrach system gymhleth sy'n gweithio gyda'i gilydd tuag at y nod hwnnw. Mae'r strategaeth yn cymryd o ddifrif yr angen i lunwyr polisi, ymchwilwyr, arweinwyr addysgol, athrawon, addysgwyr athrawon, darparwyr dysgu proffesiynol, a'r rheini mewn ystod o asiantaethau sy'n gysylltiedig ag addysg gael mynediad at dystiolaeth addas at y diben o ansawdd uchel, cyfleoedd i gynhyrchu a meithrin gallu i'w ddefnyddio mewn ffyrdd sy'n cefnogi dysgwyr mewn ysgolion a nodau system, ac amodau sy'n ffafriol i'r ymdrechion hynny. Mae'r strategaeth a gynigir yma yn glodwiw am gymryd persbectif system sy'n cydnabod rôl tystiolaeth mewn system sy'n dysgu, a chyfraniadau unigryw'r rheini mewn gwahanol rolau y gellir eu defnyddio i gefnogi a chryfhau polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth, capasiti ymchwil o ansawdd uchel a phroffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r strategaeth yn amserol. Mae hefyd yn eang ac yn gwmpasol, yn gydlynol ac yn uchelgeisiol, ac yn fy marn i, yn hanfodol i wella'r system addysg yng Nghymru yn barhaus.