Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Mae mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yn rhan hanfodol o ddiben Llywodraeth Cymru. Fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n ymrwymedig i annog newid yn y maes hwn a sicrhau newid cadarnhaol i fywydau plant a'u teuluoedd yng Nghymru.

Mae'r adroddiad hwn a gaiff ei lunio bob tair blynedd ar ein cynnydd wrth gyflawni ein hamcanion o ran tlodi plant yn cwmpasu'r tair blynedd o fis Rhagfyr 2019, rhai o'r blynyddoedd mwyaf heriol yn hanes y wlad.

Mae'r adroddiad yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â thlodi plant. Rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn amrywiaeth o bolisïau a rhaglenni i hyrwyddo ffyniant, i atal a lliniaru tlodi ac i leihau nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Er gwaethaf y buddsoddiad hwn, mae tlodi'n parhau i fod yn fater treiddiol.

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y prif ysgogiadau o fynd i'r afael â thlodi - pwerau dros y systemau treth a lles. Mae ein cynnydd o ran mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru yn parhau i gael ei rwystro gan benderfyniad a wneir yn San Steffan. Mae rhaglen barhaus Llywodraeth y DU o ddiwygio lles yn parhau i ddylanwadu ar y lefelau tlodi yng Nghymru a'r rheini sydd eisoes dan anfantais sy'n teimlo'r effaith fwyaf difrifol. Rydym yn parhau i roi pwysau arni i newid, er mwyn sicrhau y caiff pobl sy'n agored i niwed eu cefnogi.

Rydym yn disgwyl y bydd lefelau tlodi'n codi'n sylweddol o ganlyniad i'n hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd, yr ergydion economaidd sy'n deillio o'r pandemig a'r argyfwng costau byw presennol sydd wedi cael effaith mor andwyol ar lesiant economaidd aelwydydd sy'n agored i niwed yng Nghymru.

Rwyf wedi ymrwymo i ddiwygio ein Strategaeth Tlodi Plant er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu ein hamgylchiadau presennol yn well. Bydd yn tynnu sylw at ymrwymiad o'r newydd i gefnogi'r rheini sydd ei angen fwyaf gan ddefnyddio pob dull sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

Cafodd y pandemig ganlyniadau trychinebus ar ein heconomi, ein cymdeithas a'n cymunedau. Gwaethygodd anghydraddoldebau presennol a chafodd effaith anghymesur ar rai cymunedau wrth i'r rheini a oedd fwyaf agored i niwed gael eu taro waethaf.  Ar bobl ifanc y gwelwyd yr effaith fwyaf pan gaeodd ysgolion, pan wnaed newidiadau i gyfleoedd hyfforddiant a phan gafodd swyddi eu colli.

Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar gyllid aelwydydd ledled Cymru, gan daro teuluoedd ac unigolion ar incwm is yn galetach. Rydym yn wynebu'r gyfradd chwyddiant uchaf ers 40 o flynyddoedd a chynnydd digynsail mewn prisiau tanwydd. Mae'r amcangyfrifon tlodi tanwydd diweddaraf ar gyfer Cymru yn rhagweld, o ganlyniad i'r cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill 2022, y gallai hyd at 45% (614,000) o'r holl aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd.Ers iddo gael ei gyhoeddi, mae'r cap ar brisiau wedi codi i £2500.

Mae'r niwed i'n heconomi, o ganlyniad i'r pandemig, yr argyfwng costau byw a'n hymadawiad o'r UE, yn golygu bod y DU mewn dirwasgiad bellach. O ganlyniad, rhagwelir y bydd Cynnyrch Domestig Gros yn gostwng 2% ac mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd diweithdra yn codi 1.5 pwynt canran, sy'n cyfateb i 20,000 i 25,000 o bobl. Rhagwelir y bydd incwm gwario gwirioneddol aelwydydd fesul person yn gostwng mwy na 7% dros y ddwy flynedd nesaf. Dyma fyddai'r gostyngiad mwyaf erioed. Mae economi'r DU yn mynd i ddirwasgiad mewn sefyllfa wannach nag unrhyw economi G7 arall – mae pob economi G7 arall wedi adfer eu lefelau o incwm cenedlaethol ers cyn y pandemig (mae incwm cenedlaethol y DU neu Gynnyrch Domestig Gros 0.4% islaw'r lefel cyn y pandemig).

Mae maint y dasg o atal a chodi pobl allan o dlodi yng Nghymru yn enfawr. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl a chreu dyfodol cadarnhaol i bawb, ond mae angen i ni weld camau gweithredu gwirionedd gan Lywodraeth y DU i wneud yr un peth.

Byddwn yn parhau i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu gan ymrwymo i drechu tlodi ac anghydraddoldeb fel ffactor ysgogi canolog. Er mwyn llywio ein hymateb i'r argyfwng economaidd, byddwn yn parhau i wella ein dealltwriaeth o brofiadau pobl o dlodi ac i gasglu tystiolaeth am beth arall sydd angen ei wneud.

Eleni, cynhaliais dair Uwchgynhadledd Costau Byw a lwyddodd i ddwyn ynghyd bartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid allweddol i drafod y materion. Un o'r negeseuon allweddol a gododd yn sgil y digwyddiadau oedd na all Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru ar ei phen ei hun – er mwyn cael effaith barhaus ar fywydau pobl mewn tlodi, mae angen inni gydweithio â phartneriaid er mwyn gwneud sicrhau bod ein hymdrechion ar y cyd yn cael yr effaith fwyaf.

Gwnaethom hefyd gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad o'r hyn sy'n gweithio o ran mynd i'r afael â thlodi. Roedd yn nodi pedwar maes ffocws allweddol lle gellid cydlynu ymdrechion i leddfu tlodi gan gynnwys (i) Lleihau costau a gwneud y gorau o incwm, (ii) Llwybrau allan o dlodi drwy alluogi cyfranogiad economaidd-gymdeithasol ehangach, (ii) Amgylchedd sy'n galluogi a (iv) Baich meddyliol ac iechyd meddwl sy'n effeithio ar bobl sy'n byw mewn tlodi ac sydd wedi'u hallgáu yn gymdeithasol.

Mae'r ymchwil yn cadarnhau na all Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb ar ei phen ei hun. Bydd ein dulliau gweithredu yn y dyfodol yn defnyddio lefelau uwch o ymgysylltu â'n partneriaid allweddol ledled Cymru er mwyn annog gweithgarwch ac atgyfnerthu effaith ein hymdrechion ar y cyd drwy gydweithio tuag at nod cyffredin.

Gan weithio ochr yn ochr â'n partneriaid, rydym yn addo defnyddio pob dull sydd ar gael i ni er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant mewn tlodi i sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn gallu cyflawni eu potensial.

Jane Hutt AS.

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Cyflwyniad

Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, rhoddodd ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion hynny. Mae amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi plant yn seiliedig ar yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym ynghylch ble y gallwn gael yr effaith fwyaf o ran gwella canlyniadau i deuluoedd ar incwm isel. Maent hefyd yn adlewyrchu'r ysgogiadau polisi sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae'r amcanion yn canolbwyntio ar leihau nifer y plant sy'n byw mewn cartrefi heb waith, cynyddu sgiliau rhieni a phobl ifanc, lleihau anghydraddoldebau o ran addysg, iechyd a chanlyniadau economaidd, creu economi a marchnad lafur gref a chamau gweithredu i gynyddu incwm aelwydydd.

Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi adrodd ar gyflawniadau ein rhaglenni i fynd i'r afael â thlodi plant, y niferoedd sy'n cymryd rhan a'n cynnydd gyda chynlluniau ar gyfer gweddill tymor y Senedd. Fodd bynnag, mae'r tair blynedd diwethaf wedi bod yn rhai nas gwelwyd eu tebyg ers datganoli. Effeithiodd cyfyngiadau symud COVID-19 ar nifer o'n rhaglenni a chafodd rhai eraill eu tynhau i fynd i'r afael ag argyfwng y pandemig ac anghenion pobl ledled Cymru.

Felly, yn yr adroddiad hwn, rydym wedi ceisio nodi'r modd yr aeth Llywodraeth Cymru ati i ailbennu ffocws ei chyllid ac i addasu ei gweithgarwch er mwyn diwallu'r anghenion uniongyrchol a gododd o'r pandemig. Rydym wedi parhau i addasu ein rhaglenni er mwyn ymateb i'r argyfwng costau byw sy'n cael effaith anghymesur ar deuluoedd sydd eisoes mewn sefyllfa fregus yn ariannol o ganlyniad i'r pandemig a llawer o ddinasyddion sydd â nodweddion gwarchodedig.

Gan edrych i'r dyfodol, rydym hefyd wedi ceisio nodi gwaith arall sy'n mynd rhagddo a fydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi plant a lleihau ei effeithiau yn yr hirdymor.

Effeithiodd y pandemig yn arbennig ar blant a phobl ifanc. Arweiniodd y mesurau iechyd y cyhoedd at gau ysgolion a gohirio llawer o gyfleoedd hyfforddiant a gwaith a oedd yn golygu eu bod yn fwy agored i ganlyniadau gwaeth.

Rydym yn cydnabod bod angen i ni weithredu i sicrhau nad yw pobl ifanc yn benodol yn ysgwyddo'r baich o fynd i'r afael ag effaith y coronafeirws drwy gydol eu bywydau gwaith.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw ein pobl ifanc yn colli allan yn addysgol nac yn economaidd oherwydd effeithiau'r coronafeirws. Byddwn yn cefnogi ein holl blant a phobl ifanc i barhau ym myd addysg ac i ddal i fyny yn yr ysgol a'r coleg; rydym wedi addo cefnogi pobl ifanc drwy adeiladu ar ein rhaglenni sgiliau presennol er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion unigol; rydym yn creu amgylchedd dysgu gydol oes a fydd yn cefnogi pobl ifanc i dyfu a ffynnu.

Mesur tlodi plant

Prif ddangosydd tlodi plant yw canran y plant sy'n byw mewn aelwydydd islaw 60% o incwm aelwydydd canolrifol y DU (Ar ôl Costau Tai).

Yn ogystal â mesur perthynol tlodi plant, rydym yn defnyddio set ehangach o ddangosyddion allweddol i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r newidiadau rydym am i'r Strategaeth Tlodi Plant eu cyflawni.

Mae'r dangosyddion hyn yn adlewyrchu'r ysgogiadau polisi sydd ar gael i Lywodraeth Cymru:

  • Canran y plant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol lle mae o leiaf un oedolyn yn gweithio (ar ôl costau tai).
  • Canran y plant sy'n byw mewn aelwydydd heb waith.
  • Canran yr oedolion o oedran gweithio nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau.
  • Canran yr oedolion o oedran gweithio sy'n meddu ar gymwysterau ar lefel 2, 3 neu 4 ac uwch.
  • Canran y plant sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel sy'n cyrraedd cerrig milltir iechyd, cymdeithasol a datblygiad gwybyddol wrth ddechrau addysg ffurfiol.
  • Canran y disgyblion 7 oed sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim sy’n cyflawni'r lefel ddisgwyliedig ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen.
  • Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim sy’n cyflawni trothwy Lefel 2 gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 4.
  • Canran y bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET).
  • Canran y bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET).
  • Canran y babanod (genedigaethau byw) a anwyd â phwysau geni isel (llai na 2,500 gram).

Effaith y pandemig ar brosesau casglu data

Roedd y data ar Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ym mis Mawrth eleni yn cwmpasu'r Flwyddyn Ariannol a Ddaeth i Ben y 2021 ac roeddent yn cynnwys yr ystadegau swyddogol cyntaf ar dlodi sy'n ymwneud â'r cyfnod ar ôl dechrau pandemig COVID-19.

Effeithiodd pandemig COVID-19 ar broses casglu'r data ar Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog rhwng 2020 a 2021 gan fod gweithrediadau maes wedi cael eu newid yn gyflym o ganlyniad i gyflwyno mesurau iechyd y cyhoedd. O ganlyniad, cafwyd sampl llai o faint ac roedd nodweddion yr ymatebwyr yn wahanol i flynyddoedd blaenorol a effeithiodd ar ansawdd y data a'r modd y cawsant eu cyflwyno. Er enghraifft, ni chyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau unrhyw ystadegau swyddogol ar dlodi ar lefel ranbarthol na gwlad eleni.

