Neidio i'r prif gynnwy

Anerchiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Digwyddiad ar y cyd â Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

Ymchwil sy dan sylw yn y sesiwn heddi. Ond dwi isie dechrau drwy wneud ymchwil bach fy hun. Dyma ddechrau, felly.

Codwch eich llaw os yw pawb chi’n nabod sy’n siarad Cymraeg yn mynd ma’s o’u ffordd nhw i ofyn am wasanaethau Cymraeg. O’n i’n meddwl jyst.  

Codwch eich llaw os ych chi eich hunain yn ei chael hi’n anodd deall y Gymraeg ar rai gwasanaethau cyhoeddus Cymraeg. O’n i’n meddwl jyst. Dwi bendant yn weithiau.

Codwch eich llaw os ych chi’n nabod rhywun sy’n siarad Cymraeg fyddai ddim yn breuddwydio neud rhywbeth ffurfiol neu ar dechnoleg yn Gymraeg. Dwi bendant yn.

Diwedd ar y pôl piniwn bach ‘na: mae’n amlwg bod lot o mileage da ni i neud mwy o waith i helpu pobl i ddefnyddio eu Cymraeg nhw le dŷn nhw ddim yn neud ‘na ar hyn o bryd.

Mae CDPS wedi bod yn cydweithredu ‘da ni i wneud peth o’r gwaith ‘na yr wythnos ‘ma, sef ymchwil ar faes y steddfod.

Diolch i chi yn CDPS am hynny—dwi’n edrych ymlaen at glywed canlyniadau nes mlaen ac at barhau i gydweithio gyda chi.

Ond ma set arall o ganlyniadau am y Gymraeg yn dod mas eleni, sef y cyfrifiad.

Dwi ddim yn gwybod be mae’r canlyniadau ‘na yn mynd i ddweud. A jyst i bwysleisio: dwi ddim yn cael rhagflas, dim previews. Dwi’n mynd i gael gwybod ar yr union un pryd â chi.

Ond beth bynnag maen nhw’n ddweud, mae’n gweledigaeth ni yn gadarn. Mwy o bobl yn medru’r Gymraeg, mwy yn ei defnyddio hi. Ac i bwysleisio, does na’r un ystadegyn am ddefnydd iaith yn y cyfrifiad.

Dwi’n treulio lot o’n amser i yn dweud bod y Gymraeg yn perthyn i ni gyd. Mae’n bwysig i mi neud, achos dyw pawb yn teimlo bod hi’n perthyn iddyn nhw.

Dwi hefyd yn treulio lot o’n amser i yn annog pobl i ddefnyddio faint bynnag o Gymraeg sydd ‘da nhw hyd yn oed os nad yw e ‘di bod yn rhan o’u rwtîn nhw ers sbel.

Mae’n bwysig i mi neud achos dyw pawb yn defnyddio eu Cymraeg nhw mor aml ag y gallen nhw—ac mae ’na lot o resymau am hynny.

Falle bydd yr ymchwil yn sôn am rai - ond sai’di cael preview o hwnnw chwaith!

Ers y chwedegau, mae lot o bwyslais ‘brwydr’ yr iaith wedi bod ar wasanaethau cyhoeddus. A dwi’n deall hynny—mae lot ohonyn nhw, ni gyd yn eu defnyddio nhw ar ryw bwynt, ac ma da ni ‘levers’ drostyn nhw i neud nhw’n Gymraeg.

Ond wrth ddeddfu i neud yn siŵr bod sefydliadau’n darparu gwasanaethau Cymraeg, ydy hynny ‘di agor y llifddorau i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r gwasanaethau hynny?

Dwi ddim yn siŵr ei fod e wedi cael canlyniadau cystal ag y bydden ni - caredigion y Gymraeg - wedi ei ddymuno.

Hynny yw, ydyn ni, yn hanesyddol, ‘di talu digon o sylw i brofiad y bobl alle ddefnyddio’r gwasanaethau hynny yn Gymraeg?

Ydyn ni’n trefnu, dylunio ac yn darparu pethe, ambell waith heb edrych ar be fyddai’n helpu i’n cyd-siaradwyr ddefnyddio’r pethe ‘na?

Mae dylunio gyda’r defnyddiwr yn ganolog (user-centred design) yn gyffredin iawn mewn meysydd eraill a dwi’n arbennig o falch i weld bod e mor ganolog i waith CDPS.

