Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ofyn am gyfarwyddyd SIP a pha fanylion i'w gynnwys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Prosiectau eraill a all fod yn brosiectau seilwaith arwyddocaol

Mae'r rhan fwyaf o brosiectau seilwaith arwyddocaol (SIPs) wedi'u rhestru yn y Ddeddf, fodd bynnag, gall Gweinidogion Cymru hefyd gynnwys datblygiadau eraill yn y gyfundrefn gydsynio. Gall Gweinidogion Cymru hefyd ddileu rhai datblygiadau o'r gyfundrefn. Mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud drwy Gyfarwyddyd o dan adran 22 neu adran 24 o'r Ddeddf. 

Caiff Gweinidogion Cymru wneud y cyfarwyddiadau hyn yn unochrog neu yn dilyn cais i Weinidogion Cymru gan ddatblygwr.

Pa brosiectau y gellir eu cynnwys yn system

Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol:

  • os bydd y datblygiad, ar ôl ei gwblhau, yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,
  • mae'r datblygiad yn brosiect, neu yn rhan o brosiect mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod o arwyddocâd cenedlaethol, naill ai ynddo'i hun neu pan gaiff ei ystyried gydag un neu fwy o brosiectau eraill, ac
  • mae'r datblygiad yn brosiect neu'n rhan o brosiect (neu brosiect arfaethedig) o'r fath a bennir mewn rheoliadau.

Mae'r rhestr o brosiectau y gellir eu cynnwys yn cael eu nodi yn Atodlen 1 o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 (y Rheoliadau). 

Pryd mae prosiect o arwyddocâd cenedlaethol

Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth ystyried a ddylid cyhoeddi cyfarwyddyd, benderfynu a yw'r datblygiad yn brosiect o arwyddocâd cenedlaethol, neu'n rhan o brosiect o'r fath 

Caiff pob prosiect ei asesu fesul achos. Fodd bynnag, y prif ystyriaethau fydd:

  • A yw'n debygol y bydd angen nifer o ganiatadau neu awdurdodiadau ar brosiect, ac a fyddai'r prosiect, o ganlyniad, ar ei ennill o'r broses gydsynio sengl.
  • A yw'r prosiect yn gysylltiedig â phrosiect seilwaith arwyddocaol sy'n cael ei gyflwyno ar yr un pryd, ac felly byddai ar ei ennill pe bai'r cynllun yn cael ei ystyried fel un cais.
  • A yw'r datblygiad arfaethedig yn bwysig i gyflawni prosiect seilwaith arwyddocaol  – mae'n rhan o brosiect seilwaith arwyddocaol er enghraifft.
  • A yw'r cynnig yn cynhyrchu effeithiau economaidd, amgylcheddol neu effeithiau eraill posibl a allai fod yn arwyddocaol ar draws ardal eang.

Beth fyddai'r effaith pe bai'r prosiect yn cael ei gynnwys yn y gyfundrefn

Pan fydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo bod prosiect yn brosiect seilwaith arwyddocaol, maent yn gallu cyfarwyddo:

  • bod cais wedi'i wneud eisoes o dan gyfundrefn gydsynio arall yn cael ei ystyried yn gais am gydsyniad seilwaith, neu
  • bod cais arfaethedig yn cael ei ystyried yn gais arfaethedig am gydsyniad seilwaith.

Pan fydd cais eisoes wedi cael ei wneud, rhaid i'r awdurdod perthnasol (yr awdurdod y mae'r cais wedi cael ei wneud iddo) atgyfeirio'r cais i Weinidogion Cymru.

Pan gyfarwyddir bod prosiect yn brosiect seilwaith arwyddocaol, mae'r gofynion yn Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025 yn gymwys.

Yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos, gall Gweinidogion Cymru gyfarwyddo na fydd gofynion y gyfundrefn prosiectau seilwaith arwyddocaol yn berthnasol. Mae hyn yn berthnasol pan dderbynnir bod rhai camau gweithredu neu brosesau sydd eisoes wedi cael eu cymryd ar gyfer y prosiect, er enghraifft yn ymwneud â gofynion cyhoeddusrwydd a hysbysu, yn bodloni gofynion tebyg yn y broses prosiectau seilwaith arwyddocaol.

Tynnu prosiectau trawsffiniol o'r broses

Mae adran 24 o'r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo na ddylai datblygiad gael ystyried yn brosiect seilwaith arwyddocaol.

Dim ond pan fydd y datblygiad yn rhannol yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru y gellir gwneud cyfarwyddyd adran 24. Mae'r pŵer yn darparu hyblygrwydd er mwyn caniatáu i brosiectau trawsffiniol gael eu hasesu o dan y gyfundrefn gydsynio fwyaf priodol. 