Ar gyfer Cymru, roedd y sampl llai o faint yn golygu na allem ddweud yn hyderus bod unrhyw newidiadau i'r ffigurau ar y lefel tlodi yng Nghymru yn ystyrlon yn y tymor byr. Roedd hyn yn golygu nad oedd yn bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â'r lefel cyn y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y materion sy'n effeithio ar y set ddata ar gyfer Cymru.

Hefyd, mae'r mesurau a gyflwynwyd ar iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig wedi golygu yr effeithiwyd ar ddata sy'n ymwneud â rhai o'n dangosyddion tlodi plant. Er enghraifft, ni chafodd data ar gyflawniad addysgol eu casglu yn 2020 a 2021 gan fod y ffaith bod ysgolion wedi gorfod cau wedi effeithio ar ddysgu pobl ifanc.

Beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym

Yn gyson, plant yw'r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Un o'r rhesymau posibl dros hyn yw bod oedolion sydd â phlant yn fwy tebygol o fod allan o waith neu'n gweithio llai o oriau oherwydd eu cyfrifoldebau gofal plant, gan effeithio'n anghymesur ar fenywod fel rhieni sengl.

Mae data ar lefel y DU ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben yn 2021 yn dangos bod 27% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol (Ar Ôl Costau Tai). Roedd hyn yn ostyngiad o bedwar pwynt canran ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben yn 2020, er y gwelwyd cynnydd ers y Flwyddyn a Ddaeth i Ben yn 2014. Fodd bynnag, nid oedd y newid hwn yn arwyddocaol yn ystadegol, ac mae'r cyfwng hyder o 95% lle byddem yn disgwyl gweld y gwerth gwirioneddol yn gostwng rhwng 22% a 32%.

Dangosydd tlodi plant

Mae'r ystadegau tlodi dibynadwy diwethaf ar gyfer Cymru ar gyfer y tair Blwyddyn a Ddaeth i Ben yn 2018 i 2020. Mae'r rhain yn dangos yr amcangyfrifir bod 31% o blant Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai). Mae hyn yn cyfateb i tua 190,000 o blant dibynnol dan 19 oed.

Siart 1: Canran pob grŵp oedran yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image
Siart 1: Canran pob grŵp oedran yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog, data yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Diffiniad o dlodi plant

Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn diffinio tlodi fel a ganlyn:

Cyflwr hirdymor o beidio â chael digon o adnoddau i fforddio bwyd, amodau byw neu amwynderau rhesymol neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau (fel mynediad i gymdogaethau atyniadol a mannau agored) a gymerir yn ganiataol gan eraill yn eu cymdeithas.

Hawliau plant

Mae hawliau plant yn ganolog i'n dull o fynd i'r afael â thlodi plant. Ym mis Mai 2012, daeth ein dyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar waith fel rhan o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Er mwyn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i blant a phobl ifanc, lansiwyd  Cynllun Plant a Phobl Ifanc  ym mis Mawrth 2022. Mae'r cynllun yn ymrwymedig i egwyddorion CCUHP ac yn nodi saith blaenoriaeth drawsbynciol a ddatblygwyd ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc.

Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Caiff gwaith Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ein hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi plant, ei wneud yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Y nodau hyn yw cael Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach, fwy cyfartal, fwy cyfrifol yn fyd-eang â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion ar gyfer mesur ein cynnydd fel cenedl tuag at gyflawni'r nodau ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Thema drawsbynciol: mynd i'r afael ag anghydraddoldeb

Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn rhan sylfaenol o'n hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Mae'n ategu ein hamcanion o ran tlodi plant a'r camau gweithredu rydym yn eu cymryd a'r penderfyniadau a wnawn i'w cyflawni.

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod anghydraddoldebau yn bodoli ar gyfer grwpiau sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig penodol sydd â chyfraddau uwch o dlodi incwm cymharol. Rydym yn ymrwymedig i greu cymdeithas decach, lle y bydd amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i pharchu, lle na fydd pobl yn wynebu gwahaniaethu na rhagfarn a lle y gall pawb gyfranogi, ffynnu a chael cyfle i gyflawni eu potensial.

Cefnogir ein dyhead o gyflawni nod llesiant ‘Cymru Fwy Cyfartal’ fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan amrywiaeth o ddeddfwriaeth sy'n rhoi dyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Cefnogir ein hymrwymiad deddfwriaethol gan ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 sydd â'r nod o atgyfnerthu a datblygu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae'n nodi sut y byddwn yn cefnogi'r rheini â nodweddion gwarchodedig sy'n wynebu'r risg fwyaf o wahaniaethu a chael eu trin yn annheg sydd, yn ei dro, yn arwain at ganlyniadau anghyfartal iawn mewn bywyd. Rydym yn parhau i nodi cyfleoedd i gydblethu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol â'n hamcanion o ran tlodi plant.

Mae ein Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau yn nodi'r modd y byddwn yn arwain y gwaith o gyflawni gwell cydraddoldeb i fenywod a merched yng Nghymru. Arafwyd y cynnydd o ran gweithredu rhai o argymhellion yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd oherwydd effaith y pandemig, fodd bynnag, mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda bellach i fynd i'r afael â chamau gweithredu â blaenoriaeth, ailadeiladu momentwm a chymryd camau breision i'w rhoi ar waith.

Rydym yn parhau i ariannu cynhyrchion mislif am ddim mewn ysgolion, colegau a chymunedau ledled Cymru a byddwn yn cyhoeddi ein Cynllun Urddas Mislif Cymru ar ddechrau 2023. Dyma ein cynllun i roi diwedd ar dlodi mislif a sicrhau tegwch mislif i bawb.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth, ac mae'n galw am ddim goddefgarwch mewn perthynas ag anghydraddoldeb hiliol o bob math. Bydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer cenedl wrth-hiliol, lle caiff pawb eu gwerthfawrogi am bwy ydynt a'r cyfraniad a wnânt.

Bydd cyflwyno Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol Cymru yn mynd gam ymhellach i fynd i'r afael â'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'n hymadawiad o'r UE, ein hadferiad ar ôl COVID-19 ac effaith yr argyfwng costau byw, gan ein galluogi i symud tuag at Gymru decach a mwy ffyniannus.

Yn dilyn ymgynghoriad ar ail gyfran o Gerrig Milltir Cenedlaethol a ddaeth i ben ym mis Medi 2022, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi Cerrig Milltir Cenedlaethol sy'n ceisio lleihau'r bwlch tlodi ar gyfer pobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Ystyrir bod y Garreg Filltir hon yn gam hanfodol tuag at Gymru fwy cyfartal. Byddwn ni yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad a dadansoddiad annibynnol o'r Cerrig Milltir diweddaraf hyn ar wefan Llywodraeth Cymru.

Er mwyn helpu i fesur ein cynnydd tuag at Gymru fwy cyfartal, rydym wedi sefydlu Uned Data Cydraddoldeb, Uned Gwahaniaethau ar sail Hil ac Uned Gwahaniaethau ar sail Anabledd, y mae gan bob un ei rhaglen dystiolaeth a'i harweinydd ei hun i sicrhau bod y dystiolaeth yn cael ei rhoi ar waith. Bydd yr Unedau Data yn rhoi gallu dadansoddi a pholisi trawsbynciol i ddatblygu newid ar lawr gwlad i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n cael eu llywio gan dystiolaeth.

Ethnigrwydd

Roedd tebygolrwydd o 29% y byddai pobl yr oedd pennaeth eu haelwyd yn perthyn i grŵp ethnig nad yw'n wyn sy'n byw mewn tlodi cymharol o gymharu â thebygolrwydd o 24% ar gyfer pobl yr oedd pennaeth eu haelwyd yn perthyn i grŵp ethnig gwyn.

Anabledd

Roedd 38% o blant a oedd yn byw mewn teuluoedd lle roedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 26% o blant mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.

Ffynhonnell

Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog, yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Beth rydym yn ei wneud i gyflawni ein hamcanion o ran tlodi plant

Amcan 1: helpu pobl i gael swyddi boddhaol

Mae aelwydydd heb waith yn wynebu llawer mwy o risg o fyw mewn tlodi yn enwedig risg o fyw mewn tlodi parhaus. Mae plant sy'n byw mewn aelwydydd heb waith yn llawer mwy tebygol o gael canlyniadau iechyd ac addysgol gwaeth. Mae Amcan 1 ein Strategaeth Tlodi Plant yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gymryd camau i leihau nifer y teuluoedd sy'n byw mewn aelwydydd heb waith.

Mae Data'r SYG yn dangos, bod 61,900 o blant mewn aelwydydd heb waith yn 2021, sef 11.6% o gyfanswm nifer y plant mewn aelwydydd. Mae hyn i fyny o 58,000 (11.0%) yn 2020. Mae data tlodi yn dangos bod 73% o blant a oedd yn byw mewn aelwydydd heb waith mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 45% a oedd yn byw mewn aelwydydd lle roedd o leiaf un ond nid pob oedolyn yn gweithio, a 17% lle roedd pob oedolyn yn yr aelwyd yn gweithio yn y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2018 i 2020.

Siart 2: Canran y plant yng Nghymru sydd mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl statws economaidd yr aelwyd, cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol hyd at y flwyddyn 2019 i 2020

Image
Siart 2: Canran y plant yng Nghymru sydd mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl statws economaidd yr aelwyd, cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol hyd at y flwyddyn 2019 i 2020

Ffynhonnell: dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Arolwg o Adnoddau Teulu Cymru (2017 i 2018 a 2019 i 2020)

Mae Data'r SYG yn dweud wrthym fod 157,000 o aelwydydd heb waith yng Nghymru yn 2021, sef 17.0% o gyfanswm nifer yr aelwydydd. Mae hyn i fyny o 154,600 (16.5%) yn 2020, sef cynnydd o 2.0%. Mae Data'r Farchnad Lafur yn dangos bod 476,300 o bobl yn economaidd anweithgar yng Nghymru rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2022, i fyny 32,900 (7.4%) o'r un cyfnod flwyddyn yn gynharach.

Effeithiodd y pandemig yn sylweddol ar gyfleoedd addysg a hyfforddiant i bobl ifanc, ynghyd â'u hyder a'u hiechyd meddwl. Bydd cyllid ychwanegol i'n Gwarant i Bobl Ifanc yn sicrhau bod pawb dan 25 oed yn cael cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni fel Prentisiaethau, Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol, Cymru'n Gweithio a Syniadau Mawr Cymru. Rydym am roi'r cymorth sydd ei angen ar bobl ifanc i gael dyfodol mwy llewyrchus pan fyddant yn gadael yr ysgol, y coleg, y brifysgol neu hyd yn oed wynebu cael eu diswyddo. Nod y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yw gostwng nifer y bobl ifanc sy'n NEET drwy nodi'r rheini sydd mewn perygl o fod yn NEET neu'n ddigartref yn gynnar, a'u helpu i gyflawni eu potensial drwy gynnig y cymorth cywir i'w helpu i ffynnu.  Rydym wedi llunio llawlyfr i randdeiliaid ar y modd y mae'r fframwaith yn gweithio.

Yn y dyfodol, bydd ein gwasanaeth Cymru'n Gweithio yn cynnig cyngor ac arweiniad am ddim i helpu pobl i ddod o hyd i hyfforddiant a gwaith. Mae sgiliau cyflogadwyedd da yn helpu i leihau cyfnodau o ddiweithdra ac i wella siawns pobl o gael gwaith parhaus.

Mae ein Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol, Cymunedau dros Waith, Cymunedau dros Waith a Mwy a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r Adran Gwaith a Phensiynau. Maent yn cynnig cymorth a hyfforddiant cyflogadwyedd wedi'i deilwra i bobl o bob oedran sy'n wynebu'r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur, i gael cyflogaeth gynaliadwy. Yn ystod y pandemig, cyflwynwyd hyfforddiant ar-lein ac ariannodd Cymunedau am Waith a Mwy gynllun benthyca gliniaduron i alluogi cyfranogwyr i chwilio am waith a gwneud gweithgarwch arall sy'n gysylltiedig â gwaith.  Mae'r rhaglenni wedi cefnogi mwy na 80,000 o unigolion ac mae tua 35,000 wedi sicrhau gwaith o fwy na 16 awr yr wythnos.