Odyn ni wedi bod yn neud digon ohono fe ym maes y Gymraeg? Nadyn. Neu byddai mwy o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn defnyddio gwasanaethau yn Gymraeg. ‘Na pam dwi mor falch o’r cydweithredu rhyngon ni.  

Odyn ni’n ofni beth fydd ymateb y defnyddiwr? Falle. Mae’r gwir yn brifo, ond dwi’n seilio popeth dwi’n ei neud ar realiti bywydau siaradwyr Cymraeg. Does pwynt neud fel arall. Y defnyddiwr Cymraeg ynghanol popeth. Na pam ma ymchwil mor bwysig. Realiti check.

Odyn ni’n ddigon dewr i fod eisiau newid? Gobeithio wir. Felly defnydd o’r Gymraeg, mwy na jyst darpariaeth. Pobl, mwy na jyst proses.

Mae da ni uchelgais mawr ar gyfer defnydd o’n hiaith ni a chynlluniau mawr i ddod â’r uchelgais yn fyw ac ych chi yn CDPS yn rhan ganolog o hynny. Dyblu’r defnydd dyddiol o’n hiaith ni erbyn 2050.

A sôn am ddefnydd o’n hiaith ni, gadwch imi fod yn blaen. Ma hwnna ’di bod bach yn broblematig dros y ddwy flynedd diwetha’ gyda’r holl gyfarfodydd fideo ni’di cael.

O’r blaen, bydden ni i gyd yn eistedd yn yr un stafell a chyfieithydd ar y pryd yn helpu’r bobl sy ddim yn deall Cymraeg. Fel sy da ni heddi.

Ond nage felly oedd hi. O’n i’n defnyddio llai o Gymraeg dros nos am fod Microsoft teams ddim yn galluogi cyfieithu ar y pryd.

Ond mae newid yn dod, a ni yn llywodraeth cymru ‘di cydweithio gyda Microsoft i sicrhau bod cyfieithu ar y pryd (gan bobl, nid robot!) Ar gael yn teams:

  • bydd e’n ymddangos heb i chi orfod wneud dim  
  • heb i chi orfod talu trwydded newydd  
  • heb i chi orfod gosod unrhyw beth extra

Cymraeg yn arwain y byd - bydd ieithoedd ledled y byd yn gallu ei ddefnyddio ar sail ein gwaith ni yng Nghymru.

Felly pan fydd e ar gael, wedi’i brofi ar ein systemau ni (ac mae’n rholio mas ledled y byd drwy fis Awst felly fydd e ddim ar gael i bawb yn syth), licen i gyrraedd sefyllfa le yn y cyfarfodydd hynny dwi’n eu cynnal ac yn eu cadeirio, bydd pobl yn siarad yn rhwydd—yn Gymraeg neu yn Saesneg yn gyfan gwbl ddi-drafferth.

A Chymraeg fydda i’n ei defnydd i gadeirio.

Mae lot o ngwaith i am newid ymddygiad, a dyma un o’r ymddygiadau ni’n gorfod newid:

  • sef bod hi’n iawn siarad yn y naill iaith a derbyn ateb yn y llall
  • bod hi’n iawn pontio rhwng dwy iaith ein gwlad ni yn hawdd drwy dechnoleg
  • ni angen dathlu Cymraeg ‘goddefol’ (passive) lot yn fwy nag y’n ni’n neud a bydd teams yn helpu ni wneud hynny
  • achos bydd mwy ohonon ni’n clywed Cymraeg a bydd hwnna yn ei dro yn helpu pawb

Fyddech chi sy’n medru’r Gymraeg yma heddi yn folon dilyn fy arweiniad a dechrau cael sgyrsiau dwyieithog ar teams? Rhowch gynnig arni.

Felly dyma fi’n dod i derfyn y mhwt bach i heddi a dyma fi’n crynhoi:

  • mae’n bwysig bo ni’n rhoi’r defnyddiwr Cymraeg ynghanol popeth ni’n ei gynllunio
  • mae’n bwysig bod cynnwys Cymraeg yn hawdd i siaradwyr Cymraeg ei ddeall a’i ddefnyddio  
  • mae’n bwysig bod ni’n seilio popeth ar realiti, nid jyst dyhead a bydd yr ymchwil ni ar fin clywed amdano fe yn gyfraniad mawr i hynny