Gwneud cais am gyfarwyddyd

Bydd er budd datblygwyr, lle bynnag y bo modd, i gyflwyno unrhyw geisiadau am gyfarwyddiadau o dan adrannau 22 a 24 o'r Ddeddf cyn i unrhyw waith sylweddol sy'n gysylltiedig â gwahanol gyfundrefnau cydsynio gael ei wneud.

Beth y mae'n rhaid ei gynnwys mewn cais am gyfarwyddyd adran 22

Cynnwys y datganiad o resymau

Bydd angen i'r datganiad nodi'r disgrifiad o'r prosiect penodol o dan Atodlen 1 i Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 y byddai'r datblygiad arfaethedig yn dod oddi tano.

Dylai datblygwyr nodi, ar gyfer rhai categorïau o brosiect yn Atodlen 1, fod capasiti neu faint prosiectau y gellir eu pennu yn brosiectau seilwaith arwyddocaol eisoes wedi cael ei ddiffinio.  Er enghraifft, dim ond os disgwylir iddo fod â chapasiti cynhyrchu gosodedig o fwy na 35 megawat ond llai na 50 megawat y gellir cyfarwyddo y dylid ystyried prosiect i adeiladu gorsaf ynni solar neu orsaf ynni gwynt yng Nghymru neu ardal forol Cymru yn brosiect seilwaith arwyddocaol.

Dylai'r brif ran o'r datganiad wedyn nodi rhesymau'r datblygwr dros geisio cyfarwyddyd.

Mae hefyd yn ddefnyddiol i geisiadau adran 22 gynnwys datganiad ynghylch a yw'r datblygwr o'r farn y dylai Gweinidogion Cymru ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes ar gyfer y prosiect at ddibenion cyfundrefn gydsynio wahanol (megis gofynion ymgynghori neu gyhoeddusrwydd), gyda'r bwriad o gyfarwyddo bod y camau hyn yn bodloni darpariaethau cyfatebol perthnasol yn y gyfundrefn prosiectau seilwaith arwyddocaol. Dylai datblygwyr gyfeirio at Reoliad 8 o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025.

Hysbysu pobl am gais am gyfarwyddyd adran 22

Wrth wneud cais am gyfarwyddyd adran 22, mae'n ofynnol i'r datblygwr roi hysbysiad i'r awdurdod perthnasol a fyddai'n gyfrifol am benderfynu ynghylch y datblygiad arfaethedig os na wneir y cyfarwyddyd.

Mae'n ofynnol i'r datblygwr hefyd roi hysbysiad i unrhyw awdurdod cydsynio perthnasol a fyddai'n gyfrifol am benderfynu ynghylch unrhyw gydsyniadau neu awdurdodiadau sy'n gysylltiedig â'r datblygiad arfaethedig. 

Beth y mae'n rhaid ei gynnwys mewn cais am gyfarwyddyd adran 24

Dim ond os bydd y datblygiad (ar ôl iddo gael ei gwblhau) yn rhannol yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru y gellir gwneud cais am gyfarwyddyd adran 24.

Cynnwys y datganiad o resymau 

Rhaid i'r cais gynnwys datganiad o'r rhesymau sy'n nodi pam y dylai Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd yn nodi nad yw'r cynnig yn brosiect seilwaith arwyddocaol. Dylai'r datganiad nodi'r broses gydsynio y mae'r datblygwr yn ystyried mai dyna'r un fwyaf priodol ar gyfer y prosiect penodol. 

Beth os oes angen rhagor o wybodaeth?

Gall Gweinidogion Cymru benderfynu bod angen gwybodaeth ychwanegol arnynt er mwyn llywio eu penderfyniad. Rhaid i Weinidogion Cymru wneud ceisiadau am wybodaeth ychwanegol gan y datblygwr o fewn 15 diwrnod. 

Rhaid i gais gan Weinidogion Cymru i'r datblygwr am ragor o wybodaeth gynnwys:

  1. manylion yr wybodaeth bellach sydd ei hangen, ac
  2. y dyddiad cau ar gyfer Gweinidogion Cymru yn derbyn yr wybodaeth bellach.

Pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud cais am wybodaeth ychwanegol, rhaid iddynt benderfynu a ddylid rhoi'r cyfarwyddyd neu beidio o fewn 29 diwrnod i'r dyddiad cau ar gyfer cael ymateb gan y datblygwr.

Wrth ystyried ceisiadau am gyfarwyddiadau o dan adran 22 o'r Ddeddf, gall Gweinidogion Cymru hefyd ofyn am ragor o wybodaeth gan unrhyw awdurdod a fyddai'n gyfrifol am gydsynio i'r datblygiad arfaethedig pe na bai'n cael ei ystyried yn brosiect seilwaith arwyddocaol.