Dangosyddion tlodi plant

Tabl 1: amcangyfrif o'r bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth yn ôl gweithgarwch economaidd a grwpiau oedran
Canran y bobl ifanc 16-18 oed sy'n *NEETCanran y bobl ifanc 19-24 oed sy'n *NEET
2019: 11.7%2019: 16.1%
2020:11.7%2020: 15.8%
2021 (dd): 13.6%2021 (dd): 16.3%

(dd) Amcangyfrifon dros dro yw'r rhai ar gyfer 2021.

Ffynhonnell: Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, Llywodraeth Cymru.

Amcan 2: helpu rhieni a phobl ifanc i feithrin eu sgiliau

Un o brif benderfynyddion tlodi oedran gweithio yw sgiliau oedolion sy'n ffactor allweddol wrth gael mynediad i'r farchnad lafur ac wrth ddatblygu mewn swydd a chael cyflogaeth sy'n talu'n dda. Yn Amcan 2 o'n Strategaeth Tlodi Plant, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynyddu sgiliau rhieni a phobl ifanc sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel, fel eu bod yn gallu sicrhau cyflogaeth sy’n talu'n dda a datblygiad yn y gwaith.

Cyn y pandemig, roedd Cymru wedi gweld gwelliannau mewn cyfraddau sgiliau oedolion, diweithdra a chyflogaeth, ond roedd trefniadau'r cyfyngiadau symud yn golygu yr effeithiwyd ar bob agwedd ar gyflogadwyedd a darpariaeth sgiliau. Pan gyflwynwyd mesurau iechyd y cyhoedd, datblygwyd opsiynau mewn rhai meysydd ar gyfer dysgu ar-lein a chynnig darpariaeth lle gellir cadw pellter cymdeithasol. Cafodd sawl maes arall o hyfforddiant, yn enwedig hyfforddiant mewn gwaith, eu gohirio wrth i weithleoedd gau ac wrth i bobl gael eu rhoi ar ffyrlo. Effeithiodd colli cyllid yr UE ar lawer o'n rhaglenni hyfforddiant hefyd.

Rydym yn cefnogi'r rheini sy'n 18 oed a throsodd y mae colledion swyddi wedi effeithio arnynt drwy ein rhaglen React+ a gynlluniwyd i atal pobl rhag symud i ddiweithdra hirdymor drwy helpu unigolion i ddod o hyd i gyflogaeth newydd, deg a chynaliadwy ar ôl iddynt gael eu diswyddo neu ar ôl cyfnod o fod yn ddi-waith. Datblygwyd system gwneud cais a hawliadau ar-lein yn ystod y pandemig ac ehangodd y rhaglen y garfan sy'n gymwys i gynnwys y rheini sy'n ddi-waith yn y byrdymor a phobl ifanc 18-24 oed sy'n NEET.

Dechreuodd rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ym mis Ebrill 2022 ac mae'n rhan o ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i sicrhau bod pob person ifanc yn cael cynnig cyflogaeth, hyfforddiant, gwaith gwirfoddol neu hunangyflogaeth. Mae Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig cymorth cyfannol wedi'i deilwra i bobl ifanc sy'n NEET neu sy'n wynebu risg o fod yn NEET. Mae'r rhaglen yn cynnig cymorth wedi'i deilwra drwy ei thair elfen: ymgysylltu, datblygu a chyflogaeth, sy'n cefnogi pobl ifanc ar yr adeg gywir ac yn lle cywir iddyn nhw. Rhoddwyd mwy o gyllid ar gyfer cymorth llesiant i bobl ifanc drwy'r rhaglen i gydnabod effaith y pandemig a'r cyfyngiadau symud dilynol.

Dengys data y gwelwyd gostyngiad yn nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd drwy ein rhaglen dysgu Prentisiaethau, o 22,335 yn y flwyddyn academaidd 2019 i 2020 i 20,755 yn y flwyddyn academaidd 2020 i 2021. Mae ffigurau dros dro ar gyfer tri chwarter cyntaf 2021 i 2022 yn dangos y dechreuwyd 16,130 o brentisiaethau, i fyny rywfaint o gymharu â thri chwarter cyntaf 2020 i 2021.Roeddem wedi disgwyl y byddai mwy o lawer o brentisiaid yn cael eu rhoi ar ffyrlo ac y byddai eu dysgu'n cael ei ohirio dros dro, ond parhaodd y rhan fwyaf o brentisiaid (ar ffyrlo neu ddim) i ymgysylltu â rhyw fath o ddysgu ac asesu ar-lein. Fel rhan o'n mesurau ar gyfer COVID-19, cyflwynwyd cynllun dwys i annog cyflogwyr i recriwtio prentisiaid, yn arbennig pobl ifanc 16 i 24 oed gan mai'r grŵp oedran hwn yr effeithiodd yr argyfwng arno fwyaf. Helpodd y cynllun hwn i gynnal cyfleoedd recriwtio a hyfforddi ar gyfer pobl ifanc a phobl hŷn fel ei gilydd.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, dyrannwyd mwy na £11.5 miliwn ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned. Mae cyfleoedd dysgu gydol oes yn galluogi pobl i feithrin yr hyder, y cymhelliant a'r dulliau i ddychwelyd i fyd addysg a chael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno pum cynllun peilot Cwricwlwm Dinasyddion newydd a fydd yn mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal dysgwyr sy'n oedolion rhag cymryd rhan yn ehangach.

Yn ehangach, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid sy'n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc gyflawni eu potensial fel unigolion wedi'u grymuso ac fel aelodau o grwpiau a chymunedau. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid gyda chyllid gwerth £11.4 miliwn i gefnogi'r gwaith o roi adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ar waith: Mae'n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru. Penodwyd Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid i ddatblygu a gweithredu'r argymhellion ymhellach.

Dangosyddion tlodi plant

 
Tabl 2: lefelau cymwysterau uchaf oedolion o oedran gweithio yn ôl blwyddyn a chymhwyster
Canran yr oedolion o oedran gweithio nad oes ganddynt unrhyw gymwysterauCanran yr oedolion o oedran gweithio sy'n meddu ar gymwysterau ar lefel 2 ac uwch
2019: 8.2%2019: 79.1%
2020 (d): 7.4%2020 (d): 80.9%
2021: 8.1%2021: 80.1%

(d) Mae'r ffigurau wedi'u diwygio ers iddynt gael eu cyhoeddi'n wreiddiol ers ailbwysoli'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Amcan 3: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â thlodi

Mae tlodi yn rhwystr rhag cyflawni canlyniadau cadarnhaol. Ar gyfer plant a phobl ifanc, mae mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â thlodi yn helpu i adeiladu eu cydnerthedd, yn eu galluogi i ffynnu ac yn gwella eu siawns o lwyddo yn ddiweddarach yn eu bywydau. Rydym yn cymryd camau i sicrhau chwarae teg i bawb, o'r blynyddoedd cynnar i fyd oedolion, fel bod gan bob plentyn gyfle i gyflawni ei botensial.

Yn Amcan 3 o'n Strategaeth Tlodi Plant, rydym yn ymrwymo i leihau’r anghydraddoldebau o ran canlyniadau iechyd, addysg ac economaidd plant a theuluoedd trwy wella canlyniadau'r tlotaf.

Rhoi'r dechrau gorau i blant mewn bywyd: ffocws ar y blynyddoedd cynnar

Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn cynnwys ffocws ar y blynyddoedd cynnar, gan gydnabod y gall buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar oes plentyn wneud cyfraniad pwysig at wella ei iechyd a'i ganlyniadau datblygu, sydd, yn ei dro, yn dylanwadu ar ganlyniadau'n ddiweddarach mewn bywyd. Mae plant o aelwydydd incwm isel yn wynebu mwy o risg o gael canlyniadau gwybyddol a datblygiadol gwaeth yn y blynyddoedd cynnar felly mae'n hanfodol bod y rheini sy'n wynebu'r risg fwyaf yn cael cefnogaeth.

Arweiniodd pandemig y coronafeirws at newidiadau digynsail i blant, pobl ifanc a theuluoedd ac, ar y pryd, roedd yn golygu bod llai o wasanaethau help cynnar hanfodol yr oedd llawer yn dibynnu arnynt ar gael. Yn ystod yr argyfwng iechyd, yn aml bu'n rhaid iddynt addasu eu dulliau gweithredu yn unol â'r cyfyngiadau ehangach a wynebwyd gan bob un ohonom, gan ohirio rhai gwasanaethau dros dro ar adegau.

Mae buddsoddiad o £18.5 miliwn yn y Gronfa Datblygiad Plant ers 2020 i 21 wedi helpu awdurdodau lleol i leihau effaith y pandemig ar ddatblygiad plant o dan 5 oed yng Nghymru. Mae'r Gronfa yn sicrhau y caiff cymorth ei dargedu at blant a theuluoedd y mae canlyniadau'r cyfyngiadau wedi effeithio arnynt fwyaf. Hefyd, dyrannwyd £14 miliwn ar gyfer ein rhaglen Help Cynnar i leihau rhestrau aros a chynnig cymorth amserol i blant, pobl ifanc a'r rheini sydd newydd ddod yn agored i niwed. Mae wedi helpu i atgyfnerthu gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu gan raglenni Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf.

Rydym wedi rhoi amrywiaeth o raglenni ymyrryd yn gynnar ac atal ar waith i gefnogi datblygiad plant ac i wella gwybodaeth a sgiliau rhieni.

Nod ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, Siarad gyda Fi, yw gwella'r ffordd y caiff plant eu cefnogi i feithrin eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu sy'n hanfodol ar gyfer sicrhau canlyniadau cadarnhaol o ran iechyd, llesiant, addysg a chyflogaeth. Yn ystod y pandemig, nododd gwaith ymchwil a deallusrwydd llinell flaen bod anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu wedi cynyddu a bod datblygiad iaith cynnar nifer o blant wedi dirywio. Symudodd y gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu i fodel cyflawni mwy hyblyg gan gynnwys sesiynau ar-lein ynghyd ag ymweliadau cartref gan gynnwys asesiadau risg ar gyfer y rhai a oedd fwyaf agored i niwed.

Yn ystod y pandemig, ailbennodd ein hymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo y neges i roi gwybodaeth a chymorth ar faterion allweddol a godir gan rieni. Y tair thema allweddol oedd Ymddygiad Plant; Rhowch Amser Iddynt; ac Eich Cefnogi Chi. Cafodd nifer o adnoddau newydd, gan gynnwys Tips Ymarferol ar ddatblygiad plant i rieni â phlant 0 i 4 oed a Thips Ymarferol ar gyfer plant sy'n wynebu pryder gwahanu hefyd. Mae'r ymgyrch yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth cadarnhau ar rianta, a dewisiadau amgen i gosb gorfforol. Rydym hefyd wedi cyflwyno deddfwriaeth ar stopio cosbi plant yn gorfforol, gan ddiogelu eu hawliau a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd iddynt.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu ddiwygiedig, sy'n ymgorffori'r Cytundeb Cydweithio â Plaid Cymru, yn tanlinellu ein hymrwymiad i'n rhaglen flaenllaw ar gyfer y blynyddoedd cynnar Dechrau'n Deg sydd â'r nod o wneud gwahaniaeth pendant i gyfleoedd bywyd plant dan 4 oed sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig drwy liniaru effaith tlodi.  Er gwaethaf y tarfu sylweddol ar Dechrau'n Deg yn ystod pandemig y Coronafeirws, dengys data fod 31,832 blant wedi cael budd o wasanaethau Dechrau'n Deg rhwng 2020 a 2021.

Mae'r Cytundeb Cydweithio â Plaid Cymru hefyd wedi sicrhau bod cyllid ar gael i fwy o deuluoedd allu manteisio ar y Cynnig Gofal Plant sy'n rhoi mynediad i addysg a gofal plentyndod cynnar sy'n gwella cyfleoedd bywyd plant sy'n agored i niwed ac sydd dan anfantais.

Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi'r sesiynau cyswllt cyffredinol y gall plant a'u teuluoedd eu disgwyl gan eu byrddau iechyd ym meysydd sgrinio, imiwneiddio a monitro a chefnogi datblygiad plant.Yn ystod y pandemig, cynhaliwyd amrywiaeth o gysylltiadau allweddol fel rhan o Raglen Plant Iach Cymru er mwyn sicrhau bod pob teulu yn cael ei gefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

Sicrhau bod teuluoedd yn ffynnu

Mae rhai grwpiau, gan gynnwys cymunedau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, rhieni sengl a phobl ifanc yn wynebu risg benodol o gyflogau isel a chyflogaeth ansicr ac maent yn fwy tebygol o weithio mewn sectorau y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt. Mae Amcan 3 ein Strategaeth Tlodi Plant yn ymrwymo Llywodraeth Cymru leihau anghydraddoldebau economaidd i blant a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi, drwy wella canlyniadau'r tlotaf.

Mae bylchau mewn cyflogau yn bodoli o hyd mewn grwpiau o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru ar gyfer pobl anabl (11.6% [data 2021], menywod (5% [data 2021]) a chyflogeion lleiafrifoedd ethnig (1.4% [data 2019]). Mae gwella cyfraddau cyflogau fesul awr ynghyd ag oriau gweithio mwy rhagweladwy yn allweddol er mwyn mynd i'r afael â thlodi mewn gwaith. Yn ystod y pandemig, gwaethygodd y gwahaniaeth hwn wrth i'r rheini a oedd eisoes dan anfantais yn y farchnad lafur, gan gynnwys gweithwyr ifanc, ddwyn baich mwyaf yr argyfwng.

Ym mis Mawrth 2021, daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru. Mae'n yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus perthnasol, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, ystyried yr angen i leihau anghydraddoldebau a brofir o ganlyniad i anfantais Economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.

Mae ein dull partneriaeth gymdeithasol  yn cynnig cyfleoedd inni weithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, gan gynnwys bylchau cyflog. Cyflwynwyd carreg filltir genedlaethol ar gyfer dileu'r bwlch cyflogau ar sail rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd erbyn 2050 gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2021. Gan edrych i'r dyfodol, rydym yn cyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i edrych ar ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â bylchau cyflog ar sail rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd, a ffurfiau eraill ar wahaniaethu.

Rydym wedi cyflwyno rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl a fydd yn gweithio gyda busnesau ledled Cymru i greu'r amodau i bobl anabl allu ffynnu yn eu gwaith, i gefnogi prosesau recriwtio a chadw, ac i wneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol – gan newid agweddau a lleihau stigma. Mae ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn nodi'r hyn y byddwn yn ei wneud i leihau anghydraddoldebau, y gwahaniaethu a'r rhwystrau a wynebir gan bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ym mhob agwedd ar brosesau recriwtio, dethol a datblygiad gyrfa. Mae ein Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru yn cynnwys fframwaith y byddwn yn ei ddilyn i fynd i'r afael â'r dirwedd newidiol i fenywod yng Nghymru ac i fyfyrio ar effaith anghymesur y pandemig a'r argyfwng costau byw ar gydraddoldeb rhywiol.

Mae mwy na 470 o sefydliadau wedi mabwysiadu ein Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi sy'n ceisio sicrhau bod y broses gaffael gyhoeddus yn cefnogi arferion cyflogaeth da sy'n grymuso ac yn gwobrwyo gweithwyr yng Nghymru a thu hwnt.

Rydym hefyd yn annog busnesau sy'n ceisio cyllid gan Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gefnogi symudedd cymdeithasol yn eu harferion recriwtio.

Lleihau anghydraddoldebau addysgol: helpu pob plentyn i wireddu ei botensial

Mae mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau addysgol a wynebir gan blant sy'n byw mewn tlodi yn hanfodol i wella eu cyfleoedd mewn bywyd ac i'w cefnogi i ffynnu. Cafodd y pandemig effaith sylweddol ar ddysgu plant wrth i ysgolion gau ac wrth i ddysgu o gartref ddod yn gyffredin. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod dysgu a datblygiad plant ar ei hôl hi oherwydd y pandemig, yn enwedig plant o aelwydydd incwm isel.

Mae ein Grant Datblygu Disgyblion yn parhau i gefnogi ysgolion a lleoliadau i wrthdroi effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau addysgol gorau. Mae'r cyllid ar gyfer 2022 i 2023 dros £130 miliwn bellach.

Rydym yn cymryd camau i ddileu'r rhwystrau ariannol sy'n atal plant mewn tlodi rhag cymryd rhan lawr mewn bywyd yn yr ysgol. Mae ein Grant Datblygu Disgyblion: Mynediad yn rhoi cymorth grant i deuluoedd cymwys i helpu â chost gwisg ysgol, esgidiau, dillad chwaraeon a chyfarpar arall. O ganlyniad i'r argyfwng costau byw, cyhoeddwyd taliad untro ychwanegol o £100 ym mis Mawrth 2022 ar gyfer pob plentyn cymwys sy'n creu cyfanswm cyllid ar gyfer Grant Datblygu Disgyblion: Mynediad o fwy na £23 miliwn ar gyfer 2022 i 2023.

Comisiynwyd Plant yng Nghymru hefyd i lunio cyfres o ganllawiau sy'n canolbwyntio ar gostau'r diwrnod ysgol. Mae Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion yn tynnu sylw at effaith tlodi ar ddysgwyr ac mae'n cynnig ffyrdd ymarferol y gall ysgolion helpu eu dysgwyr drwy leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi.

Rydym wedi ymgynghori ar newidiadau i ganllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol ac ymddangosiad yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad yn ystyried a ddylai cyrff llywodraethu ysgolion ystyried fforddiadwyedd a hygyrchedd wrth bennu eu polisi gwisg ysgol ac ymddangosiad; mae hefyd yn ystyried y defnydd o logos a brandio ar wisg ysgol ynghyd â materion cysylltiedig eraill.

Teilwrodd Gyrfa Cymru ei wasanaeth yn ystod y pandemig i gynnwys mwy o gymorth ar-lein ac un i un a chyflwynodd adnoddau ar-lein gan gynnwys bwletin Swyddi Gwag, cylchlythyrau Rhanddeiliaid a ffeiriau swyddi ar-lein. Mae'n helpu pobl ifanc drwy roi cyngor ar yrfaoedd a sgiliau, gan helpu pobl i oresgyn rhwystrau i weithio a hyfforddiant ac yn cefnogi prosesau ailsgilio ac uwchsgilio.

Gan edrych i'r dyfodol, ym mis Mawrth eleni, pennodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg amrywiaeth o fesurau i fynd i'r afael â thlodi ar gyrhaeddiad addysgol, gan helpu pob plentyn i gyflawni ei botensial a sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Caiff y mesurau hyn eu cyflawni drwy ddull system gyfan o ddarpariaeth addysg a gofal cynnar, addysg gynradd, addysg uwchradd a phob math o addysg ôl-16 a dysgu gydol oes. Bydd hyn yn cynnwys buddsoddi yn y broses o ddatblygu Ysgolion Bro, rhaglenni addysg athrawon sy'n canolbwyntio ar oresgyn anghydraddoldebau ac atgyfnerthu staff cymorth addysgu drwy raglenni dysgu proffesiynol o ansawdd uchel.

Yn sgil ein cefnogaeth ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, gan gynnwys cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio â Plaid Cymru, mae mwy nag erioed o blant yn cael pryd iach a maethlon fel rhan o'r diwrnod ysgol, gan helpu i sicrhau na fydd yr un plentyn yn llwgu.

Dangosyddion tlodi plant

Ein dangosyddion tlodi plant ar gyfer mesur cynnydd wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau addysgol yw:

  • canran y disgyblion 7 oed sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim sy’n cyflawni'r lefel ddisgwyliedig ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen
  • canran y disgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim sy’n cyflawni trothwy Lefel 2 gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 4

Rhoi'r gorau i fesurau perfformiad: Oherwydd goblygiadau COVID-19, rhoddodd Llywodraeth Cymru'r gorau i gyfrifo mesuriadau perfformiad ar gyfer blynyddoedd academaidd 2019 i 2020 a 2020 i 2021, ar gyfer carfanau Blwyddyn 11 a chweched dosbarth, ac ni chasglwyd data asesu athrawon yn y Cyfnod Allweddol a'r Cyfnod Sylfaen ar gyfer blynyddoedd academaidd 2019 i 2020 a 2020 i 2021.Cadarnhaodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn 2021 y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i beidio â chyfrifo na chyhoeddi mesurau perfformiad yn 2021 i 2022 ar gyfer carfanau Blwyddyn 11 a chweched dosbarth.

Mewn Datganiad Llafar i'r Senedd ar 6 Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y bwriad i ddileu'r gofynion i ymarferwyr gynnal asesiadau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 o 2021 i 2022, er mwyn cefnogi dysgwyr ac ymarferwyr i bontio tuag at y cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau arholiadau ar gyfer 2021 i 2022 ar wefan Llywodraeth Cymru. Nid yw'r cyhoeddiad hwn yn cynnwys unrhyw fesurau perfformiad ond mae'n nodi'r dosbarthiad graddau TGAU a Safon Uwch o dymor yr haf 2022.

Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy wella iechyd y tlotaf

Mae anghydraddoldebau presennol ym mhenderfynyddion cymdeithasol iechyd – fel cyflog isel, anghydraddoldebau addysgol a thai o ansawdd gwael – yn golygu bod pobl sydd dan anfantais yn byw am fwy o flynyddoedd mewn iechyd gwael ac yn marw'n ifancach o gymharu â'r rheini sy'n byw mewn amgylchiadau gwell. Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli ar hyn o bryd yng nghanlyniadau iechyd corfforol ac iechyd meddwl rhieni, plant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi.

Dangosodd y pandemig yn benodol y modd yr effeithiwyd yn anghymesur ar iechyd a llesiant pobl sy'n byw yn y cartrefi tlotaf. Mae ein hadroddiad ar roi tegwch iechyd wrth wraidd yr ymateb cynaliadwy i COVID-19 ac  adfer ohono yn amlinellu'r modd yr effeithiwyd yn benodol ar iechyd a llesiant pobl ifanc.

Dengys data o Llesiant Cymru: Dangosyddion Cenedlaethol fod y bwlch cyffredinol mewn disgwyliad oes iach rhwng y bobl sydd dan anfantais fwyaf a lleiaf wedi parhau'n gymharol sefydlog rhwng 2011 a 2013 a rhwng 2018 a 2020.Mae hefyd yn dangos, rhwng 2018 a 2020, bod y bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn 13.4 o flynyddoedd ar gyfer dynion a 16.9 o flynyddoedd ar gyfer menywod. Ar gyfer disgwyliad oes cyffredinol, mae'r data diweddaraf gan SYG yn dweud wrthym, rhwng 2018 a 2020, bod y gwahaniaeth (ystod) ar gyfer disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn 7.5 o flynyddoedd ar gyfer dynion a 6.3 o flynyddoedd ar gyfer menywod.

Rydym yn ymrwymedig i ymgorffori dull ‘iechyd ym mhob polisi‘ at lunio polisïau a darparu gwasanaethau cyhoeddus sydd â'r nod o sicrhau y caiff cymorth ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd corfforol, a'r modd rydym yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ei ystyried yn drylwyr wrth ddatblygu rhaglenni a pholisïau. Er mwyn cefnogi'r nod hwn, drwy'r Senedd, datblygodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae Rhan 6 o'r Ddeddf yn nodi bod angen paratoi Rheoliadau sy'n nodi amgylchiadau lle mae'n rhaid i nifer o gyrff cyhoeddus penodol gynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd. Ailddechreuodd gwaith ar y Rheoliadau yn ddiweddar yn dilyn oedi i sicrhau bod adnoddau'n canolbwyntio ar waith sy'n ymwneud â'n hymadawiad o'r UE ac yna i ymateb i COVID-19.

