Pwy sy'n haeddu anrhydedd, sut i ysgrifennu enwebiad a dyfyniadau enghreifftiol.
Cynnwys
Trosolwg
Mae'r system anrhydeddau yn ffordd o gydnabod pobl gyffredin am eu gwaith rhagorol, boed hwnnw'n waith cyflogedig neu wirfoddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am enwebiadau i gydnabod a gwobrwyo'r bobl hynny sy'n gosod esiampl glodwiw i eraill, gan arwain trwy eu cyfraniad personol a dod â rhagoriaeth i Gymru.
Os ydych chi'n credu bod rhywun yn haeddu cael ei gydnabod drwy gael ei anrhydeddu, rydym am ichi ei enwebu. Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ysgrifennu enwebiad a fydd yn arddangos ei gyflawniadau.
Pobl sy'n haeddu anrhydedd
Rhoddir anrhydeddau i bobl sy'n ymwneud â meysydd sy'n cynnwys:
- gwasanaethau cymunedol a gwirfoddol
- y celfyddydau a'r cyfryngau
- iechyd a gofal cymdeithasol
- chwaraeon
- addysg
- gwyddoniaeth a thechnoleg
- busnes a’r economi
- gwasanaeth sifil neu wleidyddol
- gwasanaethau cyhoeddus
Nod penodol anrhydeddau yw cydnabod yr aelodau hynny o gymdeithas sydd wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ganddynt mewn swyddi â thâl neu rolau gwirfoddol.
Dylid neilltuo anrhydeddau ar gyfer:
- y rheini sydd wedi newid pethau, yn arbennig drwy weithio'n galed i gyflawni rhywbeth ymarferol
- pobl y mae eu gwaith wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd ym Mhrydain
- pobl sydd wedi gwella enw da Cymru/y DU yn eu maes neu weithgaredd
Grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
Rydym yn awyddus i gael enwebiadau ar gyfer pobl o'r grwpiau canlynol, sydd wedi'u tangynrychioli yn y broses anrhydeddu yn y gorffennol:
- menywod
- pobl anabl
- pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
Pobl sydd eisoes wedi derbyn anrhydedd
Efallai bod darpar enwebeion eisoes wedi cael cydnabyddiaeth ar lefel leol neu genedlaethol, ac wedi cael gwobrau am eu cyflawniadau. Nid yw derbyn un anrhydedd neu wobr arall yn atal rhywun rhag derbyn anrhydedd ar lefel uwch. Fodd bynnag, dylai hyn fod ar gyfer cyflawniadau pellach o leiaf 5 mlynedd ymhellach yn eu gyrfa.
Pryd i enwebu rhywun
Gellir enwebu rhywun am anrhydedd ar unrhyw adeg yn ei fywyd, ond yn ddelfrydol dylai ddigwydd ar adeg pan fydd wedi cyflawni darn sylweddol o waith. Nid yw anrhydeddau yn gydnabyddiaeth o wasanaeth hir. Dim ond am hyd at flwyddyn ar ôl i unigolyn ymddeol o'i rôl y bydd anrhydedd yn cael ei hystyried (ond yn ddelfrydol 6 mis cyn ymddeol).
Gellir cyflwyno enwebiadau ar unrhyw adeg o'r flwyddyn.
Sut i ysgrifennu enwebiad
Nid oes ffordd gywir na ffordd anghywir o ysgrifennu enwebiad, ac nid oes angen iddo fod yn arbennig o ffurfiol. Y peth pwysicaf yw darparu tystiolaeth o'r hyn mae pobl wedi'i wneud, canlyniadau eu gwaith, a sut maen nhw wedi gwneud pethau'n well i eraill.
Mae pob enwebiad yn wahanol, ond dylai eich enwebiad:
- dechrau gyda pharagraff agoriadol cryf i fachu sylw'r darllenydd a dangos yr hyn sy'n gwneud yr enwebai yn arbennig
- adrodd hanes yr hyn y mae eich enwebai wedi'i gyflawni
- rhowch enghreifftiau o sut mae wedi dangos rhinweddau eithriadol
Dangoswch sut mae eich enwebai wedi:
- cyfrannu mewn ffordd unigryw at wella sefyllfa'r rheini sy'n llai abl i helpu eu hunain
- ymroi i wasanaeth gwirfoddol parhaus ac anhunanol
- dangos arloesedd neu greadigrwydd wrth gyflawni canlyniadau parhaol
Dylai enwebiad da hefyd gynnwys disgrifiad sydd mor fyw a chywir â phosibl o'r gwahaniaeth y mae cyfraniad yr enwebai wedi'i wneud.
