Neidio i'r prif gynnwy

Diben 

Cyhoeddir y canllawiau strategol hyn, sy'n disodli Cylchlythyr RSL 05/08, o dan adran 33B(1) o Ddeddf Tai 1996 ac maent yn nodi egwyddorion clir i gymdeithasau tai sy'n awyddus i uno neu sefydlu strwythurau grŵp a phartneriaethau1.  Mae'r canllawiau yn ymwneud â'r canlynol:

  • strwythurau grŵp Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, p'un a ydynt yn rhiant-gorff ar y grŵp neu'n is-gorff; a
  • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy'n ystyried creu strwythur grŵp neu ymuno ag un. 

Mae'r canllawiau hyn yn pwysleisio'r disgwyliadau o ran llywodraethu mewn perthynas ag achosion o uno, strwythurau grŵp a phartneriaethau fel y'u nodir yn Safon Reoleiddio 1 – Mae gan y sefydliad drefniadau arwain a llywodraethu strategol effeithiol sy'n ei alluogi i gyflawni ei ddiben a bodloni ei amcanion. 

Yr Amcanion Polisi yw

  • Diogelu tenantiaid a defnyddwyr gwasanaethau.
  • Diogelu tenantiaid a buddsoddiad cyhoeddus mewn tai cymdeithasol.
  • Diogelu enw da'r sector a chynnal hyder benthycwyr a chyllidwyr.
  • Sicrhau mai darparu tai cymdeithasol i'w rhentu fydd busnes craidd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru o hyd.
  • Sicrhau mai dim ond er mwyn cyflawni eu hamcanion a ganiateir/dibenion cymdeithasol eraill sy'n ymwneud â thai y defnyddir gwargedion a gynhyrchir gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
  • Caniatáu i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig strwythuro eu gweithrediadau yn effeithiol i gyflawni eu hamcanion a sicrhau bod unrhyw risgiau o weithredu mewn strwythur grŵp yn cael eu rheoli'n effeithiol.

Dyma'r Egwyddorion Rheoleiddio y disgwylir i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eu dilyn wrth asesu strwythurau grŵp.

  • Rhaid i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy'n rhan o grŵp naill ai fel rhiant-gorff neu is-gorff, sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r ‘Safonau Rheoleiddio’ a nodir yn Y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u Cofrestru yng Nghymru – Nodyn Ymarfer 
  • Rhaid i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig hysbysu'r Rheoleiddiwr ar unwaith pan fydd yn bwriadu sefydlu strwythur grŵp neu gymryd rhan mewn un neu sefydlu is-gorff heb ei gofrestru newydd a derbyn cyngor cyfreithiol neu gyngor proffesiynol arall fel y bo'n briodol y mae'n rhaid ei rannu â'r rheoleiddiwr os bydd yn gofyn amdano.
  • Rhaid i riant-gorff unrhyw strwythur grŵp fod yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru.
  • Rhaid i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy'n rhiant-gorff ddangos eu bod yn rheoli eu his-gyrff, gallu darparu tystiolaeth o lywodraethu da a chynnal goruchwyliaeth briodol, p'un a ydynt wedi'u cofrestru ai peidio.  Gallai goruchwyliaeth gynnwys cynrychiolaeth ar y bwrdd, adroddiadau gan is-gyrff i'r rhiant-gorff, archwilio'r is-gorff a sicrhau bod gan yr is-gorff bolisïau a gweithdrefnau priodol ar waith.
  • Rhaid i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy'n rhiant-gorff ddiffinio cylch gwaith pwerau / swyddogaethau'r is-gyrff a pha benderfyniadau a chamau gweithredu sy'n gorfod cael eu cymeradwyo gan y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy'n rhiant-gorff. Rhaid i denantiaid fod yn ddiogel, rhaid i wasanaethau fod o ansawdd uchel a rhaid rheoli cartrefi'n dda.
  • Rhaid diogelu enw da'r sector a chynnal hyder benthycwyr a chyllidwyr.
  • Dylai cynigion sy’n ymwneud â strwythur grŵp gael eu cyfleu’n glir i denantiaid a'u barn yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.
  • Rhaid sicrhau mai darparu tai cymdeithasol i'w rhentu fydd busnes craidd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru o hyd.
  • Rhaid sicrhau mai dim ond er mwyn cyflawni eu hamcanion a ganiateir/dibenion cymdeithasol eraill sy'n ymwneud â thai y defnyddir cyllid a ddarperir er mwyn helpu i gyflawni amcanion Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a gwargedion a gynhyrchir gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. 
  • Ni ddylid defnyddio stoc tai cymdeithasol fel sicrwydd uniongyrchol i ariannu gweithgareddau na fyddai'n helpu i gyflawni diben cymdeithasol/craidd y cymdeithasau tai. 
  • Rhaid strwythuro gweithrediadau i gyflawni'r amcanion a nodir yn effeithiol.
  • Rhaid i grwpiau asesu effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli yn rheolaidd a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion statudol a rheoleiddiol ac yn adlewyrchu arferion da cyfredol.
  • Rhaid i unrhyw risgiau i'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig ac i fuddiannau tenantiaid a rhanddeiliaid eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu mewn strwythur grŵp gael eu rheoli/lliniaru'n effeithiol.
  • Rhaid i gyfrifon blynyddol nodi strwythurau grŵp yn glir a sicrhau y caiff pob cydberthynas a thrafodyn, gan gynnwys cyllid, rhwng aelodau'r grŵp eu disgrifio mewn datganiadau ariannol unigol a datganiadau ariannol y grŵp fel y nodir ym Mhenderfyniad Cyffredinol (Cymru) 2015 ynghylch Gofynion Cyfrifyddu ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Rhaid i bob strwythur grŵp gydymffurfio â deddfwriaeth briodol ynglŷn â chwmnïau ac elusennau.
  • Rhaid i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy'n ystyried sefydlu strwythur grŵp neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy'n ystyried ymuno â strwythur grŵp sicrhau bod y strwythur arfaethedig:
  • yn gyson â diben ac amcanion y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig ac yn cyfrannu atynt.
  • yn galluogi'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig i fodloni'r holl ofynion rheoleiddiol.
  • er budd pennaf ei denantiaid a'i ddefnyddwyr gwasanaethau
  • yn ariannol hyfyw.

1Mae partneriaethau at ddibenion y canllawiau hyn wedi'u cyfyngu i bartneriaethau ffurfiol a allai fod â goblygiadau ariannol i'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, os nad ydych yn siŵr a yw'r canllawiau'n berthnasol cysylltwch â'r Rheoleiddiwr i gael eglurhad.