Nod y Cynllun Cyflenwi ar gyfer Pwysau Iach: Cymru Iach yw atal a lleihau achosion o ordewdra a gefnogir gan fwy na £13 miliwn o gyllid. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu cyngor, gwasanaethau ac amgylchedd sy'n galluogi'r dewis iach i fod yn ddewis hawdd.

Gan edrych i'r dyfodol, rydym yn datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynau cymdeithasol i helpu pobl i gael gafael ar gymorth llesiant ochr yn ochr â'r cymorth clinigol traddodiadol. Hefyd, nod ein Cronfa Iach ac Egnïol gwerth £5.9 miliwn yw gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol drwy alluogi ffyrdd o fyw iach ac egnïol. Nod penodol nifer o brosiectau a gefnogir yw lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Ym mis Hydref 2020, atgyfnerthwyd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Law yn Llaw at Iechyd Meddwl mewn meysydd sy'n amddiffyn iechyd meddwl da, fel cymorth cyflogadwyedd a thai. Caiff y gwaith hwn ei lywio ymhellach gan waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Iechyd Meddwl Lleiafrifoedd Ethnig. Mae ysgolion yn ganolog i'n prif raglen o gymorth iechyd meddwl ar gyfer plant sy'n wynebu mwy o straen neu orbryder o ganlyniad i'r Coronafeirws. Gwnaethom gynnull Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-weinidogol ar Ddull Ysgol Gyfan i Lesiant Emosiynol a Meddyliol a argymhellodd y dylid datblygu fframwaith statudol i gefnogi ysgolion i adolygu cynlluniau llesiant a datblygiad dysgwyr a staff er mwyn mynd i'r afael â bylchau ac adeiladu ar eu cryfderau. Hefyd, yn dilyn cynllun peilot cadarnhaol, caiff ein Rhaglen Mewngymorth ei chyflwyno ledled Cymru i ddatblygu gallu mewn ysgolion i gefnogi iechyd meddwl a llesiant disgyblion drwy ymarferwyr iechyd meddwl dynodedig sy'n cynnig prosesau ymgynghori, cydgysylltu, cynghori a hyfforddi. Rydym hefyd wedi cyflwyno Llinell Gymorth C.A.L.L. sy'n cynnig cymorth cyfrinachol a SilverCloud sef cwrs ar-lein sy'n cynnig cefnogaeth hunangymorth ar gyfer gorbryder, iselder neu straen i unrhyw un 16 oed neu drosodd.

Dangosyddion tlodi plant

Tabl 3: Canran y babanod (genedigaethau byw) a anwyd â phwysau geni isel (llai na 2,500 gram)
Blwyddyn%
20195.9
20206.1
20215.8

Ffynhonnell: Cronfa Ddata Iechyd Plant Cymunedol Cymru.

Data sydd i ddod: plant sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel sy'n cyrraedd cerrig milltir iechyd, cymdeithasol a datblygiad gwybyddol wrth ddechrau addysg ffurfiol.

Amcan 4: adeiladu economi gref

Mae swyddi, twf ac economi gref yn hanfodol i leihau tlodi plant yng Nghymru. Mae Amcan 5 o'n Strategaeth Tlodi Plant, yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i greu economi a marchnad lafur gref sy'n cefnogi'r agenda trechu tlodi ac yn lleihau tlodi mewn gwaith yng Nghymru.

Tarfodd y pandemig yn sylweddol ar yr economi yng Nghymru gan arwain at ostyngiad sydyn yn nifer y cyflogeion a gaiff eu talu, nifer yr oriau a weithir a nifer swyddi'r gweithlu. Dengys ymchwil ar ddechrau'r pandemig bod gan Gymru gyfradd cyflogaeth o 74% yn Chwarter 1 2020 a chyfradd diweithdra o 3.2%. Roedd tua chwarter miliwn o weithwyr yn cael eu cyflogi mewn sectorau a oedd wedi cau i lawr yng Nghymru ar ddechrau'r pandemig. Roedd gweithwyr ifanc 16 i 24 oed yn fwy tebygol o lawer o fod wedi'u cyflogi mewn sectorau a oedd wedi cau i lawr, 36% o gymharu ag 11% o bobl 35 i 64 oed.

Dengys data'r Farchnad Lafur bod nifer y cyflogeion a delir wedi cynyddu ers diwedd 2020, yn dilyn gostyngiad sydyn yn ystod y pandemig. Cynyddodd y nifer uwchlaw lefelau cyn y pandemig ym mis Gorffennaf 2021 ac mae wedi parhau i gynyddu ers hynny, gan gyrraedd yr uchafbwynt presennol o 1.3 miliwn ym mis Hydref 2022. Cynyddodd nifer swyddi'r gweithlu yng Nghymru hefyd 33,900 (2.3% rhwng mis Mehefin 2021 a mis Mehefin 2022 i 1.52 miliwn. Cynyddodd nifer swyddi hunangyflogaeth yng Nghymru 50,800 (35.5%) rhwng mis Mehefin 1999 a mis Mehefin 2022 i 194,800 (12.8% o'r gweithlu).

Ynghyd â'r heriau sy'n gysylltiedig â chreu swyddi a chefnogi'r broses o ddatblygu busnesau, mae'r economi yng Nghymru yn wynebu heriau strwythurol o ganlyniad i'n hymadawiad o'r UE, yr argyfwng costau byw a'r rhyfel yn Wcráin. Mae ein Cenhadaeth Economaidd yn pennu'r gwerthoedd a'r blaenoriaethau sy'n llywio'r penderfyniadau a wneir gennym wrth gefnogi ein heconomi a chyflawni ein gweledigaeth ar gyfer economi gydnerth sy'n ffyniannus, yn decach ac yn wyrddach, ac sy'n helpu pawb i gyflawni eu potensial.

Mae ein cefnogaeth ar gyfer yr Economi Sylfaenol yn sicrhau y caiff swyddi eu creu sydd wrth wraidd cymunedau lleol gan wneud Cymru'n fwy cydnerth i ysgytwadau economaidd allanol drwy wella cyfleoedd gyrfa ac atgyfnerthu busnesau sydd â'u gwreiddiau yng Nghymru, gan greu cyfoeth a llesiant.

Yn ystod y pandemig, gwnaethom roi nifer o becynnau cymorth ar waith i amddiffyn y busnesau yr effeithiwyd arnynt fwyaf er mwyn diogelu swyddi.  Yn ogystal, mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn helpu busnesau i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau busnes, i atgyfnerthu ac i dyfu.  Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru yn sicrhau un pwynt cyswllt i fusnesau gael gwybodaeth, cyngor a chymorth gan y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.  Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi £20.9 miliwn y flwyddyn yng ngwasanaeth Busnes Cymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025.

Nod gwasanaethau Entrepreneuriaeth Ieuenctid, sy'n rhan o Busnes Cymru, yw cefnogi 600 o entrepreneuriaid ifanc bob blwyddyn. Mae'n galluogi'r sector addysg bellach ac addysg uwch i ddatblygu'r agenda entrepreneuriaeth a sicrhau gweithgarwch partneriaid gan gynnwys cyflawni ein hymgyrch Syniadau Mawr Cymru sy'n cefnogi pobl ifanc sydd â diddordeb mewn dechrau busnes i oresgyn rhwystrau ac i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i symud i hunangyflogaeth. Yn ystod y pandemig, symudodd yr holl weithgareddau ar-lein, gan gynnwys hyfforddiant, datblygiad personol a chymorth un i un. Mae Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc ar gael i gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain.

Mae ein Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes yn helpu pobl ddiwaith ac anweithredol yn economaidd dros 25 oed i ddechrau busnes yng Nghymru. Mae mwy na 1,100 o bobl sy'n wynebu rhwystrau cudd rhag cael mynediad i'r farchnad lafur eisoes wedi cael cymorth.

Mae manwerthu yng Nghymru yn hynod bwysig i'n heconomi, ein cymunedau a'n llesiant fel cenedl.  Datblygwyd ein Gweledigaeth Strategol a Rennir ar gyfer y Sector Manwerthu yng Nghymru mewn partneriaeth â busnesau a gweithwyr yn y sector dan nawdd Fforwm Manwerthu Cymru. Mae'r Fforwm yn datblygu cynllun cyflenwi o flaenoriaethau byrdymor, tymor canolig a hirdymor ar gyfer y sector i hyrwyddo ei ddyhead i sicrhau gyrfaoedd da a diogel yn y sector manwerthu, mewn amgylchedd gwaith teg.

Yn ystod y pandemig, roedd gan ein Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol rôl hanfodol yn trafod anghenion cyflogwyr â'u rhwydweithiau cyflogwyr a chyrff cynrychioliadol yn y sector busnes. Mae'r partneriaethau yn cynnig safbwynt sgiliau rhanbarthol, strategol; gan nodi blaenoriaethau sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth o'r farchnad lafur, wedi'i llywio gan angen cyflogwyr. Maent yn cydweithio'n agos â strwythurau'r Fargen Dinas-ranbarthau a'r Fargen Twf i nodi anghenion sgiliau.

Trafnidiaeth

Mae pobl o aelwydydd incwm isel yn fwy tebygol o ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad i gyflogaeth, hyfforddiant ac addysg felly mae darpariaeth trafnidiaeth hygyrch a fforddiadwy yn ffactor pwysig i bobl sy'n chwilio am lwybr allan o dlodi.

Effeithiodd y pandemig yn sylweddol ar drafnidiaeth gyhoeddus wrth i'r niferoedd yn ystod y pandemig ostwng ac effeithiwyd ar incwm refeniw. Er mwyn diogelu gwasanaethau a swyddi yn y diwydiant bysiau, gwnaethom ddarparu cymorth ariannol drwy'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau. Effeithiwyd yn sylweddol ar wasanaethau rheilffyrdd ac mae angen cymorth refeniw ychwanegol er mwyn sicrhau y gall gwasanaethau barhau. Yn 2021, cymerodd Llywodraeth Cymru reolaeth o reilffyrdd Cymru a'r Gororau drwy Trafnidiaeth Cymru ac mae'r gwasanaethau bellach yn cael eu gweithredu gan Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd y cymorth hwn yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o ansawdd uchel i Gymru sy'n arwain at effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cadarnhaol.

Mae Llwybr Newydd: Strategaeth Trafnidiaeth Cymru ar gyfer 2021 yn nodi ein dyheadau ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf a'n blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Ein Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth yw'rcynllun cyflawni pum mlynedd cyntaf i Lywodraeth Cymru gyflawni ei Strategaeth. Daeth yr ymgynghoriad ar y Cynllun Cyflawni i ben ar 11 Hydref a chaiff ei gyhoeddi yn ystod 2023.

Amcan 5: cadw mwy o arian ym mhocedi pobl

Oherwydd y pandemig a'r argyfwng costau byw, mae mwy o bobl wedi bod yn cael trafferth rheoli costau byw bob dydd nag unrhyw adeg arall ers datganoli. Mae Amcan 5 ein Strategaeth Tlodi Plant yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gefnogi aelwydydd i gynyddu incwm eu haelwyd a mynd i'r afael â'r premiwm tlodi.

Yn 2020, gwnaethom gyflwyno'r Gronfa Gynghori Sengl i sicrhau y caiff gwybodaeth a chyngor diduedd am ddim ei gynnig a all helpu pobl i fanteisio ar eu hawliau i gyfiawnder sifil a'u helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Ers hynny, mae gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu 660,000 o bobl i fynd i'r afael â mwy na 660,000 o broblemau lles cymdeithasol. Cawsant gymorth i hawlio incwm ychwanegol gwerth £83 miliwn a chafodd dyledion gwerth £23 miliwn eu dileu. Roedd mwy na 80% o'r bobl a fanteisiodd ar wasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl yn dod o grŵp targed allweddol, gan gynnwys pobl anabl, pobl hŷn a phobl du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.6 biliwn tuag at ddiogelu aelwydydd difreintiedig rhag effeithiau ariannol yr argyfwng costau byw a'r mentrau sy'n cyflawni'r cyflog cymdeithasol yng Nghymru.

