Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad ar brofiadau astudiaethau achos wrth geisio gwella lefelau llythrennedd yn holl ysgolion Caerdydd.

Mae Awdurdod Lleol Caerdydd wedi adnabod yr angen critigol i wellhau lefelau llythrennedd eu poblogaeth myfyrwyr, yn enwedig yn rhai o’u hysgolion sydd o dan yr anfantais economaidd-gymdeithasol fwyaf. Wrth greu strategaeth hirdymor wedi’i chynllunio i ymateb i’r sialens yma maent wedi ymchwilio i arferion llwyddiannus oddi fewn i’w hysgolion eu hunain, mewn nifer o ardaloedd eraill o fewn Cymru, ac ar draws y DU.

Amcanion y gwerthusiad yma oedd adrodd ar y broses datblygu polisi a phrofiad cynnar yr ysgolion o dan astudiaeth a’r ymarferwyr oedd yn rhan o’r broses o weithredu’r strategaeth, gan gynnwys arwyddion o effaith gynnar a’i haddasrwydd fel dull o wella lefelau llythrennedd ar draws holl ysgolion Caerdydd.

Adroddiadau

Gwerthusiad Cynnar o Strategaeth Lythrennedd Awdurdod Lleol Caerdydd , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 252 KB

PDF
Saesneg yn unig
252 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.