Rydym am gael eich barn ar y fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol i Gymru 2024 i 2034.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 765 KB
Dogfen ymgynghori: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ffurflen ymateb: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Dogfen ymgynghori: fersiwn i blant a phobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Asesiad effaith hawliau plant , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 379 KB
Asesiad effaith ar gydraddoldeb , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 371 KB
Asesiad effaith integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 223 KB
Asesiad o’r effaith ar y Gymraeg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 301 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar fersiwn newydd o'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol i Gymru. Bydd y strategaeth yn cymryd lle'r strategaeth ddeng mlynedd flaenorol law yn llaw at iechyd meddwl.
Rydym hefyd yn gofyn am farn ar fersiwn ddrafft newydd o'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio.
Mae adnoddau ar gael i'ch helpu i gynnal trafodaethau mewn grwpiau am y strategaethau. Bydd y pecynnau ymgysylltu hyn yn darparu gwybodaeth ichi i siarad ag eraill i'w helpu i ddatblygu eu hymatebion eu hunain i'r ymgyngoriadau. Mae adnoddau ar gael ar gyfer oedolion a phobl ifanc:
- i ofyn am becyn ymgysylltu i oedolion, cysylltwch â mentalhealthandvulnerablegroups@llyw.cymru
- i ofyn am becyn ymgysylltu ar gyfer plant a phobl ifanc, cysylltwch â mhstrategy@copronet.wales
Help a chymorth
Os oes angen cymorth arnoch ar gyfer eich iechyd meddwl, gallwch ffonio Llinell Gymorth CALL ar 0800 132 737.
Neu i gael cymorth brys, ffoniwch y GIG drwy 111 a phwyso 2.
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11 Mehefin 2024, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Mae fersiwn i blant a phobl ifanc o'r ffurflen ar-lein hefyd wedi'i chynhyrchu.
Ymateb ar-lein (fersiwn i blant a phobl ifanc)
Mae ffurflen ymateb hawdd ei ddeall hefyd ar gael.
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb ar gyfer y fersiwn i blant a phobl ifanc.
Cwblhewch a dychwelyd i: mentalhealthandvulnerablegroups@llyw.cymru
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb ar gyfer y fersiwn i blant a phobl ifanc.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Y Tîm Polisi Iechyd Meddwl
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