Mae ein cefnogaeth ar gyfer ‘cyflog cymdeithasol’ mwy hael wedi arwain at ddarparu gwasanaethau sy'n cyfateb i arian parod sy'n sicrhau bod arian yn cael ei adael ym mhocedi dinasyddion Cymru. Gall hyn olygu bod rhai teuluoedd yng Nghymru fwy na £2,000 y flwyddyn yn well eu byd nag y byddent fel arall, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

Ar gyfer aelwydydd, mae ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn cefnogi bron i 268,000 o aelwydydd incwm isel ac sydd mewn sefyllfa fregus yng Nghymru i barhau i gael eu gwarchod rhag unrhyw gynnydd yn eu hatebolrwydd y Dreth Gyngor ac mae ein rhaglen Cartrefi Cynnes wedi sicrhau gostyngiad mewn biliau ynni.

Ar gyfer disgyblion a myfyrwyr, mae brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd, ein rhaglen Prydau Ysgol am Ddim, y cynllun Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad, ein Lwfans Cynhaliaeth Addysg, ein Grant Dysgu ar gyfer Addysg Bellach a'n grant ar gyfer israddedigion o aelwydydd incwm isel, i gyd yn lleihau costau ac yn cefnogi pobl ifanc o aelwydydd incwm isel i gyflawni eu huchelgeisiau a'u dyheadau.

Mewn mannau eraill, mae presgripsiynau am ddim i bawb, teithiau bws rhatach i bobl ifanc, cefnogaeth ar gyfer costau a chynlluniau gofal plant fel mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol, help i wella bywydau a rhoi hwb i gyfleoedd.

Yn 2020, cynyddodd Llywodraeth Cymru swm y cyllid ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol £14.9 miliwn fel y gallai gefnogi'r cynnydd mewn galw am help ariannol gan bobl ledled Cymru y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt.Cafodd y rheolau ar gyfer hawlio cymorth o dan y Gronfa Cymorth Dewisol eu llacio er mwyn helpu pobl sydd wedi colli incwm neu sydd wedi mynd i dreuliau ychwanegol o ganlyniad i COVID-19. Hefyd, helpodd i gynyddu nifer y Taliadau Cymorth mewn Argyfwng a pha mor aml y cânt eu rhoi. Gwnaethom hefyd ehangu cymorth y Gronfa Cymorth Dewisol i aelwydydd sydd oddi ar y grid na allent fforddio eu cyflenwad nesaf o olew nag LPG oherwydd caledi ariannol eithafol. Bydd y cymorth hwn yn parhau hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023 ac mae'n darparu hyd at £250 drwy roi taliad untro gwerth £250 ar gyfer olew neu hyd at dri thaliad gwerth £70 ar gyfer LPG iddynt.

Yn ystod y pandemig, darparwyd £2 filiwn o gyllid cyfalaf i undebau credyd i'w galluogi i barhau i gefnogi pobl sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol. Ym mis Rhagfyr 2021, gwnaethom ddyrannu £60,000 i godi ymwybyddiaeth o undebau credyd er mwyn helpu i liniaru'r risg y gallai pobl droi at fenthycwyr cost uchel a benthycwyr anghyfreithlon. Arweiniodd hyn at gynnydd o 220% yn nifer y defnyddwyr o dudalen we Undebau Credyd Cymru, gan greu 3529 o geisiadau am fenthyciadau.Mae £20,000 pellach yn cefnogi ymgyrch fenthyca fforddiadwy yn y cyfnod cyn y Nadolig. Dyrannwyd £600k ychwanegol yn 2022 i 2023 i ehangu benthyca undebau credyd, gan gefnogi'r sector undebau credyd moesegol i wasanaethu aelodau newydd sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol.

Mae ein cefnogaeth i gostau byw wedi gweld buddsoddiad mewn amrywiaeth o raglenni sy'n rhoi arian yn uniongyrchol i mewn i bocedi pobl, gan helpu aelwydydd incwm isel i reoli costau tanwydd uwch a chwyddiant sy'n mynd allan o reolaeth.

Rydym wedi cefnogi dau Gynllun Cymorth Tanwydd sydd wedi helpu pobl ar incwm isel drwy roi taliad gwerth £200 nad yw'n ad-daladwy iddynt tuag at eu biliau ynni. Llwyddodd y cynllun cyntaf i gefnogi 166,000 o aelwydydd yn 2021 i 2022 ac rydym wedi cynyddu'r meini prawf cymhwystra fel y gall 200,000 o aelwydydd ychwanegol gael cymorth yn 2022 i 2023. Rydym hefyd yn rhoi arian i'r Fuel Bank Foundation i'w alluogi i helpu pobl y mae'n rhaid iddynt ragdalu am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Mae hyn yn cynnwys aelwydydd sydd â mesuryddion rhagdalu a'r rheini sy'n defnyddio tanwydd oddi ar y grid. 

Gwnaethom gyflwyno taliad costau byw o £150 i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor ac i bob aelwyd sy'n cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ym mhob un o fandiau'r dreth gyngor. Daeth y prif gynllun i ben ar 30 Medi 2022 a chafodd mwy na 977,000 o aelwydydd cymwys daliad. Rydym hefyd wedi rhoi taliad disgresiynol i awdurdodau lleol y gallant ei ddefnyddio i gefnogi aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi.

Mae dadansoddiad o gymorth Llywodraeth Cymru yn dangos ei fod wedi'i dargedu at y rheini sydd angen yr help mwyaf. Disgwylir y bydd tua 75% o aelwydydd yn cael cymorth mewn rhyw ffordd, ond bydd bron dwywaith yn fwy yn mynd i aelwydydd sydd yn hanner gwaelod y dosbarthiad incwm o gymharu â'r rheini sydd yn yr hanner uchaf a theirgwaith yn fwy i'r rheini sydd yn yr un rhan o bump isaf o gymharu â'r rheini yn yr un rhan o bump uchaf.

Pum maes lle gallwn wneud mwy nawr

Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn nodi pum maes blaenoriaeth lle y gallwn wneud mwy drwy'r opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella canlyniadau i aelwydydd incwm isel ar unwaith, sef: gofal plant, tlodi mewn gwaith, tlodi bwyd, tai ac adfywio a lleihau effeithiau’r mesurau diwygio lles.

Maes blaenoriaeth: gofal plant

Mae sicrhau bod gofal plant fforddiadwy a hygyrch ar gael yn sylfaenol er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant. Mae cefnogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd gwaith llawn amser a helpu’r ail berson yn yr aelwyd i gael gwaith yn hanfodol er mwyn lleihau nifer y plant sy'n byw mewn aelwydydd heb waith a lleihau lefelau tlodi mewn gwaith. Mae gofal plant o ansawdd hefyd yn cynnig mynediad at addysg a gofal plentyndod cynnar sy'n gwella cyfleoedd bywyd plant difreintiedig ac agored i niwed.

Gall diffyg gofal plant fforddiadwy fod yn rhwystr i rieni a gofalwyr sydd am fanteisio ar hyfforddiant a chyfleoedd gwaith. Mae Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer plant 3 a 4 oed cymwys yn ystod y tymor, a 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu am 9 wythnos o wyliau'r ysgol. Mae'r Cynnig ar gael i rieni cymwys sy'n gweithio neu sydd mewn addysg a hyfforddiant.

Yn ystod y pandemig, rhoesom y Cynnig Gofal Plant i’r naill ochr dros dro, a chyflwynwyd Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws. Roedd hwn yn cynnig manteision i weithwyr hanfodol a phlant agored i niwed, a hynny yn ei dro yn cefnogi sefydlogrwydd economaidd ac yn helpu i atal tlodi ledled Cymru yn ystod y pandemig. Yn ystod y cyfnod pan oedd y Cynllun ar gael, aethom ati i fuddsoddi £17 miliwn ynddo, ac i ddarparu gofal ar gyfer dros 900 o blant agored i niwed a 9,600 o blant gweithwyr hanfodol. Daeth y Cynllun i ben ym mis Medi 2020, a chafodd y Cynnig Gofal Plant ei adfer.

I gefnogi'r sector gofal plant ymhellach yn ystod y pandemig, fe wnaethom hefyd ymestyn cyfnod rhyddhad ardrethi busnes o 100% ar gyfer eiddo gofal plant cofrestredig. Bydd ymestyn rhyddhad ardrethi am 3 blynedd arall tan 31 Mawrth 2025 yn arbed tua £9.7 miliwn o gostau gorbenion i ddarparwyr gofal plant cofrestredig.

Roedd dros 18,755 o blant yn derbyn y Cynnig Gofal Plant ym mis Gorffennaf 2022.

Yn ôl canfyddiadau’r gwerthusiad annibynnol diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022, unwaith eto mae'r cynllun wedi bod yn cefnogi cyflogaeth rhieni. Nododd rhieni a holwyd ystod o effeithiau cadarnhaol yn sgil y Cynnig. Dywedodd bron i hanner ei fod wedi’u galluogi i gynyddu eu henillion, ac roedd bron i draean yn credu y byddent yn gweithio llai o oriau pe na bai'r Cynnig wedi bod ar gael iddynt. Yn bwysig iawn, dywedodd 9% o rieni na fyddent mewn gwaith oni bai am y Cynnig, a nododd 6% y byddent yn gweithio mewn swydd â chyflog is pe na bai'r Cynnig wedi bod ar gael iddynt.

Canfu'r gwerthusiad hefyd mai ymhlith y rhieni a oedd yn ennill incwm is yr oedd y Cynnig Gofal Plant yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf, a oedd yn fwy tebygol nag eraill o ddweud bod y Cynnig wedi’u galluogi i aros mewn gwaith, cynyddu eu horiau gwaith a/neu eu henillion. Roedd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt o ran sut maent yn gweithio, ac yn gwella eu cyfleoedd am hyfforddiant yn y gwaith.

Maes blaenoriaeth: tlodi mewn gwaith

Mae tlodi mewn gwaith yn broblem sy'n tyfu, ac mae gostyngiadau ym mudd-daliadau pobl o oedran gweithio, fel rhan o raglen diwygiadau lles Llywodraeth y DU, wedi effeithio ar hyn. Mae'r gostyngiadau wedi gadael teuluoedd incwm isel heb fawr ddim amddiffyniad i ymdopi â thwf isel eu henillion. Ochr yn ochr â hyn, mae costau tai wedi codi llawer mwy i aelwydydd incwm isel nag i aelwydydd incwm uwch, gan gymryd cyfran fwy o'u hincwm. Yn sgil gostyngiad yn lefelau aelwydydd heb waith, gwelwyd mwy o bobl sydd ar gyflogau isel, fel rhieni unigol, yn ymuno â’r gweithle.

Mae'r data dibynadwy diweddaraf ar gyfer y cyfnod 2017 i 2018 i 2019 i 2020 yn dangos bod 71% o blant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn aelwydydd a oedd mewn gwaith (tua 140,000 o blant). Mae hyn wedi cynyddu dros y pum cyfnod diwethaf o 60% yn ystod y cyfnod 2012 i 2013 i 2014 i 2015. Hefyd, roedd tua'r un gyfran o blant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn aelwydydd lle roedd pob oedolyn yn gweithio, o gymharu ag aelwydydd lle roedd un oedolyn yn gweithio, ond nid pob oedolyn. Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn tynnu sylw at dlodi mewn gwaith fel maes lle gallwn wneud mwy ar unwaith.

Mae gwella amodau yn y gweithle a mynd i'r afael â phroblem camfanteisio ar weithwyr yn ffactor pwysig wrth fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith.  Gan weithio gyda phartneriaid cymdeithasol ac eraill, rydym yn ymdrechu i gryfhau llais gweithwyr, hyrwyddo gwaith teg, a mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern. Trwy ein hymrwymiad i hyrwyddo gwaith teg, rydym yn annog mwy o gyflogwyr i fabwysiadu'r cyflog byw gwirioneddol a chynnig mwy o ddiogelwch i weithwyr o ran gwarantu nifer penodol o oriau gwaith. Mae hyn yn cynnwys targedu sectorau gofal cymdeithasol a manwerthu.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cysyniad o Gyflog Byw, yn unol â diffiniad y Living Wage Foundation. Rydym wedi arwain drwy esiampl fel cyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig. Yn gynharach eleni, cafodd £43m ei ddarparu i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd ar gyfer 2022 i 2023 i gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu'r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol, a fydd yn sicrhau codiad cyflog hanfodol i'r grŵp hwn o weithwyr allweddol. Rydym hefyd wedi llunio Canllaw i Weithredu'r Cyflog Byw drwy broses gaffael, a'i rannu gyda sefydliadau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector. Rydym hefyd yn cefnogi ac yn gweithio'n agos gyda Cynnal Cymru, partner achredu’r Living Wage Foundation yng Nghymru.

