Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, yn lansio ‘Coetiroedd i Gymru’, y strategaeth ddiwygiedig ar gyfer coetiroedd a choed i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ‘Coetiroedd i Gymru’ yn cynnwys cynlluniau ar gyfer coetiroedd bach a mawr ag iddynt goed conwydd a choed llydanddail.  Mae’n cydnabod pwysigrwydd cynyddu nifer y coed yng nghefn gwlad yn gyffredinol ac mewn amgylcheddau trefol.
Mae’r strategaeth wedi’i diwygio i adlewyrchu deddfwriaeth a pholisïau newydd ers cyhoeddi’r strategaeth flaenorol yn 2009. 
Ar yr amod y cânt eu rheoli’n ofalus ac mewn ffordd gynaliadwy, mae coetiroedd yn rhoi cysgod i dda byw, yn lleihau llygredd sŵn, yn arafu llifddyfroedd ac yn gwella ansawdd aer, pridd a dŵr. Maent yn hafanau i fioamrywiaeth ac yn cynnig cyfleoedd hamdden a ffordd o wella’n hiechyd a’n lles yn gyffredinol. Mae’r cynhyrchion pren a’r cynhyrchion nad ydynt wedi’u gwneud o bren o’n coetiroedd hefyd yn adnoddau adnewyddadwy hanfodol sy’n helpu’n diwydiannau allweddol i fod yn gynaliadwy.
Bydd y Strategaeth yn ddogfen sy’n rhoi canllawiau ymarferol ar y mathau o goed a choetiroedd sydd eu hangen yng Nghymru. Bydd yn helpu i sicrhau y gall rheolwyr coetiroedd reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Ymhlith y gwaith parhaus sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru mae adolygiad o’r Map Cyfleoedd Coetiroedd, sy’n nodi ardaloedd posibl ar gyfer plannu coed.
Mae hefyd gynlluniau ar gyfer rhagor o gyfleoedd hyfforddi ym maes coedwigaeth, gan gynnwys prosiect newydd i greu hyd at 30 o brentisiaethau newydd yn Nhasglu’r Cymoedd yn ystod 2019.  
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd: 
“Mae hyn yn strategaeth fentrus sy’n adlewyrchu’r cyfleoedd amryfal y mae ein coetiroedd a choed yn eu cynnig a’r rhan hanfodol y maent yn ei chwarae yn ein bywydau. Rwy’n benderfynol y bydd gan bobl sydd am blannu coed wybodaeth gywir am y math o goetiroedd sydd eu hangen arnom a lle y gallant blannu coed. Yn y lle iawn, dylai fod yn hawdd plannu’r goeden iawn.Mae arnom angen mwy o goetiroedd a choed i’n helpu i reoli’n holl adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a fydd yn cyfrannu at ein nod hirdymor i ddod yn economi fwy cylchol.”  
Dywedodd Roger Cooper, Cadeirydd y Panel Cynghori ar y Strategaeth Goetiroedd:
"Mae coetiroedd a choed yn chwarae rhan hanfodol yng Nghymru ac yn dod ag amrywiaeth eang o fanteision i’n hamgylchedd, ein heconomi a’n hiechyd a llesiant ein hunain. Rwy’n croesawu y ‘Coetiroedd i Gymru’ diwygiedig, sy’n hyrwyddo ehangu coetiroedd, rheoli coetiroedd yn gyfrifol ac sy’n strategaeth y gellir ei rhoi ar waith yn hyderus."