Neidio i'r prif gynnwy

Hoffem gael eich barn ynglŷn â sut dylai Strategaeth Iechyd Meddwl newydd Cymru edrych.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Strategaeth Iechyd Meddwl genedlaethol newydd a hoffem gael eich barn ynglŷn â sut y dylai’r strategaeth hon edrych. Rydym wedi datblygu holiadur sy’n gofyn cwestiynau penodol a bydd eich atebion i’r cwestiynau hyn yn ein helpu ni i ddatblygu’r strategaeth.

Bydd y strategaeth yn llywio’r gwaith y bydd y Llywodraeth, a’n partneriaid, yn ei wneud i wella iechyd meddwl a lles yng Nghymru.

Bydd y strategaeth yn adeiladu ar waith y strategaethau blaenorol, ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ a ‘Siarad â Fi 2’. 

Mae gwerthusiad annibynnol o’r Strategaethau hyn nawr wedi’i gwblhau. Yn dilyn ymarfer ymgysylltu allanol helaeth, mae gennym nawr adroddiad cynhwysfawr o’r canfyddiadau.

Rydym yn defnyddio’r canfyddiadau hyn i helpu i lywio a hysbysu ein blaenoriaethau ar gyfer y Strategaeth newydd, a beth y byddwn yn canolbwyntio arno. Rydym wedi creu pum datganiad gweledigaeth ac egwyddorion. Mae’r rhain wedi’u datblygu yn seiliedig ar adborth a gawsom gennych chi, am yr hyn sy’n bwysig i chi.

Rydym eisiau gwneud yn siŵr y bydd y Strategaeth yn gwneud y pethau cywir i wella iechyd meddwl a lles pobl Cymru. Hoffem gael eich barn ar y datganiadau gweledigaeth ac egwyddorion hyn, a’r hyn y maent yn ei olygu i chi.

Mae’r arolwg ar agor rhwng 16 Mehefin 2023 a 14 Gorffennaf 2023. 

Sut gallwch chi ein helpu ni

Rydym wedi amlinellu pum datganiad gweledigaeth arfaethedig yr hoffem gael eich barn arnynt.

Bydd rhai o’r datganiadau gweledigaeth hyn o ddiddordeb i rai pobl yn fwy nag i eraill. Er enghraifft, gall rhai datganiadau deimlo’n fwy perthnasol i bobl sydd wedi cael profiadau blaenorol o faterion iechyd meddwl. Gall datganiadau eraill fod o fwy o ddiddordeb i bobl sy’n rhoi gofal a chymorth i’r rheini sydd â chyflyrau iechyd meddwl.

Edrychwch ar ein fideo am fwy o wybodaeth

Rydym wedi cynhyrchu cyflwyniad fideo i esbonio ein gweledigaeth ichi a sut y byddwn yn defnyddio eich safbwyntiau i helpu i lywio’r strategaeth newydd.  

Mae e'n rhoi gwybodaeth gefndir am waith sydd eisoes wedi’i gwblhau, ac mae e'n amlinellu ein datganiadau gweledigaeth sy’n ymdrin â’r Strategaeth Iechyd Meddwl gyfan. Mae'r fideo yn rhoi gwybodaeth am yr egwyddorion trawsbynciol sy’n sail i’r datganiadau gweledigaeth, ac mae e'n rhoi manylion ynglŷn â sut y gallwch ein helpu ni drwy gwblhau’r holiadur a ddarperir.

Arolwg

Hoffem gael eich atebion i rai cwestiynau. Bydd eich atebion yn ein helpu ni i ddatblygu’r Strategaeth.

Treuliwch amser yn edrych ar y fideo cyn cwblhau’r arolwg. Llwytho'r fersiwn dogfen yr arolwg i lawr yma.

P’un a ydych yn ateb pob un o’r cwestiynau hyn, neu rai ohonynt yn unig, byddwn yn ystyried eich barn pan fyddwn yn datblygu’r strategaeth lawn.

Byddwn yn cyhoeddi’r strategaeth derfynol yn nes ymlaen eleni yn dilyn yr ymgynghoriad ffurfiol.