Drwy ein Contract Economaidd, mae cymorth ariannol Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â Gwaith Teg. Mae cyflogwyr sy'n buddsoddi yn eu gweithlu, mewn meysydd fel iechyd, sgiliau a chynnydd o ran dysgu a swyddi, yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith. Yn ogystal, mae ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau: Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach yn cefnogi amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn gallu cyfrannu a chyflawni eu potensial drwy chwalu'r rhwystrau i fod yn rhan o’r farchnad lafur a symud ymlaen.

Wrth edrych ymlaen, rydym yn mynd â'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus drwy gamau craffu’r Senedd. Nod y Bil yw sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol statudol a chyflwyno dyletswyddau newydd mewn perthynas â phartneriaeth gymdeithasol a chaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, a fydd yn cyfrannu at well darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a lles.

Dangosydd tlodi plant

Siart 3: plant yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl statws economaidd aelwydydd, cyfartaledd 3 blwyddyn ariannol
Image
Siart 3: plant yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl statws economaidd aelwydydd, cyfartaledd 3 blwyddyn ariannol

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Gartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog, Arolwg o Adnoddau Teulu, yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Maes blaenoriaeth: bwyd

Yn ystod y pandemig, dywedodd banciau bwyd fod y galw am fwyd gan bobl yr oedd yr argyfwng yn effeithio arnynt yn ddigynsail. Ar hyn o bryd, mae chwyddiant bwyd wedi cyrraedd ei lefel uchaf mewn 42 mlynedd, a rhagwelir y bydd yn codi ymhellach. Mae prisiau cyfartalog y bwydydd rhataf wedi cynyddu’n fwy nag eitemau bwyd eraill, sy'n golygu bod aelwydydd sydd eisoes yn prynu'r bwydydd rhataf wedi gweld eu biliau yn codi'n sylweddol, heb lawer o le i wneud arbedion. Mae hyn hefyd wedi ysgogi cynnydd yn y galw am ddarpariaeth bwyd brys.

Ers 2019 rydym wedi dyrannu £15.838 miliwn i fynd i'r afael â thlodi bwyd gan gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i ymateb i gynnydd yn y galw o ganlyniad i'r pandemig a'r argyfwng costau byw. Rydym hefyd yn cefnogi datblygu partneriaethau bwyd traws-sector a fydd yn cyfrannu at wytnwch tymor hirach drwy ganolbwyntio ar atal problemau a chynaliadwyedd, gan gydlynu gweithgarwch bwyd  ar lawr gwlad a sicrhau bod adnoddau yn targedu’r meysydd mwyaf anghenus.

Ar ddiwrnod Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) 2022 ym mis Chwefror 2022, roedd 100,305 o ddisgyblion yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim, ac roedd 14,687 o ddisgyblion yn gymwys drwy drefniant i’w hamddiffyn wrth bontio i’r system newydd. Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi dechrau cyflwyno cynllun prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd i 45,000 yn rhagor o ddisgyblion dosbarth derbyn, gyda'r nod o ddarparu pryd ysgol am ddim i bob disgybl cynradd erbyn 2024. Rydym hefyd wedi ymrwymo i adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim.

Yn sail i'r cynnig prydau ysgol am ddim mae Rheoliadau Bwyta'n Iach, sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol o ran darparu deiet cytbwys iach ac annog arferion bwyta da. Rydym yn bwriadu adolygu'r rheoliadau yn unol â'r safonau a'r canllawiau maeth diweddaraf.

Rydym yn parhau i gefnogi teuluoedd plant cymwys yn ystod y gwyliau tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2022 i 2023, i sicrhau nad yw plant o deuluoedd incwm is yn llwgu yn ystod gwyliau ysgol. Mae hyn yn adeiladu ar y ddarpariaeth drwy gydol y pandemig, gan ddod â'n buddsoddiad hyd yma i fwy na £100 miliwn.

Mae data CYBLD 2022 hefyd yn dangos bod 43,857 o blant wedi cael Brecwast Ysgol am Ddim. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol yn y ddarpariaeth a'r niferoedd. Roedd rhai ysgolion yn dal wrthi’n ailsefydlu eu darpariaeth brecwast yn dilyn y pandemig, a dyna sydd i’w gyfrif am y ffigurau. Yn ogystal, mae peilot yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i ddarparu lwfans o £1 ychwanegol i ddisgyblion Blwyddyn 7 ar draws Cymru sy'n cael prydau ysgol am ddim, i gael brecwast am ddim heb ddefnyddio eu credyd cinio.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i barhau â chynllun llaeth ysgolion. Mae'r cynllun ar gael i'r ysgolion hynny yng Nghymru sy'n optio i mewn, ac yn darparu llaeth am ddim i ddisgyblion y cyfnod sylfaen a chymhorthdal llaeth i'r rhai yn CA2.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i hybu’r arfer o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru. Rydym wedi cyhoeddi 2 arolwg er mwyn casglu barn ar sut i ddatblygu’r strategaeth, y cyntaf ar gyfer defnyddwyr a'r ail ar gyfer rhanddeiliaid sy'n ymwneud â mentrau bwyd cymunedol. Mae bwyd yn cysylltu cymunedau mewn llawer o ffyrdd buddiol, gan hyrwyddo nodau lles Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Ein nod yw strategaeth alluogi i rymuso systemau bwyd ar lefel gymunedol.

Maes blaenoriaeth: tai ac adfywio

Mae cael cartref addas, diogel yn cael effaith sylweddol ar gyfleoedd bywyd plentyn, gan gyfrannu at iechyd meddwl a chorfforol, lles a chanlyniadau addysgol.

Yn ystod y pandemig darparwyd cyllid a chanllawiau ychwanegol i awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau nad oedd neb yn cael ei adael heb y llety yr oedd ei angen arnynt i fod yn ddiogel. Erbyn diwedd Medi 2022, roedd dros 27,500 o bobl wedi cael llety dros dro ers Mawrth 2020, ac mae'r dull gweithredu a ddilynwyd yn parhau i fod ar waith heddiw.

Cyflwynwyd hefyd y Grant Caledi i Denantiaid, sy’n werth £10m, ar gyfer tenantiaid y sector preifat neu gymdeithasol a ddioddefodd ôl-ddyledion rhent difrifol o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig. Talwyd y grantiau yn uniongyrchol i landlordiaid neu eu hasiantau i glirio’r ôl-ddyledion, ac i gael gwared ar y bygythiad uniongyrchol o gael eu troi allan o achos yr ôl-ddyledion hynny.

Tlodi yw un o achosion sylfaenol digartrefedd. Mae ein Strategaeth ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd a'r cynllun gweithredu ategol yn ceisio gwneud digartrefedd yn rhywbeth prin, byrhoedlog, nad yw’n mynd yn batrwm a ailadroddir, drwy symud i system sy'n canolbwyntio ar atal problemau ac ailgartrefu’n gyflym, gan weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau bod pobl yn cael digon o gefnogaeth fel nad ydynt yn syrthio’n ôl i ddigartrefedd. Mae ein rhaglen yn cynnwys atal problemau penodol ar gyfer grwpiau risg, gan gynnwys y rhai sy'n profi camdriniaeth, y rhai sy'n gadael gofal a phobl sy'n gadael sefydliadau diogel. Mae dros £197 miliwn wedi'i ddyrannu i ddigartrefedd a chymorth tai i gefnogi'r nod hwn.

Mae ein Grant Cymorth Tai, sy’n werth £167 miliwn, yn atal digartrefedd ac yn helpu pobl i fyw'n annibynnol. Rydym hefyd yn darparu Cronfa Atal Digartrefedd, sy’n werth £6 miliwn, i awdurdodau lleol ar gyfer llety dros dro a mesurau atal a lleddfu digartrefedd.

Mae sicrhau prisiau fforddiadwy yn y Sector Rhentu Preifat i bobl sy'n derbyn budd-daliadau tai yn mynd yn fwyfwy heriol. A Llywodraeth y DU yn pennu cyfraddau Lwfans Tai Lleol, a’r cyfraddau hynny wedi’u rhewi ers Ebrill 2020 (yn seiliedig ar y 30ain canradd o renti ym mis Medi 2019), mae'r bwlch rhwng cyfraddau Lwfans Tai Lleol a rhenti presennol yn sylweddol. Mae data Swyddogion Rhenti Cymru ar gyfer y flwyddyn hyd at ddiwedd Medi yn dynodi diffyg, ar lefel Cymru gyfan, o 8.99%. Fodd bynnag, mae yna amrywiadau rhanbarthol sylweddol, a Chasnewydd a Mynwy sy’n dangos y gwahaniaethau mwyaf, sef 20.20% a 17.55% yn y drefn honno.

Gellir defnyddio cyllid y Taliad Disgresiwn at Gostau Tai, a weinyddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, i helpu i atal tenantiaid sydd yn derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai rhag mynd i ôl-ddyledion rhent. Fodd bynnag, cyllideb y Taliad Disgresiwn at Gostau Tai yng Nghymru yn 2022 i 2023 yw £6,349,254, sydd 26% yn llai na’r cyllid yn y flwyddyn flaenorol. Daw hyn wedi gostyngiad o 18% yn y cyllid yn 2021 i 2022 o'i gymharu â 2020 i 2021. Y cyllid ar gyfer y Taliad Disgresiwn at Gostau Tai yn 2022 i 2023 yw'r swm isaf y mae Cymru wedi'i dderbyn ers cychwyn polisi diwygio lles y DU.

I liniaru rhai o'r toriadau hyn a chefnogi tenantiaid, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £6 miliwn yn ychwanegol i awdurdodau lleol eleni ar gyfer Cronfa Atal Digartrefedd Ddewisol. Gall y gronfa hon ddarparu cefnogaeth ar unwaith i atal a lleddfu digartrefedd i'r rhai sydd mewn perygl trwy fesurau ataliol megis cynnig gwarant rhent, talu am ôl-ddyledion rhent fel rhan o becyn gweithredu i gynnal tenantiaeth ac ychwanegu at gyllid y Taliad Disgresiwn at Gostau Tai.

Ym mis Ionawr 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lansio Cynllun Lesio Cymru gan ymrwymo £30 miliwn dros y 5 mlynedd nesaf iddo. Diben Cynllun Lesio Cymru yw caniatáu i awdurdodau lleol lesio gan landlordiaid preifat a rhentu am rhwng 5-20 mlynedd dros 1,500 o eiddo rhent preifat hirdymor i bobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i rym ar 1 Rhagfyr 2022. Bydd y gyfraith newydd yn gwneud rhentu'n haws, yn darparu mwy o sicrwydd i denantiaid ac yn sicrhau bod cartrefi'n addas i bobl fyw ynddynt.

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad parhaus i dai cymdeithasol. Gan adeiladu ar lwyddiant targedau tai blaenorol, rydym wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod y tymor Senedd hon. I gefnogi'r ymrwymiad hwn mae'r lefelau uchaf erioed o gyllid wedi'u darparu. O 2020 i 2021 a 2022 i 2023, dyrannwyd £675 miliwn i'r Grant Tai Cymdeithasol gyda dyraniadau cyllideb ddrafft dangosol o £330m yn 2023 i 2024 a £325m yn 2024 i 2025. Er i'r gwaith o adeiladu tai barhau i raddau helaeth trwy gydol y pandemig, cyflwynodd nifer o heriau i'r diwydiant sy'n gwneud y targed o 20,000 yn heriol iawn.

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd wedi ymrwymo cyllideb o £50 miliwn dros ddwy flynedd i gefnogi perchnogion tai er mwyn gallu troi 2,000 o eiddo gwag yn gartrefi diogel. Bydd cyhoeddiadau pellach yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Rydym yn parhau i gefnogi tai fforddiadwy drwy'r rhaglen Swyddogion Galluogi Tai Gwledig. Mae’r Swyddogion hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi tai gwledig, gan weithio gyda chymunedau i nodi angen tai lleol. Mae £139,687 yn cael ei ddarparu yn 2022 i 2023 i barhau â'r rhaglen yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru.