Ceisiwch ateb y cwestiynau canlynol:
- sut oedd pethau cyn i'r enwebai ddechrau?
- sut mae pethau nawr?
- beth sy'n gwneud eich enwebai yn wahanol i eraill sy'n gwneud yr un peth?
Rhowch fanylion i gefnogi'r gosodiadau hyn. Dangoswch sut mae eich enwebai wedi:
- ennill parch cyfoedion/cydweithwyr a dod yn rhywun sy'n gosod esiampl yn ei faes.
- llwyddo, efallai yn wyneb anfanteision neu rwystrau, i sicrhau cyflawniad parhaus sydd wedi gofyn am ddewrder moesol, gweledigaeth, y gallu i wneud dewisiadau anodd, neu ymroddiad penderfynol a gwaith caled
Serch hynny, rhaid cofio bod angen cefnogi unrhyw osodiadau gyda thystiolaeth bob amser. Peidiwch â dweud bod cyflawniad wedi cael effaith eang heb ymhelaethu ar y gosodiad hwnnw. Disgrifiwch yr effaith dan sylw, gan ddangos pam ei bod yn bwysig.
Bydd y geiriau canlynol yn cryfhau eich enwebiad:
- enwau megis penderfyniad, ymrwymiad, parch, egni, ysbrydoliaeth, cynaliadwyedd, cydnabyddiaeth, effaith, perfformiad, llysgennad
- ansoddeiriau megis dibynadwy, diflino, cydwybodol, dylanwadol, perswadiol, angerddol, rhagorol
Beth i'w osgoi
Nid oes unrhyw ffordd anghywir o ysgrifennu enwebiad, ond mae pwyllgorau anrhydeddau yn ystyried rhinweddau/teilyngdod ar sail yr wybodaeth a roddir iddynt. Dim ond yr enwebiadau cryfaf fydd yn arwain at anrhydedd.
Mae'n rhaid bod digon o wybodaeth i wneud achos da o blaid yr enwebai. Ni ddylai eich enwebiad fod yn un o'r canlynol:
- CV estynedig
- rhestr o gyflawniadau addysgol
- rhestr o benodiadau, aelodaeth pwyllgorau, gwobrau neu swyddi
- disgrifiad swydd sy'n dangos yr hyn y mae'r unigolyn i fod i'w wneud
Gan fod enwebiadau gwael yn aml yn rhestru'r pethau hyn, cwyn aml gan bwyllgorau yw nad yw'r unigolyn sydd wedi ei enwebu yn gwneud dim mwy mewn gwirionedd na'r hyn sydd i'w ddisgwyl gan ei swydd, neu nad yw'n gwneud dim sy'n sefyll allan.
Yn hytrach, dylech ddisgrifio'r hyn sy'n arbennig/eithriadol am gyflawniadau eich enwebai, gan ddangos mewn modd cofiadwy, sy'n gallu darbwyllo'r darllenydd, sut a ble y mae'r enwebai wedi gwneud gwahaniaeth.
Enghreifftiau o enwebiadau llwyddiannus
Bydd yr enghreifftiau isod yn eich helpu i lunio geirda trawiadol a llawn gwybodaeth ar gyfer eich enwebai. Mae pob un yn ddetholiad o eirda hirach ar gyfer enwebai oedd yn llwyddiannus yn y broses Anrhydeddau.
Cyfraniad o safon fyd-eang i ymchwil gofal iechyd – Urdd Marchog
Mae’r unigolyn hwn yn adnabyddus yn rhyngwladol fel arweinydd yn ei faes ac mae wedi rhoi Cymru ar lwyfan y byd.
“Mae wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r ddealltwriaeth wyddonol a chyhoeddus o afiechydon seiciatrig a niwrolegol, ac wedi gwella’r amgylchedd academaidd yng Nghymru yn fawr, gan ddenu ymchwilwyr blaenllaw o bedwar ban byd. Mae wedi bod yn arweinydd rhagorol mewn Seiciatreg Academaidd dros y ddau ddegawd diwethaf ac wedi datblygu canolfan ragoriaeth sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac sydd o safon wirioneddol fyd-eang.
Ymysg ei brif gyfraniadau mae adnabod genynnau a llwybrau newydd sy’n gysylltiedig â thueddiad tuag at glefydau Sgitsoffrenia ac Alzheimer.
