Neidio i'r prif gynnwy
Sue Tranka yw'r Prif Swyddog Nyrsio

Sue Tranka yw'r Prif Swyddog Nyrsio.

Penodwyd Sue Tranka yn Brif Swyddog Nyrsio Cymru a Chyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru yn nhymor yr haf 2021. Ers mis Ionawr 2020, bu’n Ddirprwy Brif Swyddog Nyrsio ar gyfer Diogelwch Cleifion ac Arloesi yn NHS England and Improvement. Penodwyd hi hefyd i swydd Cyfarwyddwr Atal a Rheoli Heintiau gan arwain y tîm cenedlaethol yn ei ymateb i gefnogi datblygu canllawiau, eu gweithredu ac adfer gwasanaethau’r GIG. Ers dechrau’r pandemig, mae diogelu staff a chleifion rhag trosglwyddiad nosocomiaidd COVID-19 wedi bod yn ganolbwynt allweddol o’i gwaith.

Mae gan Sue 29 mlynedd o amryw brofiadau ym maes nyrsio ac mae hi wedi treulio’r 22 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cafodd Sue ei hyfforddi yn fydwraig, yn nyrs gyffredinol gofrestredig, yn nyrs iechyd meddwl ac yn nyrs gymunedol. Mae gyrfa Sue wedi cynnwys rolau gweithredol ac arweinyddiaeth glinigol. Arweiniodd ei brwdfrydedd ynghylch diogelu cleifion a gwella ansawdd iddi sefydlu ac arwain Tîm Allgymorth Gofal Critigol mewn ysbyty yng ngogledd Llundain. Mae swyddi arweinyddiaeth a nyrsio ymgynghorol Sue wedi canolbwyntio yn bennaf ar y maes diogelu ac mae ganddi ddiddordeb cadarn mewn gwella ansawdd, ffactorau dynol a systemau diogelu.

Yn fwy diweddar, mae Sue wedi ymgymryd â rôl Prif Swyddog Meddygol ar lefel Bwrdd mewn sefydliad darparu. Gwnaethpwyd hi yn Athro Gwadd Anrhydeddus gan Brifysgol Surrey ac mae hi wedi sefydlu cysylltiadau â Phrifysgol Swydd Stafford fel cynghorydd proffesiynol ar raglenni ffactorau dynol.

Ym mis Hydref 2020, rhestrwyd Sue ymhlith y 50 o bobl fwyaf dylanwadol o gefndir du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ym maes iechyd yng nghyfnodolyn y Gwasanaeth Iechyd. Ym mis Rhagfyr 2021 dyfarnwyd cymrodoriaeth i Sue gan Sefydliad Nyrsio'r Frenhines.

Sue Tranka

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.