Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar yr hyn y dylech feddwl amdano wrth ddefnyddio technoleg ddigidol a dysgu am bethau newydd ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw meddwl yn feirniadol?

Mae'r rhyngrwyd yn llawn gwybodaeth a chyfleoedd defnyddiol. Fodd bynnag, mae llawer o wybodaeth anghywir neu gamarweiniol ar-lein. Felly, mae angen inni feddwl yn feirniadol wrth archwilio’r rhyngrwyd a dysgu am bethau newydd.

Meddwl yn feirniadol yw'r gallu i ddadansoddi gwybodaeth yn effeithiol a llunio barn.

Er mwyn meddwl yn feirniadol, rhaid i chi fod yn ymwybodol o'ch rhagfarnau a'ch rhagdybiaethau eich hun wrth ddod ar draws gwybodaeth, a defnyddio safonau cyson wrth werthuso ffynonellau.

Twyllwybodaeth a chamwybodaeth

Mae yna lawer o ffyrdd y gall pobl ledaenu gwybodaeth ffug ar-lein. Mae'r term newyddion ffug yn cael ei ddefnyddio'n aml.Gallai gwybodaeth gamarweiniol yr adroddir ei bod yn wir gael eidefnyddio i niweidio enw da unigolyn neu sefydliad; yn anffodusmae’n aml yn gredadwy iawn ac mae'n hawdd iawn cael eich dalallan.

Twyllwybodaeth

Straeon ffug neu gamarweiniol sydd wedi’u creu a’u rhannu’n fwriadol.

Camwybodaeth

Mae hyn hefyd yn golygu straeon ffug neu gamarweiniol. Yn yr achos hwn, efallai na fydd y straeon wedi'u creu na'u rhannu'n fwriadol gyda'r bwriad o gamarwain.

Swigod hidlydd asiambrau adlais ar ycyfryngau cymdeithasol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn wych ar gyfer dod o hyd i newyddion sy’n torri neu wybodaeth. Ond, nid yw'r holl wybodaeth a welwn neu a glywn yn mynd i fod yn wir. Mae'n bwysig ein bod ni'n meddwl cyn i ni rannu cynnwys rydyn ni'n dod o hyd iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Swigen hidlydd

Mae hyn yn digwydd yn oddefol ar y cyfryngaucymdeithasol. Bydd y pethau yr ydych yn eu hoffi a'chrhyngweithiadau yn effeithio ar yr algorithm digidol i ddangospethau sy'n cefnogi'r pethau rydych chi'n eu hoffi a'u cefnogi ynunig.

Siambr adlais

Mae hyn yn digwydd trwy ein rhagfarn ddiarwybodein hunain tuag at bethau yr ydym yn eu hoffi neu'n cytuno â nhw.Yn y pen draw, byddwn ni ddim ond yn rhyngweithio â phobl sydd âsafbwyntiau tebyg ar y cyfryngau cymdeithasol oherwydd hyn.

Y broblem yw ein bod yn colli didueddrwydd ac weithiau'n dod ynagored i safbwyntiau eithaf pegynol heb sylweddoli hynny. Yn ydiwedd, gallem fynd yn sownd mewn swigen o gamwybodaeth athwyllwybodaeth a heb fod yn gwybod hynny!

Dewch o hyd i fwy ar GOV.UK.

Deallusrwydd Artiffisial (AI)

Oherwydd y cynnydd ym mhoblogrwydd AI, gallwn nawr greu delweddau a fideos sy'n gwbl ffuglennol, ond yn realistig iawn.

Gellir trin lluniau a fideos sy'n bodoli eisoes, a gall gwybodaeth ffug ymddangos yn hynod gredadwy neu'n “real.”

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni fod hyd yn oed yn fwyymwybodol o gamwybodaeth a thwyllwybodaeth, a defnyddiomeddwl beirniadol wrth weld a rhannu pethau ar-lein.