Faint o amser y bydd gwneud penderfyniad yn ei gymryd

Pan fydd Gweinidogion Cymru yn derbyn cais sy'n cynnwys yr wybodaeth y gofynnwyd amdani, rhaid iddynt benderfynu a ddylid rhoi'r cyfarwyddyd neu beidio o fewn 29 diwrnod.

Pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd o dan adrannau 24, rhaid iddynt gyhoeddi'r cyfarwyddyd a gosod datganiad gerbron Senedd Cymru i esbonio ei ddiben a'i effaith.

Sut i herio penderfyniad

Dim ond drwy adolygiad barnwrol y gellir herio cyfarwyddiadau a wneir o dan adrannau 22 a 24.

Atodiad A: pa fanylion i'w cynnwys mewn cais am gyfarwyddyd adran 22

Gwybodaeth a ofynnwyd gan ymgeiswyr er cefnogi cyfarwyddyd adran 22:

  • Enw'r sawl sy'n gwneud cais
  • Cyfeiriad y sawl sy'n gwneud cais
  • Cyfeiriad e-bost y sawl sy'n gwneud cais
  • Rhif ffôn y sawl sy'n gwneud cais
  • Cysylltiad â'r prosiect
  • Disgrifiad o'r datblygiad, gan gynnwys maint a, phan fydd hynny'n berthnasol, y capasiti cynhyrchu
  • Manylion y caniatadau/cydsyniadau perthnasol sydd eu hangen os nad yw'r prosiect yn cael ei ystyried yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
  • Enw a chyfeiriad yr awdurdod cydsynio/penderfynu perthnasol.
  • Cadarnhad bod yr wybodaeth ganlynol wedi cael ei chyflwyno gyda'r cais
  • ar gyfer datblygiad arfaethedig yng Nghymru, plan wedi ei luniadu ar raddfa a nodir sy’n dangos cyfeiriad y gogledd,
    • ar gyfer datblygiadau arfaethedig yn ardal forol Cymru, gyfesurynnau sy’n nodi’r lleoliad y mae’r cais yn ymwneud ag ef,
      • unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r datblygiad arfaethedig,
      • datganiad o resymau sy’n nodi pam y dylai Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu bod y datblygiad arfaethedig yn brosiect seilwaith arwyddocaol,
      • rhestr o unrhyw gydsyniadau adran 20 a fyddai’n ofynnol pe na bai’r datblygiad arfaethedig wedi ei bennu yn brosiect seilwaith arwyddocaol drwy gyfarwyddyd, a
      • rhestr o unrhyw gydsyniadau eraill y gellid eu tybio neu y gellid dileu’r gofyniad ar eu cyfer drwy ddarpariaeth mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith, a all fod yn ofynnol ar gyfer y datblygiad arfaethedig.
  • Cadarnhad bod yr awdurdodau perthnasol sydd â hawl i ganiatâd/penodi wedi cael hysbysiad o'r cais adran 22.

Atodiad B: pa fanylion i'w cynnwys mewn cais am gyfarwyddyd adran 24

Gwybodaeth a ofynnwyd gan ymgeiswyr er cefnogi cyfarwyddyd adran 24:

  • Enw'r sawl sy'n gwneud cais
  • Cyfeiriad y sawl sy'n gwneud cais
  • Cyfeiriad e-bost y sawl sy'n gwneud cais
  • Rhif ffôn y sawl sy'n gwneud cais
  • Cysylltiad â'r prosiect
  • Disgrifiad o'r datblygiad, gan gynnwys maint a, phan fydd hynny'n berthnasol, y capasiti cynhyrchu
  • Manylion y caniatadau/cydsyniadau perthnasol sydd eu hangen os nad yw'r prosiect yn cael ei ystyried yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
  • Enw a chyfeiriad yr awdurdod cydsynio/penderfynu perthnasol.
  • Datganiad o resymau sy’n nodi pam dylai Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu nad yw'r datblygiad arfaethedig yn brosiect seilwaith arwyddocaol.

Nid yw'r wybodaeth ganlynol yn ofynnol gan y Rheoliadau ond bydd yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru wrth ystyried ceisiadau am gyfarwyddiadau adran 24: 

  • Plan wedi ei luniadu ar raddfa a nodir sy’n dangos cyfeiriad y gogledd,
  • Ar gyfer datblygiadau arfaethedig sy'n rhannol yn ardal forol Cymru, gyfesurynnau sy’n nodi’r lleoliad y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
  • Unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r datblygiad arfaethedig.