Neidio i'r prif gynnwy

Ein cynllun ar gyfer lleihau effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Strategaeth rhywogaethau estron goresgynnol Prydain Fawr 2023 i 2030 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn byw yn rhannau o’r byd nad ydynt y frodorol iddynt. Maent yn cynnwys:

  • planhigion
  • anifeiliaid
  • ffwng
  • micro-organebau

Maent yn gallu lledaenu ac achosi niwed i’r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’n ffordd o fyw. Amcangyfrifwyd eu bod yn costio o leiaf £1.9 biliwn y flwyddyn i economi’r DU.

Prif amcan y Strategaeth yw lleihau’r risg o gyflwyno a sefydlu rhywogaethau estron goresgynnol ym Mhrydain Fawr, a lleihau eu heffeithiau negyddol, hynny trwy bartneriaethau cryf. Mae’r Strategaeth hon yn dilyn hierarchaeth y CBD (Y Confensiwn ar Fioamrywiaeth).

Mae hwnnw’n rhoi’r pwyslais ar:

  • atal
  • yna ar ddarganfod ac ymateb yn gyflym
  • ac yn olaf ar reolaeth tymor hir.

Prif ganlyniadau’r strategaeth erbyn 2030 fydd:

Atal

Sicrhau gostyngiad fan leiaf o 50% yn nifer y rhywogaethau estron goresgynnol sy’n sefydlu o’u cymharu â lefelau 2000;

Cadw golwg, darganfod yn gyflym a monitro

Gwella’n sylweddol ein gallu i ddarganfod a monitro, gan gynnwys mwy o archwiliadau ac ymchwiliadau.

Rheoli

Dileu, rheoli neu ffrwyno rhywogaethau estron goresgynnol – gan flaenoriaethu yn ôl yr effaith fwyaf a’r tebygolrwydd o lwyddo

Blaenoriaethu a dadansoddi’r risgiau

Cytuno ar ddull o flaenoriaethu sy’n seiliedig ar lefel y risg a’r tebygolrwydd o lwyddo. Hynny i dargedu’n hymdrechion ar yr hyn a ddaw â’r manteision mwyaf.

Tystiolaeth

Comisiynu’r ymchwil sy’n cael blaenoriaeth yn y Cynllun Strategol Tystiolaeth. Drwy hynny, sicrheir bod y strategaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau.  Bydd yn fodd hefyd i nodi bylchau a blaenoriaethu’r meysydd sydd angen eu datblygu.

Codi ymwybyddiaeth

Codi ymwybyddiaeth am rywogaethau estron goresgynnol ac annog yr holl sectorau perthnasol a’r cyhoedd i newid ymddygiad neu agweddau yn ôl y gofyn.

Cydgysylltu

Cydgysylltu gwaith llywodraethau, cyrff cysylltiedig a phrif gyfranwyr anllywodraethol yn well.

Mae'n gorchuddio 2023 i 2030.