Mae gan y darganfyddiadau hyn botensial i lywio strategaethau therapiwtig ar gyfer clefydau difrifol nad ydynt wedi cael sylw digonol yn y gorffennol. Mae’r gwaith yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd a gofal pobl yng Nghymru, yn y DU a ledled y byd. Mae’n arwain yr agenda ymchwil, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio cysyllltiadau genetig newydd mewn clefydau niwroseiciatrig i nodi achosion sylfaenol, fel bod modd defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gynllunio profion diagnostig a therapïau.
Ar ei ben ei hun, mae wedi creu tîm â ffocws pendant sy’n gweithio ar eneteg clefydau newroseiciatrig, ac mae wedi llwyddo i ennill cyllid grant sylweddol yn gyson gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, y Wellcome Trust ac ariannwyr eraill. Mae wedi cyhoeddi dros 500 o bapurau ac adolygiadau – llawer ohonynt yn y cyfnodolion mwyaf blaenllaw.”
Beth sy’n gwneud hwn yn enwebiad gwych
- Mae pwysigrwydd ei gyfraniad personol yn glir. Mae’n arweinydd yn hytrach nag yn ddim ond un o dîm.
- Mae effaith ei waith wedi cael ei deimlo ar y lefelau rhyngwladol uchaf.
Arweinydd byd mewn maes clinigol newydd – CBE
Mae’r unigolyn hwn wedi trawsnewid prosesau cemegol drwy’r byd.
“Mae’n un o gemegwyr mwyaf amlwg a dylanwadol y byd, sydd wedi gwneud llawer o ddarganfyddiadau arloesol ym maes diwydiant ac yn y maes academaidd, gan gynnwys dros 40 mlynedd mewn catalysis. Catalysis yw’r cynnydd yng ngyfradd yr adwaith wrth ychwanegu sylwedd arall – catalyst. Mae ei ddarganfyddiadau wedi trawsnewid prosesau peirianneg gemegol drwy’r byd, gan arbed biliynau o bunnoedd bob blwyddyn. Mae wedi gwneud cyfraniad anferth i gymdeithas ac i’r amgylchedd drwy’r gwaith hwn, ac yn enwedig drwy ei ddarganfyddiad gwyddonol mwyaf: catalysis drwy aur.”
Beth sy’n gwneud hwn yn enwebiad gwych
- Mae’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel arbenigwr yn ei faes.
- Mae’n amlwg yn arloeswr yn ei faes.
Arwain ac Arloesi – OBE
“Rhoddodd 25 mlynedd o wasanaeth ymroddedig i’r coleg cyn ymddeol o’i swydd amser llawn fel Cyfarwyddwr Lletygarwch a Chyfarwyddwr Datblygu Sgiliau yn 2010. Mae’n dal i wneud cyfraniad nodedig i’r Coleg fel ymgymghorydd Sgiliau Rhyngwladol am oddeutu diwrnod yr wythnos. Mae ei ymroddiad a’i gyfraniad wedi cael effaith ar y diwydiant lletygarwch a thwristiaeth, yn arbennig ym maes hyfforddiant a datblygiad personol pobl ifanc a’r rhai a gyflogir yn y diwydiant, gan gynnwys pobl ifanc ag anghenion arbennig.
Mae wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r coleg. Mae wedi helpu i lywio gyrfaoedd a dyheadau miloedd o bobl ifanc yn yr ardal sydd wedi derbyn hyfforddiant yn ôl ei athroniaeth o ragoriaeth mewn addysg. Mae wedi helpu’r coleg i ennill enw da drwy’r byd fel canolfan ragoriaeth mewn lletygarwch ac i ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd, gan ddod â medalau aur adref i’r coleg a’i fyfyrwyr. Arweiniodd dîm mewn cystadleuaeth dan nawdd cymdeithas gogyddion Euro-Toques ym Mrwsel, a llwyddo i ennill Ysgol Westy Orau Ewrop o blith ymgeiswyr o 17 gwlad. Ym mis Tachwedd 2011, cafodd y coleg ei anrhydeddu yng Ngwobrau Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines am gyflawni rhagoriaeth rhyngwladol mewn lletygarwch ar bob lefel.”
Beth sy’n gwneud hwn yn enwebiad gwych
- Mae ei gyfraniad yn gadael gwaddol y bydd staff a myfyrwyr yn parhau i elwa arno.
- Tynnwyd sylw at y gwobrau a’r medalau y mae wedi’u hennill o’r blaen am yr hyn y mae wedi’i gyflawni.