Yn 2022 ymgynghorwyd ar Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 newydd sy'n cynnwys cynigion i gynyddu’n sylweddol y gofynion effeithlonrwydd ynni ar gyfer tai cymdeithasol i adlewyrchu ein huchelgeisiau o ran datgarboneiddio a lleihau biliau ynni i denantiaid.

Mae'r argyfwng costau byw ac ynni wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ein rhaglenni Cartrefi Clyd ac Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Rhwng 2010 a Mawrth 2021, mae mwy na 67,100 o aelwydydd incwm is wedi elwa arnynt, gan arbed dros £300 ar gyfartaledd ar eu biliau blynyddol. Mae Cartrefi Clyd Nyth yn darparu cyngor diduedd i aelwydydd ac yn eu cyfeirio at ystod o wasanaethau cymorth. Gall hefyd ddarparu pecyn o fesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref am ddim i aelwydydd cymwys fel system wresogi ganolog, boeler neu insiwleiddio. Yn ogystal â hynny, arweiniodd buddsoddiad gwerth £8 miliwn gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop yng nghynllun Arbed yn 2020 i 2021 at wella 1,032 o gartrefi ar ôl gosod 5,050 o fesurau drwy 22 o gynlluniau mewn 12 ardal awdurdod lleol. Mae'r cynllun bellach wedi cau. Daeth ymgynghoriad ar y fersiwn nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd i ben ar 1 Ebrill 2022. Bydd y cynllun Cartrefi Clyd Nyth presennol yn parhau ar waith tra bod gwasanaeth newydd a arweinir gan alw yn cael ei gaffael yn 2023, a bydd dull integredig ar draws pob deiliadaeth yn dilyn.

Gall buddsoddi mewn cymunedau fel eu bod yn darparu manteision cymdeithasol ac economaidd megis cyfleoedd gwaith a hamdden, chwarae rhan sylweddol wrth fynd i'r afael â thlodi. Cafodd ein Rhaglen Trawsnewid Trefi ei lansio ym mis Ionawr 2020 i fynd i'r afael â'r dirywiad yng nghanol trefi a dinasoedd. Mae'n buddsoddi £136m mewn trefi ledled Cymru ac rydym wedi ymrwymo £100m pellach dros dair blynedd yn ein cyllideb derfynol ar gyfer 2022 a 2023.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar arallgyfeirio a thwf cynaliadwy yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd, gan sicrhau cynnig ehangach o weithgareddau a defnyddiau gan gynnwys gofod busnes hyblyg, hamdden, gwasanaethau lleol a gweithgareddau diwylliannol. Mae'r ymyriadau'n cynnwys gwell bioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd ac ailddefnyddio adeiladau adfeiliedig.

Cyflwynodd y pandemig heriau enfawr i fasnachwyr a darparwyr gwasanaethau mewn canol trefi, gan gyflymu tueddiadau sydd wedi hen ennill eu plwyf megis twf gwerthiant ar-lein a phwysau ar y sector manwerthu. Yn ystod y cyfnod hwn, roeddem wedi gallu cyflwyno mwy o hyblygrwydd i'n grantiau Creu Lleoedd, gan ddyrannu arian i awdurdodau lleol allu gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid fel Ardaloedd Gwella Busnes i gefnogi datblygiad mannau masnachu awyr agored a manwerthu a lletygarwch diogel o ran COVID. 

Maes blaenoriaeth: lleihau effeithiau diwygio lles

Mae effaith rhaglen diwygio lles Llywodraeth y DU yng Nghymru wedi bod yn arbennig o aciwt i blant a theuluoedd a phobl â nodweddion gwarchodedig. Mae toriadau i fudd-daliadau oedran gweithio hefyd wedi arwain at dwf sylweddol mewn tlodi ymhlith pobl sy'n gweithio. Yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree, mae lefelau cymorth nawdd cymdeithasol yn parhau i fod ar isafbwyntiau hanesyddol, gyda'r gyfradd sylfaenol o fudd-daliadau ar ei hisaf mewn termau real ers 40 mlynedd ar ôl dros ddeng mlynedd o doriadau a rhewi. Ym mis Mawrth 2020, cynyddodd Llywodraeth y DU rai budd-daliadau lles allweddol o £20 yr wythnos i helpu pobl a effeithiwyd gan y pandemig. Fodd bynnag, tynnwyd y taliad ychwanegol hwn yn ôl ym mis Hydref 2021, ar yr un pryd ag yr oedd costau byw yn cynyddu, a wnaeth adael llawer o aelwydydd mewn sefyllfa ariannol ddyrys.

Rydym yn gweithredu ar draws Llywodraeth Cymru i helpu pobl sydd mewn sefyllfa ariannol fregus i ganfod a chael mynediad at y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Yn ddiweddar rydym wedi uno'r Gweithgor Cynyddu Incwm a Hawlio Budd-daliadau a’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddyledion i ffurfio un grŵp i ganolbwyntio ar helpu aelwydydd sy'n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol a phwysau ariannol parhaus sy'n deillio o'r pandemig. Fel rhan o'i gylch gwaith, mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynyddu Incwm yn ystyried ffyrdd o helpu pobl i gael mynediad at yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl i'w gael a chynnig llwybrau allan o ddyled mewn ffordd fforddiadwy i bobl sydd mewn sefyllfa ariannol fregus ac sy'n ei chael hi'n anodd ad-dalu eu dyledion.

Ym mis Tachwedd 2020 fe wnaethom gyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm sy'n nodi nifer o gamau gweithredu ymarferol i helpu i wneud y gorau o incwm, lleihau costau byw hanfodol a chefnogi cadernid ariannol:

  • Fe wnaethom ddatblygu strategaeth gyfathrebu i fynd i'r afael â phryderon bod pobl agored i niwed yn cael trafferth dod o hyd i wybodaeth am y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Hyd yn hyn, rydym wedi cynnal dwy ymgyrch ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ sydd wedi helpu mwy na 9,000 o bobl i gael gafael ar fwy na £2.7 miliwn mewn incwm ychwanegol. Mae ymgyrch newydd 'Yma i Helpu' bellach wedi'i lansio i gynyddu’r niferoedd sy'n manteisio ar fudd-daliadau sydd heb eu hawlio.
  • Rydym yn cefnogi darparu sesiynau hyfforddi ar-lein i weithwyr rheng flaen (DANGOS) sy'n anelu at gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael er mwyn gallu cynorthwyo defnyddwyr y gwasanaeth i hawlio'r cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Mae dros 650 o weithwyr rheng flaen wedi manteisio ar yr hyfforddiant hyd yn hyn ac rydym yn parhau i ddarparu’r sesiynau i fodloni’r galw ar draws Cymru.
  • O fis Hydref 2020 i fis Mawrth 2021, cynhaliodd gwasanaethau y Gronfa Gynghori Sengl chwe chynllun peilot 'Profi a Dysgu', gan ddarparu negeseuon a chefnogaeth wedi'u teilwra i annog pobl yn y grwpiau sydd leiaf tebygol o fod yn hawlio'r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo i wneud hynny. Cafodd dros 1,500 o bobl help i ddatrys 5,087 o faterion yn ymwneud â budd-daliadau nawdd cymdeithasol ac i hawlio dros £2.4 miliwn.
  • Gan weithio gydag awdurdodau lleol, ystyriwyd beth arall y gallem ei wneud i symleiddio’r broses ymgeisio ar gyfer budd-daliadau yng Nghymru a'i gwneud yn haws i deuluoedd hawlio'r holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo. Arweiniodd y gwaith hwn at gyhoeddi Arweinlyfr Arfer Gorau sy'n casglu ynghyd yr 'hyn sy'n gweithio' o ran gwneud budd-daliadau datganoledig yn fwy hygyrch i bobl sydd angen y cymorth hwn.

Yn ogystal, rydym wedi datblygu canllaw byr ar Gymorth Ariannol i Unigolion sydd wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan ac sydd ar gael mewn nifer o ieithoedd.

Er mwyn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ariannol sydd angen datrysiad di-oed, rydym ni wedi buddsoddi dros £15 miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i gynnal yr hyblygrwydd i'r Gronfa Cymorth Dewisol a gyflwynwyd yn ystod y pandemig, gan helpu mwy o bobl i dderbyn cymorth ariannol yn amlach. Rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Awst 2022, gwnaed dros 100,000 o ddyfarniadau gwerth cyfanswm o dros £11.1 miliwn. Roedd bron i £7 miliwn yn daliadau arian parod brys er mwyn helpu pobl i dalu cost bwyd a thanwydd. Mae data ar y defnydd o'r Gronfa Cymorth Dewisol bellach yn cael ei gyhoeddi ar wefan StatsCymru.

Edrych ymlaen

Rydym wedi canolbwyntio llawer o'n gweithgarwch i fynd i'r afael â thlodi dros y tair blynedd diwethaf ar ymateb i'r pwysau a ddaeth yn sgil ein ymadawiad â’r UE, y pandemig a nawr yr argyfwng costau byw.

Mae ein hymdrechion i atal a mynd i'r afael â thlodi yn digwydd ar adeg lle’r ydym wedi colli arian Ewropeaidd. Yn sgil trefniadau cyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl ymadael â’r UE, mae Cymru wedi colli £1.1 biliwn o gyllid o’r UE sydd heb ei gyflenwi o ffynhonnell arall. Mae hyn wedi golygu bod penderfyniadau caled yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ar draws y byd busnes, y sectorau addysg uwch ac addysg bellach, a'r trydydd sector a oedd wedi elwa ar Gronfeydd Strwythurol yr UE yn y gorffennol, i helpu i gryfhau ein heconomi ac atal tlodi. Yn ogystal, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael mynediad i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin neu rôl yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch sut mae'r Gronfa yn cael ei gweithredu yng Nghymru.

Mae Datganiad Llywodraeth y DU ar gyfer yr Hydref wedi golygu rhai dyraniadau ychwanegol i Gymru, £1.2bn dros y ddwy flynedd nesaf (2023 i 2024 a 2024 i 2025) ond ni fydd hyn yn llenwi'r bylchau sylweddol yn ein cyllideb nac yn bodloni'r pwysau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus. Mae Gweinidogion yn wynebu dewisiadau anodd iawn wrth iddynt gytuno ar Gyllideb 2023 i 2024. Mae setliad Cymru dros y cyfnod adolygu gwariant tair blynedd (2022 i 2023 i 2024 i 2025) yn dal yn is mewn termau real na'r disgwyl y llynedd. Mae effaith chwyddiant yn golygu y gallai ein setliad fod hyd at £3bn yn is mewn termau real a hyd at £1bn yn is y flwyddyn nesaf.

Yn ei Ddatganiad ar gyfer yr Hydref ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gynnydd mewn trethi a thoriadau gwariant a fydd yn rhoi pwysau ariannol pellach ar aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw.

Mae agwedd hirdymor at fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi yn bwysicach nag erioed os ydym am gael effaith fesuradwy a pharhaol ar dlodi yng Nghymru.

Ym mis Mawrth eleni, fe wnaeth y Cabinet ailddatgan ei ymrwymiad i ddull llywodraeth gyfan o fynd i'r afael â thlodi a chyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu o safbwynt tlodi.

Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn lansio ymgynghoriad ar Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig i Gymru gyda'r bwriad o gyhoeddi'r Strategaeth yn 2023. Caiff hyn ei lywio gan dystiolaeth o'n hadolygiad tlodi plant a ystyriodd beth arall sydd angen ei wneud i sicrhau bod y rhaglenni tlodi presennol yn cael yr effaith fwyaf ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Bydd yn tynnu ar ganfyddiadau adolygiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o'r hyn sy'n gweithio wrth fynd i'r afael â thlodi. Byddwn hefyd yn gofyn am farn pobl a sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys y rhai hynny sydd â phrofiad byw o dlodi. Rydym yn eich annog i ymgysylltu â ni ar hyn. Byddem yn croesawu eich barn yn fawr iawn.