Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori'r cyhoedd cyn prawf rhybuddion argyfwng cenedlaethol ar 7 Medi, gyda chanllawiau penodol i'r rhai a allai fod yn cadw ffôn symudol cudd am resymau diogelwch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar y dyddiad hwnnw, bydd prawf rhybuddion argyfwng yn cael ei anfon at bob ffôn symudol ledled y DU. Bydd y rhybudd yn cynhyrchu sain uchel a dirgryniad ar bob dyfais gydnaws, hyd yn oed os ydynt wedi'u gosod i fod yn dawel, oni bai bod rhybuddion argyfwng wedi'u diffodd ymlaen llaw.

Gall hyn gyflwyno risg diogelwch i unigolion sy'n profi cam-drin domestig sy'n cadw ffôn cudd ar gyfer ei defnyddio mewn argyfwng. Os yw dyfais o'r fath yn gwneud sŵn yn annisgwyl, gallai ddatgelu ei phresenoldeb. Mae'n bwysig nodi na fydd rhybuddion argyfwng go iawn yn dod gyda rhybudd cyhoeddus ymlaen llaw fel y prawf hwn, felly mae angen i unigolion wneud penderfyniadau nawr ynghylch diffodd rhybuddion ar ddyfeisiau cudd.

Er mwyn atal ffonau cudd rhag cael eu canfod, gellir diffodd rhybuddion argyfwng ymlaen llaw. Ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau iPhone ac Android, gellir gwneud hyn trwy chwilio am 'emergency alerts' yn y gosodiadau a diffodd 'severe alerts' ac 'extreme alerts'.

Ar gyfer mathau eraill o ffonau symudol neu dabledi, gallai'r gosodiadau hyn ymddangos o dan enwau gwahanol fel 'wireless emergency alerts' neu 'emergency broadcasts'.

Mae llwybrau cyffredin yn y gosodiadau yn cynnwys:

  • Messages > Message Settings > Wireless Emergency Alerts > Alerts
  • Settings > Sounds > Advanced > Emergency Broadcasts
  • Settings > General Settings > Emergency Alerts

Ym mhob achos, dylai defnyddwyr ddiffodd 'severe alerts', 'extreme alerts', a 'test alerts' ar eu ffonau cudd.

Mae cymorth ar gael i unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig. Mae'r llinell gymorth Byw Heb Ofn yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim drwy ffonio 0808 80 10 800.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys mynediad at wasanaethau lleol, ar gael ar wefan Byw Heb Ofn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

“Rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru fod yn ddiogel ac yn wybodus. Er bod rhybuddion argyfwng wedi'u cynllunio i'n hamddiffyn ni i gyd, rydym yn deall y gallant achosi pryder i'r rhai mewn sefyllfaoedd agored i niwed sydd ag ail ffôn cudd er mwyn eu diogelwch.

“Trwy rannu'r canllawiau hyn ymlaen llaw, rydym yn gobeithio helpu unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus, gan gadw mynediad at rybuddion a allai achub bywydau yn ystod argyfyngau go iawn ar eu prif ffonau.

“Rwyf hefyd yn annog unrhyw un mewn cartref anniogel i ofyn am gymorth. Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn darparu cymorth a chyngor cyfrinachol i unrhyw un sy'n chwilio am ddyfodol mwy diogel.”