Creu sefydliad drwy gefnogi ac eirioli – MBE
“Mae ei sefydliad wedi ymrwymo i gryfhau teuluoedd mewn cymunedau Mwslimaidd. Dros gyfnod o ddegawd a mwy, er gwaethaf bygythiadau o drais, mae wedi bod yn cynnig cyngor, cymorth ac eiriolaeth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sy’n wynebu pwysau cymdeithasol, gan gynnwys teimlo’n ynysig ac anawsterau a heriau bywyd teuluol a chymunedol. Mae hi hefyd wedi treulio cryn amser yn rheoli gwaith achosion cymhleth, gan gynnig cefnogaeth a cheisio cymorth i amddiffyn y rhai sy’n dioddef trais ar sail anrhydedd, camdriniaeth a throseddau, gan gynnwys achosion o briodas dan orfodaeth a gwragedd a phlant sydd wedi cael eu gadael.
Mae ei gwybodaeth a’i phrofiad yn y maes hwn yn golygu ei bod yn arbenigwraig genedlaethol a rhyngwladol ar drais ar sail anrhydedd, a chaiff geisiadau mynych i gynnal asesiadau risg arbenigol yn y maes, i oruchwylio’r broses o reoli achosion ac i ddarparu cyngor er mwyn asesu a nodi ffactorau risg neu bryderon. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith achos yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â’r heddlu, awdurdodau lleol, gweithwyr cymdeithasol penodedig ac asiantaethau perthnasol yn y trydydd sector. Yn 2010, bu’n gyfrifol am ddatblygu cyfeiriadur a chanolfan ar-lein gyntaf y DU ar Drais ar Sail Anrhydedd a Phriodas dan Orfodaeth.”
Beth sy’n gwneud hwn yn enwebiad gwych
- Mae ei phrofiad a’i gwybodaeth wedi ei sefydlu’n arbenigwraig ryngwladol yn ei maes.
- Mae’n dangos mai ei chanolfan oedd y cyntaf o’i bath yn y DU.
Gwneud mwy na’i ddyletswydd – BEM
Mae’r Gofalwr Cartref hwn yn cynnig cymorth sydd ymhell y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir ganddo yn ei swydd.
“Mae’n Ofalwr Cartref sy’n gweithio yn y gymuned leol gyda phobl oedrannus a bregus – llawer ohonynt heb berthnasau’n lleol i’w helpu. Mae ar alwad yn gyson ac yn wirfoddol, 24 awr y dydd, ac mae bob amser yn gwneud mwy na’r hyn y disgwylir i ofalwr ei wneud fel rhan o’i rôl. Mae bellach wedi pasio oed ymddeol ac mae’n dal i helpu pobl fel y mae wedi gwneud erioed, gan ddarparu bwyd o’i gegin ei hun, casglu presgripsiynau, siopa a mynd a phobl at y meddyg neu i’r ysbyty – gan wneud hynny bob amser gyda gwen ac ambell i jôc fach.
Bydd hefyd yn mynd i nôl papurau newydd ar gyfer ei gleientiaid, saith diwrnod yr wythnos. Ben bore, bydd yn casglu’r papurau a’r cylchgronau, ynghyd â bara a llaeth, ac yn eu dosbarthu.
Nid yw’n gweithio oriau penodol – yn hytrach mae’n gwneud popeth sydd angen ei wneud ar gyfer pob unigolyn pan fydd angen hynny. Mae’n gyndyn o fynd ar wyliau rhag ofn siomi’r rhai sy’n dibynnu arno am gymorth. Mae yno iddyn nhw bob dydd, gan gynnwys dydd Nadolig.
Mae ei gyfraniad yn ei gymuned yn wasanaeth hanfodol i bobl fethedig sy’n awyddus i barhau i fyw yn eu cartrefi. Heb ei gymorth ef, byddent yn gorfod dibynnu ar y gwasanaeth mwy cyfyngedig a gynigir gan y cyngor lleol, a heb ei ofal ef byddent wedi gorfod mynd i gartrefi gofal.”
Beth sy’n gwneud hwn yn enwebiad gwych
- Mae’r enwebai yn darparu gwasanaeth nad yw ar gael yn unman arall, ac mae’n mynd y tu hwn i’r hyn sydd ar gael drwy’r gwasanaethau statudol.
- Mae effaith ei waith i’w gweld ar lefel ymarferol mewn cymuned leol; mae hyn yn nodweddiadol o enwebai ar gyfer BEM.
Gallwch enwebu rhywun nawr
Gellir cyflwyno enwebiadau ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Bydd eich enwebiad yn cael ei adolygu a'i olygu gan Lywodraeth Cymru, ac efallai y byddwn yn dod yn ôl atoch am fwy o wybodaeth i egluro neu ddiweddaru cyflawniadau eich enwebai.
Gallwch:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i anrhydeddau@llyw.cymru.