Mae'r adolygiadau hyn yn archwilio strategaethau presennol i annog rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, gan ddefnyddio pren ar gyfer cynhyrchion gwerth uchel a'r manteision cymdeithasol cysylltiedig.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Rheoli coetiroedd yn gynaliadwy
Mae llawer o wledydd yn Ewrop yn rheoli eu coetiroedd trwy ddulliau rheoli coedwigoedd cynaliadwy gan gynnwys coedwigaeth gorchudd di-dor, llawrgwympo ac ailstocio. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall y ddau wneud cyfraniadau cadarnhaol i atafaelu carbon, gyda phren a echdynnwyd yn parhau i storio carbon os caiff ei ddefnyddio at ddibenion hirdymor ee. yn y diwydiant adeiladu. Dros y tymor hwy, mae'r gwahaniaeth mewn atafaelu carbon gan ddefnyddio gwahanol senarios rheoli yn llai amlwg.
Hyrwyddo pren fel cynnyrch adeiladu
Yn rhyngwladol, mae newidiadau i reoliadau, safonau a chodau adeiladu wedi eu hawgrymu neu eu cyflwyno i annog y defnydd o bren wrth adeiladu yn benodol.
Addysg a rhannu gwybodaeth
Nodwyd bod addysg a rhannu gwybodaeth yn ddull o annog:
- arferion coedwigaeth gynaliadwy
- defnyddio pren fel cynnyrch adeiladu ymhlith gweithwyr proffesiynol y diwydiant
- dfermwyr i ymgymryd ag arferion coedwigaeth cynhyrchiol drwy dynnu sylw at y manteision i'w fferm
Grantiau a chymorth ariannol
Nodwyd y defnydd o grantiau a chymorth ariannol yn y llenyddiaeth i annog arferion coedwigaeth cynaliadwy ac i gefnogi ffermwyr i arallgyfeirio i blannu coed a rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy.
Manteision cymdeithasol
Roedd manteision cymdeithasol diwydiant pren gwerth uchel a nodwyd yn y llenyddiaeth yn cynnwys:
- manteision ffisiolegol a seicolegol pren agored mewn adeiladau gan gynnwys mewn lleoliadau gofal iechyd
- cyfleoedd i gynyddu'r cyflenwad tai
- cyfleoedd i gyrraedd targedau cynaliadwyedd drwy ddefnyddio potensial storio carbon pren
- cyfleoedd gwaith sy'n gysylltiedig â diwydiannau newydd neu ddiwydiannau sy'n tyfu
Adroddiadau

Strategaethau ac ymyriadau i gefnogi'r diwydiant pren: adolygiad llenyddiaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 948 KB
Cyswllt
Aimee Krishan
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.